Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch, Lywydd. I'r Gweinidog, y cwestiynau hyn, rwy'n credu. Ym mis Gorffennaf 2016, dywedodd eich rhagflaenydd wrthym fod y strategaeth gofalwyr yn cael ei hadnewyddu a,
'Bydd hynny'n digwydd yn ddiweddarach eleni', a oedd, wrth gwrs, yn golygu 2016. Mae bellach yn 2018, a strategaeth gofalwyr 2013 yw'r strategaeth ddiweddaraf ar gyfer Cymru, ac, mewn datganiad ysgrifenedig y llynedd, roeddech yn dal i gyfeirio at y strategaeth fel strategaeth 2013-16. Rwy'n gwybod am eich grŵp cynghori'r Gweinidog, ond credaf ei bod yn syndod fod newid Gweinidog i'w weld wedi rhwystro'r broses o gyhoeddi'r strategaeth a oedd, yn ôl pob golwg, bron iawn yn barod i'w chyhoeddi. A allwch ddweud wrthym beth sydd wedi digwydd, os gwelwch yn dda?