Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 25 Ebrill 2018.
Mae o'n rhywbeth sydd yn poeni fy etholwyr i. Ym mis Ionawr, mi wnaethoch chi ymddiheuro am lawdriniaethau yn cael eu canslo gan ddweud bryd hynny mai dyfodiad y gaeaf o rywle oedd ar fai, ond mae llawdriniaethau yn dal i gael eu canslo wythnos ar ôl wythnos. Rydw i wedi cael sawl etholwr yn dod i'm gweld i yn ddiweddar i sôn am driniaethau yn cael eu canslo, nid unwaith, nid dwywaith, nid dair gwaith, ond mwy na hynny. Mi oedd yna un gŵr yn dechrau gweld arwyddion o broblemau iechyd meddwl yn ei wraig oherwydd y straen o orfod cael triniaethau wedi'u canslo dro ar ôl tro. Y cwestiwn ydy: beth ydym ni'n ei wneud am hyn? A oes yna le i gyflwyno cymhellion ariannol er mwyn i fyrddau iechyd beidio â chanslo? A oes yna le i roi iawndal i gleifion hyd yn oed neu beth am drio sicrhau bod triniaethau ddim yn cael eu canslo dro ar ôl tro efallai?