Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:43, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Rydych yn sôn am gleifion yn canslo eu llawdriniaethau eu hunain, ac mae'n rhywbeth rydym yn ei glywed gennych chi a'ch Llywodraeth yn weddol aml, mai bai y claf yn aml yw'r ffaith ei fod yn dod i'r ysbyty pan na ddylai ac am fod yn sâl, efallai, pan na ddylent. Gallaf rannu straeon â chi am bobl y cafodd eu llawdriniaethau eu canslo pan oeddent ar y troli wrth ddrws y theatr, ac nid am y tro cyntaf—am yr ail, am y trydydd tro. Ni allwn barhau i feio'r claf am ddilyn y llwybr anghywir. Gwyddom fod llawdriniaethau'n cael eu canslo am bob math o wahanol resymau, ac wrth gwrs, mae rhai cleifion yn canslo eu triniaethau eu hunain. Gwyddom fod yna broblemau gweinyddol—llawdriniaethau'n cael eu trefnu ar gyfer adegau pan fo clinigwyr ar wyliau. Ni ddylai ddigwydd, ond iawn, mae'n digwydd o bryd i'w gilydd. Gwyddom fod gennym brinder staff. Nid wyf am sôn am hynny heddiw—bydd gennyf ddigon o gyfle i ddod yn ôl at hynny. Ond yn aml iawn, gwraidd y rheswm pam fod llawdriniaeth yn cael ei chanslo yw bod gwely ar goll yn rhywle yn y system. Rydym wedi colli 1,000 o welyau ers 2011, naill ai mewn ysbytai cyffredinol dosbarth neu mewn ysbytai cymunedol. Ac oes, mae angen i ni sicrhau bod cleifion yn  dychwelyd adref i'w man preswyl arferol mor gyflym ag y gallwn, ond rwy'n gwbl argyhoeddedig fod colli gwelyau cymunedol yn costio'n ddrud iawn i'n GIG, ac yn costio'n ddrud iawn i'n cleifion. A wnewch chi gytuno â mi fod yr amser wedi dod i adfer gwelyau cymunedol a gollwyd? Oherwydd, fel arall, yr hyn y byddwn yn ei weld fydd cleifion yn cael eu dal mewn system a llawdriniaethau'n cael eu canslo dro ar ôl tro a'r effaith andwyol y mae hynny'n ei gael ar gleifion, nid yn unig yn y tymor byr, ond yn y tymor hir hefyd.