Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 25 Ebrill 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mis Ebrill yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn. Yn ôl adroddiad gan Bowel Cancer UK, mae cleifion mewn pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn aros yn rhy hir am brofion i wneud diagnosis o ganser y coluddyn, ac nid yw dros hanner y bobl sy'n gymwys am brofion sgrinio wedi'u cael. O gofio bod cyfraddau goroesi canser y coluddyn yng Nghymru ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r diffyg capasiti yn ein hysbytai i ateb y galw sy'n bodoli ar hyn o bryd a chodi ymwybyddiaeth o'r angen am brofion sgrinio ymhlith grwpiau risg uwch yng Nghymru? Diolch.