9. Dadl Plaid Cymru: Y grant ar gyfer gwisg ysgol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 6:46, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o fy mhryderon ynglŷn â'r posibilrwydd o golli'r grant hwn, ac rwy'n ddiolchgar iddi am ei hymrwymiad ar hyn ac am gyfarfod â mi yn ei gylch ddoe. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ei bod yn ymrwymedig iawn yn bersonol i gefnogi ein disgyblion tlotaf, ond ar y mater hwn, mae arnom angen rhywfaint o eglurder a sicrwydd ar frys.

Yn y pum mlynedd diwethaf, mae'r grant ar gyfer gwisg ysgol wedi bod o fudd i 1,107 o ddisgyblion yn Nhorfaen—pobl ifanc y byddai eu teuluoedd fel arall wedi cael trafferth i fforddio gwisg ysgol. Eleni, ceir 202 o ddisgyblion a ddylai fod yn gymwys i gael y grant. Rydym wedi cael sicrwydd ynglŷn â chynllun newydd, ond mae cwestiynau pwysig yn dal heb eu hateb a buaswn yn ddiolchgar am ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cylch heddiw. Yn gyntaf, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet warantu y bydd pob disgybl a oedd yn gymwys i gael cymorth ar gyfer gwisg ysgol o dan yr hen gynllun yn gymwys o dan y cynllun newydd?

Cafwyd awgrym y gallai'r cynllun fod yn fwy hyblyg ac ariannu gweithgareddau eraill sy'n ymwneud ag ysgolion y mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd talu amdanynt. Nawr, rwy'n croesawu unrhyw help ychwanegol ar gyfer disgyblion gyda phrydau ysgol am ddim, ond mae'n rhaid i'r cymorth hwnnw fod yn ychwanegol ac nid ar draul cymorth a geir eisoes ar gyfer gwisgoedd ysgol. Ceir gormod o weithgareddau y mae plant o deuluoedd incwm isel wedi'u heithrio ohonynt—pethau fel tripiau ysgol, sy'n deilwng o ddadl yn ei hawl ei hun yma. Yn ôl yn 2015, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg blaenorol ein hadroddiad ar ein hymchwiliad i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel. Cafodd argymhelliad yn galw ar y Llywodraeth i gryfhau ac egluro canllawiau i ysgolion ar godi tâl am weithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg ei dderbyn mewn egwyddor. Credaf ei bod yn bryd edrych eto ar y canllawiau hynny a'u cryfhau.

Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: beth fydd y mecanwaith darparu ar gyfer y grant newydd hwn? Byddai gennyf bryderon difrifol ynglŷn â'r arian hwnnw'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion. Ceir mecanwaith cyflenwi sefydledig eisoes ar waith drwy awdurdodau lleol, ac mae teuluoedd yn gyfarwydd ag ef. Mae teuluoedd yn gyfarwydd â chael trafodaethau am fater sensitif incwm teuluol gyda chorff mwy o faint a mwy anhysbys yr awdurdod lleol. Ni hoffwn weld teuluoedd yn gorfod mynd i ofyn yn swyddfa'r ysgol er mwyn sicrhau bod gan eu plant y wisg sydd ei hangen arnynt i fynd i'r ysgol. Os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn mynnu bod ysgolion mewn sefyllfa well i ddarparu'r cymorth hwn, yna hoffwn weld y dystiolaeth ar hynny a gwybod yn union pa ymgynghori a fu gyda'r teuluoedd sy'n debygol o gael eu heffeithio.

Rwy'n croesawu'n fawr yr arwydd a roddodd y Llywodraeth y byddant yn ystyried rhoi canllawiau 2011 i gyrff llywodraethu ar wisg ysgol ar sail statudol. Maent yn ganllawiau da, ond nid ydynt yn cael eu gweithredu. Bydd gweithredu'r canllawiau'n briodol yn sicrhau bod gan bob teulu wisgoedd ysgol fforddiadwy. Rhaid inni sicrhau bod cymaint â phosibl o eitemau generig y gellir eu prynu mewn archfarchnadoedd yn cael eu defnyddio. Ar hyn o bryd, mae'r canllawiau yn nodi na ddylai ysgolion bennu mwy nag eitemau sylfaenol y gellir eu prynu o siopau cadwyn am gost resymol yn hytrach na chan un cyflenwr yn unig. Dylid osgoi eitemau costus fel blaser a dylid cyfyngu logos i un eitem am bris rhesymol, ond nid yw hyn yn digwydd. Mae cipolwg cyflym ar restr gwisg ysgol blwyddyn 7 un ysgol yn Nhorfaen yn cynnwys nifer o eitemau na ellir ond eu prynu o un siop arbenigol un unig: blaser, £27.50; tei ysgol, £4.50; ac mae'r pecyn addysg gorfforol yn £44 ar ei ben ei hun. Felly, cyfanswm o £76 am un set, a gwn fod hyn yn cael ei ailadrodd mewn ysgolion ledled Cymru. Nid yw'n ddigon da.

Roeddwn am gloi drwy dynnu sylw at ddau bwynt ehangach am y ffordd y gwnawn benderfyniadau ynghylch adnoddau ar gyfer ein disgyblion mwyaf anghenus. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r dull o weithredu cylch y gyllideb eleni, ac nid yw hyn wedi ei gyfeirio'n unig at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ond ar draws y Llywodraeth. Credaf ei fod wedi arwain at y sefyllfa a'r ddadl hefyd ynghylch cymorth parhaus ar gyfer lleiafrifoedd ethnig a disgyblion sy'n Sipsiwn Roma a Theithwyr. Nid wyf yn credu bod y penderfyniad i drosglwyddo'r cyfrifoldeb am ariannu i bob pwrpas i lywodraeth leol heb adnoddau digonol wedi'u nodi yn mynd i ddiwallu anghenion y bobl ifanc yr ydym yn ceisio sicrhau eu bod yn elwa. Roedd y cyllid wedi'i glustnodi yno am reswm.

Yn ail, rwy'n cwestiynu'r prosesau a arweiniodd at y penderfyniadau hyn yn y lle cyntaf ar draws y Llywodraeth, yn benodol ynghylch ymgynghori a diffyg asesiad effaith hawliau plant, sy'n gymwys nid yn unig i addysg, ond ar draws y Llywodraeth. Rydym yn datgan ein record ar hawliau plant yng Nghymru, ond rwy'n bell o fod wedi fy argyhoeddi ein bod yn gwneud agos digon i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw a sicrhau bod hawliau plant yn realiti yng Nghymru.

I gloi, rydym yn gwybod y bydd credyd cynhwysol yn gwthio miloedd yn fwy o blant i fyw mewn tlodi. Ni allai fod adeg waeth i gael gwared ar gymorth ar gyfer grantiau gwisg ysgol nac i osod rhwystrau rhag gallu eu hawlio. Diolch.