Canser y Prostad

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:08, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i Mark Isherwood, mae yna gynlluniau peilot ar waith yng Nghymru. Os oes consensws clinigol newydd yn seiliedig ar dystiolaeth, yng Nghymru, gallwn gyflawni newid ar draws y system gyfan. Dyna ein sefyllfa ar hyn o bryd. Mae yna gynlluniau peilot yn y tri bwrdd iechyd a grybwyllwyd gennych. Mae'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny'n tyfu, a byddwn wedyn yn gallu dewis ar sail y dystiolaeth ac ar sail y cyngor clinigol gorau. Tan hynny, nid wyf yn credu y byddai unrhyw Weinidog iechyd yn dweud eu bod yn dymuno cyfarwyddo'r gwasanaeth iechyd i gynnig gwasanaeth nad yw'n seiliedig ar y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau sydd ar gael.