2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 25 Ebrill 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, mae Lloegr a'r Alban yn cyhoeddi data yn gyson ar lawdriniaethau sy'n cael eu canslo. A oes yna rheswm pam nad ydych chi'n gwneud hynny ar gyfer Cymru?
Nid ydym yn eu cyhoeddi'n rheolaidd—rydym yn ateb ymatebion i gyhoeddi llawdriniaethau sy'n cael eu canslo. Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i ychwanegu at ystadegau swyddogol ar y mater hwn oni bai bod yna achos cryf dros wneud hynny. Rwy'n hapus i wrando ar yr achos hwnnw fel y bydd yn cael ei wneud.
Mae o'n rhywbeth sydd yn poeni fy etholwyr i. Ym mis Ionawr, mi wnaethoch chi ymddiheuro am lawdriniaethau yn cael eu canslo gan ddweud bryd hynny mai dyfodiad y gaeaf o rywle oedd ar fai, ond mae llawdriniaethau yn dal i gael eu canslo wythnos ar ôl wythnos. Rydw i wedi cael sawl etholwr yn dod i'm gweld i yn ddiweddar i sôn am driniaethau yn cael eu canslo, nid unwaith, nid dwywaith, nid dair gwaith, ond mwy na hynny. Mi oedd yna un gŵr yn dechrau gweld arwyddion o broblemau iechyd meddwl yn ei wraig oherwydd y straen o orfod cael triniaethau wedi'u canslo dro ar ôl tro. Y cwestiwn ydy: beth ydym ni'n ei wneud am hyn? A oes yna le i gyflwyno cymhellion ariannol er mwyn i fyrddau iechyd beidio â chanslo? A oes yna le i roi iawndal i gleifion hyd yn oed neu beth am drio sicrhau bod triniaethau ddim yn cael eu canslo dro ar ôl tro efallai?
Rwy'n cydnabod bod hwn yn fater sy'n peri gofid ac anghyfleustra sylweddol i unrhyw glaf a'i deulu pan fo llawdriniaeth yn cael ei chanslo, boed yn llawdriniaeth fechan neu'n un fwy sylweddol. Mae her mewn perthynas â materion unigol, ac os yw eisiau cysylltu â mi gyda'r amgylchiadau arbennig y mae wedi cyfeirio atynt, yna byddaf yn hapus i'w codi gyda'r bwrdd iechyd mewn perthynas â'r rhesymau am hynny. Yn ogystal â'r adegau hynny lle y ceir materion unigol, mae yna heriau system gyfan rydym yn eu cydnabod ac mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r llawdriniaethau a gaiff eu gohirio yn cael eu gohirio gan yr unigolyn dan sylw yn hytrach na chan y gwasanaeth iechyd. Ein hymgais yw ceisio deall pam fod hynny'n digwydd ac atal y llawdriniaethau hynny rhag cael eu canslo, boed hynny gan y dinesydd neu gan y gwasanaeth. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, ar hynny, fy mod ychydig yn fwy amheus ynglŷn â gwerth mentrau ariannol neu sancsiynau i wneud hynny o ran yr effaith y bydd hynny'n ei chael ar y system, oherwydd, pan fo'r gwasanaeth iechyd yn canslo llawdriniaeth, y rheswm pennaf am hynny yw oherwydd nad oes ganddynt y capasiti i'w wneud ac mae hynny'n aml yn ymwneud â'r ffaith bod gormod o ofal heb ei drefnu yn llifo i'r system gofal sylfaenol neu oherwydd diffyg argaeledd staff heb ei ragweld. Nid wyf yn credu y byddai cymhellion ariannol neu sancsiynau yn helpu hynny o reidrwydd. Fodd bynnag, rwy'n credu bod ein gallu i gynllunio a darparu ar draws y gwasanaeth yn bwysicach. Dyna pam rydym wedi dod â fforymau cynllunio rhanbarthol yn ne-ddwyrain Cymru, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru at ei gilydd, a pham ein bod yn parhau i gefnogi'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru, nid yn unig er mwyn cyflawni gwelliant sylweddol mewn amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth erbyn diwedd y flwyddyn ariannol sydd newydd ddod i ben, ond byddant hefyd yn parhau i dderbyn cymorth ar gyfer y dyfodol.
