Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 25 Ebrill 2018.
Rwy'n hapus i ymateb yn gadarnhaol a dweud y dylai Hywel Dda ymateb yn gadarnhaol i geisiadau am ymgysylltu cyhoeddus pellach. Mae sicrhau'r lefel uchaf bosibl o ymgysylltu cyhoeddus o fudd i bawb, nid yn unig ymgysylltiad â'r bwrdd iechyd ar lefel yr arweinyddiaeth, ond â chlinigwyr yn eu cymunedau lleol mewn gwirionedd, boed mewn ymarfer cyffredinol neu wasanaethau ysbyty neu wasanaethau cymunedol eraill, er mwyn sicrhau bod ymgysylltiad clinigol go iawn rhyngddynt a'i gilydd a chyda'r cyhoedd yn fwy cyffredinol. Rwy'n fwy na pharod i ddweud y buaswn eisiau i Hywel Dda fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny i ymgysylltu gyda'r cyhoedd, gan gynnwys mewn lleoliadau ac ar adegau o'r dydd sy'n briodol gyfleus i bawb allu cymryd rhan a lleisio barn.