2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i recriwtio a chadw staff yn GIG Cymru? OAQ52018
Rydym yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd drwy ein hymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol lwyddiannus 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' Mae byrddau iechyd yn defnyddio'r ymgyrch i recriwtio a chadw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda chanlyniadau cadarnhaol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r datblygiadau preswyl sylweddol sy'n digwydd o amgylch dinas Caerdydd, ac yn benodol, tynnaf eich sylw at y datblygiadau yng ngorllewin y ddinas, lle mae meddygfeydd a phractisau wedi cyflwyno hysbysiadau i ddweud nad ydynt yn gallu derbyn mwy o gleifion oherwydd nad ydynt wedi cael mwy o adnoddau i recriwtio ac yn bwysicach, i gadw staff er mwyn ateb y galw cynyddol yn sgil y tai newydd. A ydych yn cydnabod bod honno'n broblem yn y system o ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, a pha drafodaethau a gawsoch gyda'r bwrdd iechyd yn ardal Caerdydd a'r Fro i geisio mynd i'r afael â'r broblem adnoddau y mae datblygiadau newydd yng ngorllewin y ddinas yn ei chreu i feddygfeydd meddygon teulu?
Mae yna heriau mewn perthynas â thwf yn y boblogaeth lle mae'n bodoli, ac nid yn ardal Caerdydd yn unig y mae'n bodoli—er ei fod yn fwyaf amlwg yno—ond mae hefyd yn wir yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Rydym wedi gweld rhai ardaloedd lle y ceir twf yn y boblogaeth yno hefyd. Felly, mae yna her ehangach mewn perthynas â rheoli hynny. Mae rhywbeth ynglŷn â'r nifer o staff sydd gennym, ond hefyd y ffordd y trefnir y staff, ac felly bydd sut yr ydym yn trefnu gofal iechyd lleol yn bwysig, o ran niferoedd meddygon, ond gweithwyr proffesiynol eraill hefyd.
Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda'r bwrdd iechyd lleol, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod etholaeth, ond hefyd fel Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â sut y bydd pethau yn y dyfodol. Yr her wrth ddarparu adnoddau, fel bob amser, pan fyddwn yn rhoi adnoddau ychwanegol i un rhan o'r gwasanaeth iechyd, yw nad ydynt yn bodoli ar gyfer rhan arall. Mae honno hefyd yn her y mae'r Llywodraeth yn ei hwynebu pan fyddwn yn dyrannu ein cyllideb ar ôl wyth mlynedd o leihad yn y gyllideb mewn termau real. Ond mae bob amser angen i ni edrych ar sut y gallwn wneud defnydd mwy effeithiol o'r adnoddau sydd gennym ar hyn o bryd, yn ogystal â'r ymgyrch barhaus am fwy o adnoddau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelod Dai Rees a fydd yn cyflwyno dadl fer yn ddiweddarach heddiw am effaith cyni, sy'n amlwg wrth wraidd cymaint o'r hyn y gallwn ac na allwn ei wneud. Felly, gan barhau â'r thema honno, Ysgrifennydd y Cabinet, er eich bod wedi llwyddo i ddiogelu bwrsariaethau nyrsio yng Nghymru, bwrsariaethau a dorrwyd gan Lywodraeth y DU yn Lloegr—ac mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi gwneud sylwadau pwysig am hynny mewn dadl heddiw—a fyddech yn cytuno y gallasai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy eto dros nyrsio a staff rheng flaen y GIG, boed ym maes hyfforddi neu recriwtio, pe na baem wedi wynebu dros £1 biliwn o doriadau ers 2010? Ac a fyddech hefyd yn cytuno bod llawer ohonom yn y Siambr hon yn dechrau blino ar glywed meinciau'r Torïaid yn galw'n gyson am fwy o fuddsoddiad ym maes iechyd o gofio mai eu Llywodraeth hwy yn San Steffan sydd wedi dewis gwneud toriadau mor ddwfn yn ein cyllidebau? [Torri ar draws.]
Er gwaethaf sŵn y dicter o feinciau'r Torïaid, mae'r hyn a ddywed yr Aelod yn ddiymwad ac yn ffeithiol gywir. Mae angen i'r Aelodau Ceidwadol yn y lle hwn gydnabod eu bod wedi bod yn hyrwyddo cyni dros dri etholiad cyffredinol olynol. Dros dri etholiad cyffredinol olynol, rydych wedi bod yn hyrwyddo cyni. Ni allwch osgoi canlyniad anorfod y cyni hwnnw yn awr. Er gwaethaf wyth mlynedd o gyni Torïaidd, mae gennym y nifer uchaf erioed o staff yn y gwasanaeth iechyd, oherwydd penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. Er gwaethaf wyth mlynedd o gyni Torïaidd, mae gennym y nifer uchaf erioed o nyrsys cofrestredig, oherwydd penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. Bydd y Torïaid yn dadlau dros gyni, ni fyddant yn dadlau dros y gwasanaeth iechyd, ni fyddant yn dadlau dros setliad ariannu priodol i Gymru, oherwydd bod hynny er budd iddynt ac oherwydd ei fod yn obsesiwn ideolegol ganddynt. Ni fydd y Torïaid byth yn newid.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel sydd eisoes wedi cael sylw, amlygwyd pryderon ynghylch recriwtio staff gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser yr wythnos diwethaf. Nododd hefyd fod bandio staff mewn meysydd arbenigol yn is yng Nghymru nag yn Lloegr mewn gwirionedd. Mae rhai ym mand 6 yng Nghymru, tra bo'r rhai sydd yn y swydd gyfatebol yn Lloegr ym mand 7. Mae staff felly naill ai'n mudo i swyddi cyfatebol ar gyflogau gwell yn Lloegr neu ni fyddant yn dod i Gymru yn y lle cyntaf hyd yn oed. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau cydraddoldeb wrth fandio staff ar gyfer gwaith cyfatebol ledled y DU?
Mae'r rhain yn drafodaethau sy'n mynd rhagddynt gyda'n hundebau llafur fel cynrychiolwyr y gweithlu. Yn Lloegr, nodwyd amrywiaeth o fesurau yn y contract. Rwy'n falch o'r ffaith ein bod yn gwrando ac yn ymgysylltu â'n hundebau llafur fel cynrychiolwyr y gweithlu. Edrychaf ymlaen at gael sgwrs am amodau a thelerau Agenda ar gyfer Newid yn y dyfodol. Os cawn fwy o arian gan Drysorlys y DU o'r diwedd, yna gallwn gael sgwrs yma yng Nghymru gyda'n partneriaid ynglŷn â sut y gallwn ddyrannu'r arian hwnnw i staff gweithgar ein GIG a'r meysydd lle y credwn y bydd yn gwneud gwahaniaeth penodol i'r gwasanaeth a ddarperir a'r canlyniadau i bobl yma yng Nghymru.