Rydych yn sôn am gleifion yn canslo eu llawdriniaethau eu hunain, ac mae'n rhywbeth rydym yn ei glywed gennych chi a'ch Llywodraeth yn weddol aml, mai bai y claf yn aml yw'r ffaith ei fod yn dod i'r ysbyty pan na ddylai ac am fod yn sâl, efallai, pan na ddylent. Gallaf rannu straeon â chi am bobl y cafodd eu llawdriniaethau eu canslo pan oeddent ar y troli wrth ddrws y theatr, ac nid am y tro cyntaf—am yr ail, am y trydydd tro. Ni allwn barhau i feio'r claf am ddilyn y llwybr anghywir. Gwyddom fod llawdriniaethau'n cael eu canslo am bob math o wahanol resymau, ac wrth gwrs, mae rhai cleifion yn canslo eu triniaethau eu hunain. Gwyddom fod yna broblemau gweinyddol—llawdriniaethau'n cael eu trefnu ar gyfer adegau pan fo clinigwyr ar wyliau. Ni ddylai ddigwydd, ond iawn, mae'n digwydd o bryd i'w gilydd. Gwyddom fod gennym brinder staff. Nid wyf am sôn am hynny heddiw—bydd gennyf ddigon o gyfle i ddod yn ôl at hynny. Ond yn aml iawn, gwraidd y rheswm pam fod llawdriniaeth yn cael ei chanslo yw bod gwely ar goll yn rhywle yn y system. Rydym wedi colli 1,000 o welyau ers 2011, naill ai mewn ysbytai cyffredinol dosbarth neu mewn ysbytai cymunedol. Ac oes, mae angen i ni sicrhau bod cleifion yn dychwelyd adref i'w man preswyl arferol mor gyflym ag y gallwn, ond rwy'n gwbl argyhoeddedig fod colli gwelyau cymunedol yn costio'n ddrud iawn i'n GIG, ac yn costio'n ddrud iawn i'n cleifion. A wnewch chi gytuno â mi fod yr amser wedi dod i adfer gwelyau cymunedol a gollwyd? Oherwydd, fel arall, yr hyn y byddwn yn ei weld fydd cleifion yn cael eu dal mewn system a llawdriniaethau'n cael eu canslo dro ar ôl tro a'r effaith andwyol y mae hynny'n ei gael ar gleifion, nid yn unig yn y tymor byr, ond yn y tymor hir hefyd.
Diolch i chi am y cwestiwn dilynol. Rwy'n credu ei bod yn hynod anffodus eich bod yn gwyrdroi fy ngeiriau'n llwyr. Nid wyf yn beio'r cleifion am fod yn sâl na'n anghyfleus i'r gwasanaeth iechyd. Mae'n ffaith, fodd bynnag, fod dros hanner y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo yn cael eu canslo gan y claf. Mae angen deall pam fod hynny'n digwydd, er mwyn deall sut y gallwn helpu cleifion i gynllunio'r hyn y maent eisiau ei wneud ac i ddeall yr effaith ar y gwasanaeth. Yn ogystal â hynny, mae angen i ni ymdrin â'r materion sydd o fewn rheolaeth y gwasanaeth hefyd. Credaf fy mod yn eithaf clir yn nodi hynny, yn ysgrifenedig ac ar bob achlysur pan fo cwestiynau'n cael eu gofyn. Mae rhan o hynny yn ymwneud â'r her mewn perthynas â gwelyau mewn gwirionedd, ac nid niferoedd y gwelyau yn unig ond niferoedd y staff sydd eu hangen i staffio'r gwelyau, ond hefyd cymysgedd y gwelyau a lle mae, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â chael gwelyau priodol ar gyfer gofal cam-i-fyny cam-i-lawr drwy'r system ysbyty, a gallai hynny ymwneud â'r ffocws adsefydlu i gael pobl allan o ysbyty acíwt.
