2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant? OAQ52041
Gwnaf. Byddwn yn ymgynghori ar strategaeth drawslywodraethol i atal a lleihau lefelau gordewdra yn ddiweddarach eleni. Bydd yn amlinellu'r camau angenrheidiol ar lefel Cymru a'r DU i ategu mesurau sydd eisoes yn bodoli fel Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ein rhaglen Plant Iach Cymru, ac, wrth gwrs, safonau maeth mewn ysgolion.
Diolch. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, bydd Llywodraeth Cymru yn cael tua £57 miliwn fel rhan o'r ardoll newydd ar ddiodydd meddal, a thestun pryder i mi oedd gweld cyn lleied o'r arian hwnnw a werir ar fesurau i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant, sy'n wahanol iawn i'r dull o weithredu a fabwysiadwyd yng ngweddill y DU. Gwn fod yna gynlluniau da'n bodoli. Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi casglu llawer o dystiolaeth mewn perthynas â phethau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i blant a phobl ifanc, a gwn fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn siarad â swyddogion ynglŷn â chynllun atgyfeirio plant a phobl ifanc i wneud ymarfer corff yn ogystal â chynllun i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a fyddai'n sicrhau gwell defnydd o bethau fel cyfleusterau chwaraeon trydedd genhedlaeth yng Nghymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar yr arian hwnnw'n ofalus i sicrhau ein bod defnyddio cyfran fwy ohono i fynd i'r afael â'r hyn sydd, mewn gwirionedd, yn un o heriau iechyd cyhoeddus mawr ein hoes? Diolch.
Rwy'n cydnabod bod hon yn her iechyd cyhoeddus fawr a sylweddol. Dyna pam ein bod eisoes wedi cymryd rhai o'r camau a wnaethom eisoes, ond mae'n ymwneud ag edrych ar beth a wnawn nesaf, a byddai gennyf ddiddordeb mawr yn adroddiad y pwyllgor a'i argymhellion oherwydd nid ydym wedi cymeradwyo ymgynghoriad ar ein strategaeth eto. Yna, byddaf yn pennu beth y dylai'r strategaeth fod a sut y byddwn yn defnyddio ein hadnoddau i wireddu hynny, oherwydd rhan o'r her yn aml yw symud o'r strategaeth a'r bwriadau da y mae pawb, yn gyffredinol, yn eu cymeradwyo i sut rydym yn perswadio ac yn cymell aelodau penodol o'r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwahanol. Nid gwneud penderfyniadau afiach yn fwy anodd neu'n fwy drud yw hynny'n unig; mae'n ymwneud â gwneud penderfyniadau iachach yn haws hefyd. Felly, bydd gennyf yn bendant ddiddordeb yn y dystiolaeth gan y pwyllgor. Bydd gennyf ddiddordeb yn yr hyn a fydd gan bartneriaid eraill i'w ddweud, ac fe fyddwn yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o—[Anghlywadwy.]—cyn cymeradwyo'r strategaeth a'r argymhellion, y camau y byddwn yn eu cymryd a sut y byddwn yn ariannu'r camau hynny oherwydd, fel y dywedaf, rwy'n cydnabod bod hon yn her iechyd cyhoeddus wirioneddol a sylweddol sydd â'r potensial i orlifo i rannau sylweddol o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Adam Price.