Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 25 Ebrill 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn symud i gyfnod ymgynghori ac fe glywais yr hyn a ofynnodd fy nghyd-Aelod Simon Thomas, ac mae'n bosibl iawn y byddaf yn gofyn yr un cwestiwn yn y dyfodol agos, ond yr hyn sy'n fy mhoeni ar hyn o bryd yw bod pobl wedi cysylltu â mi i ddweud bod y cyfleoedd iddynt gymryd rhan yn y broses hon yn gyfyngedig, eu bod yn bell yn ddaearyddol o'r llefydd y gallai'r unigolion hynny fod yn byw ac ar adegau pan na fydd pobl yn gallu mynychu'r digwyddiadau cyhoeddus hyn o bosibl. Fy nghwestiwn i chi heddiw yw, a allech annog bwrdd iechyd Hywel Dda i ehangu'r cwmpas o ran amser a lleoliad daearyddol eu hymgynghoriadau cyhoeddus ar y cam hwn.