Ond rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn effeithlonrwydd drwy'r gwasanaeth eisoes. Mae cynnydd sylweddol mewn cyfraddau llawdriniaethau dydd yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Dyna pam ein bod yn gallu bod yn fwy effeithlon wrth ymgymryd â mwy o lawdriniaethau nag erioed o'r blaen mewn gwirionedd. Ond yn benodol, mae'n ymwneud â chynllunio'r gweithgarwch hwnnw drwy gydol y flwyddyn. Mae rhan o'r her honno'n ymwneud â'r ffaith ein bod, a bod yn onest, yn ystod chwarter olaf pob blwyddyn—o fis Ionawr i fis Mawrth—yn cynllunio gormod o weithgarwch. Nid ydym yn gallu rhoi mwy o bwyslais ymlaen llaw ar y gweithgarwch hwnnw drwy'r gwanwyn a'r haf, ac mae hynny'n rhan o'r her a osodais ar gyfer y gwasanaeth iechyd eleni eto: cyflawni hyd yn oed mwy o'r gweithgarwch hwnnw y gellir ei gynllunio a'i gyflawni yn ystod misoedd yr haf. Mae ceisio cyflawni'r rhan fwyaf o weithgarwch rhwng mis Ionawr a mis Mawrth yn amlwg yn creu risg, a gwelsom hynny eleni, lle y cafwyd digwyddiadau tywydd sylweddol, ac mae hynny wedi effeithio, nid yn unig ar y gofal heb ei drefnu o fewn y system, ond ar y gofal wedi'i gynllunio yn ogystal. Mae hynny'n sicr yn rhan o'n her. Mae'r gwasanaeth iechyd yn deall hynny, ac rwy'n deall hynny, ac rwy'n disgwyl gweld gwelliant sylweddol o fewn chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol newydd hon.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. I'r Gweinidog, y cwestiynau hyn, rwy'n credu. Ym mis Gorffennaf 2016, dywedodd eich rhagflaenydd wrthym fod y strategaeth gofalwyr yn cael ei hadnewyddu a,
'Bydd hynny'n digwydd yn ddiweddarach eleni', a oedd, wrth gwrs, yn golygu 2016. Mae bellach yn 2018, a strategaeth gofalwyr 2013 yw'r strategaeth ddiweddaraf ar gyfer Cymru, ac, mewn datganiad ysgrifenedig y llynedd, roeddech yn dal i gyfeirio at y strategaeth fel strategaeth 2013-16. Rwy'n gwybod am eich grŵp cynghori'r Gweinidog, ond credaf ei bod yn syndod fod newid Gweinidog i'w weld wedi rhwystro'r broses o gyhoeddi'r strategaeth a oedd, yn ôl pob golwg, bron iawn yn barod i'w chyhoeddi. A allwch ddweud wrthym beth sydd wedi digwydd, os gwelwch yn dda?
Gallaf, yn wir. Diolch i chi am y cwestiwn, Suzy. Nid yw'n wir, mewn gwirionedd, fod y broses o adnewyddu ac adolygu'r strategaeth wedi'i rhwystro. Mae ar y gweill, ond nid ydym yn aros am hynny ychwaith. Rydym yn bwrw ati ar amrywiaeth o faterion mewn perthynas â gofalwyr, ac nid ydym ychwaith yn aros i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr ei wneud hefyd. Cyfeiriaf yn ôl at y datganiad a wneuthum yn flaenorol yma yn y Cynulliad. Felly, er enghraifft, rydym newydd lansio'r pecyn cymorth i ysgolion ar adnabod gofalwyr. Felly, mae gwaith aruthrol yn cael ei wneud, ac mae'n canolbwyntio ar adnabod, darparu cyngor a chymorth ar gyfer y gofalwyr hynny, gan gynnwys mewn perthynas â seibiant—a seibiant hyblyg yn ogystal—ond mae hefyd yn canolbwyntio ar ddod â'r trydydd sector, yr awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill sy'n gallu darparu'r gwasanaeth hollgynhwysol hwnnw ar gyfer gofalwyr at ei gilydd. Ond y peth allweddol yw ein bod yn bwrw ymlaen â hynny tra ein bod hefyd yn ceisio adnewyddu ac adolygu'r strategaeth honno. Mae strategaethau yn wych, ac mae angen eu hadnewyddu a'u hadolygu. Mae angen i ni hefyd fwrw ymlaen â'r camau gweithredu go iawn a fydd yn cyflawni'r canlyniadau cywir i ofalwyr yn ogystal.
