Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r datblygiadau preswyl sylweddol sy'n digwydd o amgylch dinas Caerdydd, ac yn benodol, tynnaf eich sylw at y datblygiadau yng ngorllewin y ddinas, lle mae meddygfeydd a phractisau wedi cyflwyno hysbysiadau i ddweud nad ydynt yn gallu derbyn mwy o gleifion oherwydd nad ydynt wedi cael mwy o adnoddau i recriwtio ac yn bwysicach, i gadw staff er mwyn ateb y galw cynyddol yn sgil y tai newydd. A ydych yn cydnabod bod honno'n broblem yn y system o ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, a pha drafodaethau a gawsoch gyda'r bwrdd iechyd yn ardal Caerdydd a'r Fro i geisio mynd i'r afael â'r broblem adnoddau y mae datblygiadau newydd yng ngorllewin y ddinas yn ei chreu i feddygfeydd meddygon teulu?