Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:56, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n galonogol clywed bod ymgysylltu â theuluoedd yn flaenoriaeth i chi, a buaswn hefyd yn hoffi pe baech yn archwilio ffyrdd o gynyddu'r ystod o weithgareddau allgyrsiol. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith yn y maes hwn. Mae 48 y cant o'r disgyblion ym mlynyddoedd 3 i 11 yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol wedi'i drefnu. Hoffwn dynnu sylw at lwyddiant Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad. Mae'n rhaid i ni annog pob plentyn i fod mor heini ag y gallant, ac annog plant sy'n rhagori mewn chwaraeon ar yr un pryd. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y 52 y cant o blant nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau corfforol, tra'u bod hefyd, ar yr un pryd, yn annog ac yn cynorthwyo'r clybiau chwaraeon lleol sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol ynghyd ag unigolion sydd â thalent ond nad oes ganddynt yr arian angenrheidiol i ragori yn eu camp?