Diolch i chi, Weinidog. Rwyf bob amser yn hapus i groesawu gweithredu, cyhyd â bod y gweithredu hwnnw'n digwydd ac yn effeithiol, gawn ni ddweud. Nid wyf yn credu bod eich ateb wedi egluro'n hollol yr hyn sydd wedi digwydd yn y 18 mis diwethaf, o ran beth a ddigwyddodd i strategaeth a oedd bron yn barod. Efallai y caf symud ymlaen at rai o'r pwyntiau eraill y mae gofalwyr wedi'u codi mewn cyfarfodydd, ac mae un ohonynt yn ymwneud â'r amrywio a welir rhwng dealltwriaeth gwahanol awdurdodau lleol o hawliau gofalwyr, ac mewn rhai adrannau o fewn awdurdodau lleol mewn gwirionedd. A allwch egluro pwy sy'n gyfrifol am sicrhau cysondeb asesu mewn gwahanol gynghorau, a pham fod hon yn broblem barhaus?
Credaf eich bod yn gywir i nodi mater sy'n dilyn ymlaen o'r dull rydym wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â chydgynhyrchu, a gefnogir gan yr holl Aelodau yma, sef y dylai asesu anghenion gofalwyr fod yn rhywbeth rydym yn gweithio arno mewn cydweithrediad â'r unigolyn sy'n chwilio am y pecyn gofal cywir—y pecyn priodol o gymorth a chyngor ar eu cyfer hwy—ond mae ganddynt hefyd hawl i eiriolaeth yn ogystal, wrth gwrs, a hawl i leisio barn os nad ydynt yn credu bod y pecyn priodol wedi cael ei ddarparu ar eu cyfer. Mae pob un o'r pethau hynny yno o ran y ddeddfwriaeth, ond o ran y codau yn ogystal.
Nawr, os ydych eisiau tynnu fy sylw at enghreifftiau penodol, Suzy, rwy'n fwy na pharod i edrych arnynt. Wrth gwrs, bydd amrywio yn y ffordd y gwneir hyn rhwng awdurdodau lleol, ond ein disgwyliad ni fel Llywodraeth Cymru yw bod y ffocws cyfan ym mhob achos unigol ar sicrhau bod hyn yn cael ei wneud gyda'r unigolyn er mwyn gallu darparu'r pecyn cymorth cywir ar eu cyfer fel gofalwyr, ac os nad ydynt yn fodlon â hynny, yna gallant droi at eiriolaeth, mae ganddynt hawl i herio'r pecyn a gyflwynwyd iddynt. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gwaith aruthrol yn cael ei wneud ar lawr gwlad hefyd gan bobl megis Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, ac rwy'n cyfarfod â hwy'n rheolaidd ac yn codi'r materion hyn ar ran unigolion nad ydynt yn hapus gyda'r pecyn.
