Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:52, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at Suzy gyda manylion y canlyniadau hynny, ond hefyd y strategaethau ehangach yr ydym yn bwrw ymlaen â hwy ar gyfer cyflogadwyedd. Ond wrth gwrs, mae yna hefyd amrywiaeth eang o fesurau cymorth eraill y gallwn eu rhoi ar waith ar gyfer gofalwyr sy'n oedolion ifanc, a gwn y bydd yn ymuno â mi—ac rwy'n hapus i ysgrifennu ati ar y mater penodol hwnnw—i groesawu'r ffaith bod nifer o awdurdodau lleol bellach yn darparu esemptiad treth i ofalwyr yn ogystal.

Felly, rwy'n hapus i ysgrifennu ati ar y mater penodol hwnnw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi ar hynny, ond rwyf hefyd yn hapus, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n cefnogi'r ffaith, y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr yn ceisio bwrw ymlaen â llawer o'r materion hyn yn awr a datblygu ffrydiau gwaith o'u hamgylch.