2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau canser yng Nghymru? OAQ52027
Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer canser yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru. Mae'n dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau a chanlyniadau canser. Cafodd y cynllun ei ddiweddaru a'i ailgyhoeddi ym mis Tachwedd 2017 a bydd yn mynd â ni hyd at 2020.
Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth fy etholwr, Mr Huw Thomas o Fargoed, dynnu fy sylw at fenter newydd ar gyfer trin canser sy'n cael ei chyflwyno gan GIG Lloegr, sef creu siopau un stop ar gyfer diagnosis canser gyda'r holl brofion angenrheidiol i wneud diagnosis o'r clefyd yn cael eu cyflawni mewn un ganolfan. Y nod yw cyflymu'r gwaith o adnabod mathau penodol o ganser. Deallaf fod dau gynllun peilot o'r fath yng Nghymru—efallai fy mod yn anghywir ynglŷn â hynny, ond dyna'r hyn a ddywedwyd wrthyf yr wythnos diwethaf. Rwy'n ymwybodol o'r ddogfen strategol gan Lywodraeth Cymru y cyfeirioch chi ati, ond nid yw'n sôn yn benodol am hynny. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro hynny a dweud wrthym a fyddai menter o'r fath o fudd yng Nghymru?
Ie, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r mater. Mewn rhai ffyrdd, mae'n tynnu sylw at sut y bydd cyhoeddiad a wneir yn Lloegr yn tynnu sylw ac yn cyrraedd y penawdau, ond yn aml ni fydd gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud cyn i Loegr ei wneud yn cael yr un sylw. Yn y maes hwn, rydym wedi bod yn edrych ar yr hyn a elwir gennym yn llwybr symptomau amwys, sef siop un stop i bob pwrpas, ac mae'r llwybrau hynny'n cael eu treialu ym mwrdd iechyd Cwm Taf a bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Cynllun peilot dwy flynedd ydyw. Rydym eisoes wedi cyflawni blwyddyn ohono. Ar ôl ail flwyddyn, byddwn yn cynnal gwerthusiad i ddeall ei effaith. Mae hyn yn rhan o waith y grŵp gweithredu ar ganser sy'n canolbwyntio ar adnabod canser yn gynharach. Mae'n deillio o waith a wnaed gan glinigwyr o Gymru a ymwelodd â Denmarc i ddeall yr hyn a wnaed yn fwy llwyddiannus yno ar adnabod canser yn gynnar. Felly, mae'n faes lle rydym, mewn gwirionedd, ar y blaen i'r cynllun peilot sydd ar waith yn Lloegr, ac rwy'n disgwyl cael canlyniadau yn gynharach na hynny. Yna, wrth gwrs, byddaf yn fwy na pharod i adrodd yn ôl i'r lle hwn a'r cyhoedd yn fwy cyffredinol ynglŷn â'r hyn rydym yn parhau i'w wneud i wella canlyniadau canser yma yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, mis Ebrill yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn. Yn ôl adroddiad gan Bowel Cancer UK, mae cleifion mewn pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn aros yn rhy hir am brofion i wneud diagnosis o ganser y coluddyn, ac nid yw dros hanner y bobl sy'n gymwys am brofion sgrinio wedi'u cael. O gofio bod cyfraddau goroesi canser y coluddyn yng Nghymru ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r diffyg capasiti yn ein hysbytai i ateb y galw sy'n bodoli ar hyn o bryd a chodi ymwybyddiaeth o'r angen am brofion sgrinio ymhlith grwpiau risg uwch yng Nghymru? Diolch.
Rydym wedi trafod y pwyntiau ar gapasiti staff mewn ateb i gwestiwn blaenorol ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill, am y ffaith bod ein capasiti diagnostig yn dangos cynnydd, a bod amseroedd aros i bobl yma yng Nghymru yn gwella. Rydym hefyd wedi trafod beth a wnawn i wella canlyniadau mewn ateb i'r cwestiwn a ofynnodd eich cyd-Aelod, David Melding. Rwy'n anelu i wella profion canser y coluddyn a chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y prawf sgrinio. Ac mewn gwirionedd, yr her fwyaf yw cael y cyhoedd i fanteisio ar y prawf sgrinio eu hunain. Dyna pam y bwriadwn gyflwyno prawf mwy effeithiol a mwy sensitif ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Felly, rydym eisoes yn rhoi camau ar waith a phan edrychwch ar ein cyfraddau o'u cymharu â gweddill y DU, rydym yn cymharu'n eithaf da o ran canlyniadau canser mewn gwirionedd. O ran amseroedd aros canser, gallasem gael sgwrs hir am y ffaith ein bod, yn gyffredinol, yn perfformio'n well yng Nghymru nag yn Lloegr mewn perthynas ag amseroedd aros canser ac mewn gwirionedd, mae ein cyfraddau goroesi uniongyrchol yn cymharu'n uniongyrchol â rhai Lloegr. O ystyried bod ganddynt boblogaeth fwy breintiedig a chyfoethocach yn gyffredinol, byddech yn disgwyl i'w canlyniadau fod yn well mewn gwirionedd.
Ond nid dweud ein bod yn cymharu'n dda â Lloegr a gweddill y DU yw'r her go iawn i ni; yr her go iawn i ni yma yng Nghymru yw bod pob gwlad yn y DU ar y pen anghywir i'r tabl goroesi ar draws Ewrop. Nid parhau i gynnal bwlch cadarnhaol â Lloegr yw ein huchelgais, ond gwneud yn llawer gwell fel bod mwy o bobl yn goroesi canser ar ôl blwyddyn a phum mlynedd, a phan edrychwn ar ein cymaryddion yn Ewrop, gallwn fod yn llawer hapusach ynglŷn â'n sefyllfa, cyn troi ein golygon at y cam nesaf o welliant.