Mae'r cefndir i hyn yn ogystal, mae'n rhaid i mi ddweud, sef y cyd-destun—wrth greu'r pecyn cymorth a chyngor priodol, gan gynnwys cymorth gofal seibiant ar gyfer gofalwyr, rydym yn gwneud hynny yn y cyd-destun rydym ynddo. Fe welwch awdurdodau lleol yn y rhanbarth y mae'r Aelod yn ei gynrychioli yn dweud hefyd, 'Yn ddelfrydol, byddem yn hoffi cynnig rhywbeth mwy gwerthfawr, dyfnach, ehangach i'r unigolyn hwnnw. Ni allwn wneud hynny oherwydd y toriadau mewn awdurdodau lleol', a dyna yw realiti rhai o'r penderfyniadau a wneir mewn modd cydgynhyrchiol. Mae'n iawn ei wneud mewn modd cydgynhyrchiol, ond pan fydd awdurdod lleol yn dweud, 'Wel, oherwydd y cyfyngiadau ariannol rydym yn eu hwynebu, o ganlyniad i'n sefyllfa gyda chyllid cyni, ni allwn ddarparu'r holl wasanaethau roeddem eisiau eu darparu', mae hynny'n effeithio ar yr unigolyn yn y pen draw. Mae'n drasiedi pan fyddwn yn gweld hynny'n digwydd, ac fe'i gwelais yn digwydd pan gyfarfûm â gofalwyr ifanc yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar; roeddent yn hoffi'r dull rydym wedi ei fabwysiadu mewn perthynas â hyn, roeddent yn hoffi'r ffaith bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn awr yn fwy nag erioed, ond roeddent yn teimlo'n rhwystredig pan oeddent yn clywed pobl yn eu hardal leol yn dweud, gyda'r ewyllys gorau yn y byd, 'Wel, y clwb dydd, y noson allan, beth bynnag—nid yw ar gael mwyach. Bydd yn rhaid i ni edrych ar rywbeth arall'.
Felly, mae'n rhaid i ni ymgodymu â hyn drwy'r amser, o ran sut rydym yn creu'r pecyn cywir. Ond mae ganddynt eiriolaeth, mae ganddynt hawl i benderfynu ar y cyd a ddylid cyflwyno'r pecyn hwn, a chredaf mai dyna'r fframwaith deddfwriaethol priodol i'w roi ar waith.
Diolch i chi am yr ateb. Ni allaf ddweud fy mod yn arbennig o fodlon â'ch ymateb y gallai cydgynhyrchu fod yn gyfrifol am yr amrywio yn y ddarpariaeth, oherwydd rydym i gyd yn cytuno, wrth gwrs, os nad ydym yn canolbwyntio ar y claf, yna ni fydd unrhyw strategaeth yn gweithio. Roedd fy nghwestiwn yn ymwneud ag asesiadau, a safon a chysondeb yr asesiadau hynny, ac nid wyf yn credu eich bod wedi ateb hynny. Credaf fod pawb ohonom yn gwybod, wrth gwrs, o ran rhoi hawliau i bobl, fod y modd y caiff yr hawliau hynny eu gweithredu yn eithaf ysbeidiol ac yn amrywiol tu hwnt mewn amryw o ardaloedd ledled Cymru.
Fe sonioch am y gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn Sir Gaerfyrddin. Efallai y byddwch yn gwybod fy mod yn cefnogi'r egwyddor a nodwyd yn y ddeiseb honno, i helpu gofalwyr sy'n oedolion ifanc i fanteisio mwy ar addysg a phrentisiaethau ôl-16 heb ddatgymhelliad ariannol diangen. Rwy'n credu, ar y cyd â chynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth rad ac am ddim neu am bris gostyngol, nad yw'n dibynnu ar ailwladoli unrhyw fysiau, fod hwn yn bolisi newydd wedi'i dargedu at helpu gofalwyr sy'n oedolion ifanc i sicrhau dyfodol ochr yn ochr â gofalu neu ar ôl gofalu.
Mae'n rhaid eich bod wedi cael canlyniadau'r asesiad o strategaeth 2013-16 erbyn hyn. Beth yw'r canfyddiadau ar gyfer bodloni anghenion addysg a chyflogaeth gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn y strategaeth honno?
Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at Suzy gyda manylion y canlyniadau hynny, ond hefyd y strategaethau ehangach yr ydym yn bwrw ymlaen â hwy ar gyfer cyflogadwyedd. Ond wrth gwrs, mae yna hefyd amrywiaeth eang o fesurau cymorth eraill y gallwn eu rhoi ar waith ar gyfer gofalwyr sy'n oedolion ifanc, a gwn y bydd yn ymuno â mi—ac rwy'n hapus i ysgrifennu ati ar y mater penodol hwnnw—i groesawu'r ffaith bod nifer o awdurdodau lleol bellach yn darparu esemptiad treth i ofalwyr yn ogystal.
