Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, bydd Llywodraeth Cymru yn cael tua £57 miliwn fel rhan o'r ardoll newydd ar ddiodydd meddal, a thestun pryder i mi oedd gweld cyn lleied o'r arian hwnnw a werir ar fesurau i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant, sy'n wahanol iawn i'r dull o weithredu a fabwysiadwyd yng ngweddill y DU. Gwn fod yna gynlluniau da'n bodoli. Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi casglu llawer o dystiolaeth mewn perthynas â phethau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i blant a phobl ifanc, a gwn fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn siarad â swyddogion ynglŷn â chynllun atgyfeirio plant a phobl ifanc i wneud ymarfer corff yn ogystal â chynllun i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a fyddai'n sicrhau gwell defnydd o bethau fel cyfleusterau chwaraeon trydedd genhedlaeth yng Nghymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar yr arian hwnnw'n ofalus i sicrhau ein bod defnyddio cyfran fwy ohono i fynd i'r afael â'r hyn sydd, mewn gwirionedd, yn un o heriau iechyd cyhoeddus mawr ein hoes? Diolch.