Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch i chi, Weinidog. Rwyf bob amser yn hapus i groesawu gweithredu, cyhyd â bod y gweithredu hwnnw'n digwydd ac yn effeithiol, gawn ni ddweud. Nid wyf yn credu bod eich ateb wedi egluro'n hollol yr hyn sydd wedi digwydd yn y 18 mis diwethaf, o ran beth a ddigwyddodd i strategaeth a oedd bron yn barod. Efallai y caf symud ymlaen at rai o'r pwyntiau eraill y mae gofalwyr wedi'u codi mewn cyfarfodydd, ac mae un ohonynt yn ymwneud â'r amrywio a welir rhwng dealltwriaeth gwahanol awdurdodau lleol o hawliau gofalwyr, ac mewn rhai adrannau o fewn awdurdodau lleol mewn gwirionedd. A allwch egluro pwy sy'n gyfrifol am sicrhau cysondeb asesu mewn gwahanol gynghorau, a pham fod hon yn broblem barhaus?