Felly, rwy'n hapus i ysgrifennu ati ar y mater penodol hwnnw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi ar hynny, ond rwyf hefyd yn hapus, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n cefnogi'r ffaith, y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr yn ceisio bwrw ymlaen â llawer o'r materion hyn yn awr a datblygu ffrydiau gwaith o'u hamgylch.
Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru 2016-17, mae gordewdra yn waeth yng Nghymru nag unrhyw wlad arall yn y DU. Ystyrir bod 59 y cant o oedolion dros bwysau, a bod 26 y cant o blant sy'n dechrau yn yr ysgol gynradd yn ordew neu dros bwysau. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant yng Nghymru, ac yn enwedig yn y rhanbarthau o Gymru sy'n ddifreintiedig yn economaidd, megis fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru?
Mae gennym amrywiaeth o fesurau ar waith eisoes, er enghraifft y rhwydwaith ysgolion iach, y 10 cam i bwysau iach, ac yn wir, y filltir ddyddiol a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Rebecca Evans pan oedd hi'n Weinidog iechyd y cyhoedd. Mae amrywiaeth o bethau rydym eisoes yn eu gwneud i gymell mwy o weithgarwch corfforol, mwy o ymwybyddiaeth o ymddygiad iechyd, gan gynnwys deiet wrth gwrs, ond rydym hefyd yn edrych ar y strategaeth ordewdra, a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn rhan o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac rwy'n edrych ymlaen, cyn yr haf, i adrodd yn ôl yn ffurfiol i'r lle hwn ar y camau rydym yn eu cymryd i ddatblygu ymgynghoriad ar ddyfodol y strategaeth honno.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n destun pryder fod gwaith ymchwil a wnaed gan Brifysgol Southampton wedi dangos mai 15 y cant yn unig o ysgolion sy'n darparu dwy awr o ymarfer corff bob wythnos ar gyfer plant rhwng saith ac 11 mlwydd oed, ac mae rhai'n teimlo y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu ag ysgolion, maethegwyr a rhieni i wrthdroi'r cynnydd mewn gordewdra ymhlith plant ac mai'r ymgysylltiad hwn yw'r ateb, o bosibl, i ddatrys yr argyfwng gordewdra yng Nghymru.
Mae amrywiaeth o fesurau yma, ac mewn gwirionedd, wrth feddwl am yr heriau sy'n ein hwynebu, mae hyn yn rhan o'r heriau cyffredinol a wynebwn gydag ystod o ganlyniadau iechyd y cyhoedd: ysmygu, yfed alcohol, deiet ac ymarfer corff, ac yn arbennig deiet ac ymarfer corff pan fo'n cyfeirio at ordewdra, ond alcohol hefyd. O ran rôl ysgolion, nid yw'n ymwneud yn unig â'r plant pan fyddant yn yr ysgol wrth gwrs, ond mae hynny'n rhan sylweddol ohono, a dyna pam rwy'n falch iawn o fod yn parhau i weithio gyda fy nghyd-Aelod cabinet, yr Ysgrifennydd addysg, ar ddiwygio'r cwricwlwm yn ogystal â'r maes iechyd a llesiant ynghylch ymddygiad yr ydym eisiau i blant ei ystyried tra'u bod yn yr ysgol.
