Canser y Prostad

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:07, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r hyn sydd newydd gael ei amlinellu mewn perthynas â Betsi Cadwaladr hefyd yn wir am Hywel Dda, ac mae gennyf etholwr sydd newydd gael ei hysbysu bod yn rhaid iddo dalu £1,000 am sgan MRI amlbarametrig. Y rheswm am hynny, fel y dywedwch, yw bod canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn sôn am sgan o'r fath yn dilyn biopsi, ond mae gennym fyrddau iechyd yng Nghymru—Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf ac Aneurin Bevan—sy'n cynnig y sganiau hyn fel adnodd diagnostig rheolaidd, fel sydd newydd gael ei amlinellu, gyda chyfraddau canfod gwell o tua 93 y cant, a llai o risg o waedu, haint a sepsis yn sgil defnyddio peth o'r offer mwy ymyrrol ar gyfer canser y prostad yn dilyn lefelau uchel o antigenau prostad-benodol.

Nid wyf yn deall—ysgrifennais atoch mewn perthynas â'r etholwr hwn—pam fod gennym loteri cod post o'r fath ar ddiagnosis canser y prostad yng Nghymru. Oes, mae gennym ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ond gofynion sylfaenol yw'r rheini. Gan fod gennym dri bwrdd iechyd yng Nghymru sy'n cynnig mwy, does bosibl na ddylai pob un o'r byrddau iechyd hyn yng Nghymru gynnig mwy, oherwydd fel y dywedwch yn eich llythyr ataf, ceir tystiolaeth sy'n dangos bod hwn yn arfer da. Wel, os yw'n arfer da ac os oes tystiolaeth i'w gefnogi, cynigiwch ef i bawb ac i fy etholwyr i yn Hywel Dda yn ogystal.