Ond mae yna bwynt ehangach ynglŷn â'r teulu a'r gymuned lle mae plant yn byw mewn gwirionedd, a'r hyn a ystyrir yn ymddygiadau disgwyliedig o fewn y teulu a'r dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud, yn ogystal ag annog pobl i newid y ffordd y maent yn darparu bwyd wrth gwrs. Felly, mae'r camau sydd eisoes wedi'u cymryd, er enghraifft, i leihau siwgr mewn diodydd, i'w croesawu. Buaswn yn hoffi gweld gweithgynhyrchwyr bwyd yn cymryd mwy o gamau tebyg. Rwy'n meddwl am y cynnwys braster a materion eraill hefyd, ond ni allwn ei weld ond fel un rhan yn unig o hyn. Dyna pam fy mod yn gweld y plentyn yn ei gyd-destun, y teulu yn ei gyd-destun, ac mae angen i'n helfen ordewdra feddwl yn ofalus ynglŷn â sut y mae'n mynd i'r afael â phob un o'r rheini, y dulliau sydd ar gael i'r Llywodraeth, a'r partneriaid y mae angen i ni weithio gyda hwy i wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd y cyhoedd yn awr ac yn y dyfodol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n galonogol clywed bod ymgysylltu â theuluoedd yn flaenoriaeth i chi, a buaswn hefyd yn hoffi pe baech yn archwilio ffyrdd o gynyddu'r ystod o weithgareddau allgyrsiol. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith yn y maes hwn. Mae 48 y cant o'r disgyblion ym mlynyddoedd 3 i 11 yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol wedi'i drefnu. Hoffwn dynnu sylw at lwyddiant Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad. Mae'n rhaid i ni annog pob plentyn i fod mor heini ag y gallant, ac annog plant sy'n rhagori mewn chwaraeon ar yr un pryd. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y 52 y cant o blant nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau corfforol, tra'u bod hefyd, ar yr un pryd, yn annog ac yn cynorthwyo'r clybiau chwaraeon lleol sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol ynghyd ag unigolion sydd â thalent ond nad oes ganddynt yr arian angenrheidiol i ragori yn eu camp?
Rwyf am geisio gwneud tri phwynt penodol. O ran chwaraeon wedi'u trefnu, boed yn chwaraeon elitaidd ai peidio, a'r rôl y gallant ei chwarae mewn perthynas â modelau rôl, heb fod yn gyfyngedig i broffil yn y cyfryngau, ond bod yn weithredol ac ymgysylltu o fewn eu cymuned, a'i rôl gysylltiedig â chwaraeon cymunedol—. Mewn gwaith a wneuthum o'r blaen gyda Rebecca Evans pan oedd hi'n Weinidog iechyd y cyhoedd—gwaith rwy'n bwriadu ei ailadrodd ac ymgymryd ag ef gyda fy nghyd-Aelod Dafydd Elis-Thomas—rwy'n edrych ar gyfraniad parhaus chwaraeon wedi'u trefnu i weithgarwch corfforol ehangach, ac mae'r rôl y mae cyrff llywodraethu yn ei chwarae a'r rôl y mae sefydliadau chwaraeon arwyddocaol ac elitaidd yn ei chwarae yn hybu ymgysylltiad cymunedol yn rhan o'r hyn rydym yn ei wneud. Gweithgarwch wedi'i drefnu yw hwnnw yn hytrach na chysylltiedig. Rwy'n edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth ar hynny.
O ran gweithgarwch corfforol, ac nid yw hyn, wrth gwrs, yn ymwneud yn unig â gweithgarwch o fewn yr ysgol, ond mae'n ymwneud â sut y mae pobl yn dewis byw eu bywydau a sut rydym yn annog ac yn galluogi hynny ac yn ei gwneud yn haws. Dyna pam fod teithio llesol yn bolisi arbennig o bwysig er mwyn normaleiddio cerdded neu feicio i'r ysgol, ac i normaleiddio cerdded neu feicio y tu hwnt i'r teithiau i ac o'r ysgol. A dyna hefyd pam rydym yn parhau i ariannu gweithgareddau fel rhaglen gyfoethogi gwyliau'r haf—gweithgarwch ychwanegol sy'n gysylltiedig â gweithgarwch corfforol, yn gysylltiedig â dysgu o fewn yr ysgol, a hefyd, yn bwysig, fel y dywedais ar y dechrau, yn gysylltiedig ag ymgysylltiad priodol â'r teulu cyfan, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol.