Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 25 Ebrill 2018.
Lywydd, hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 6.15 a Rheol Sefydlog 12.50. Does bosibl nad oes angen i gyhoeddiadau mawr gan Lywodraeth Cymru, megis adolygiad o bolisi cyhoeddus pwysig, gael eu gwneud ar lafar i'r Cynulliad. Mae hyn yn caniatáu craffu amserol, ac yn dilyn hynny, yn caniatáu i'r Cynulliad fonitro a gwerthuso perfformiad. Yn y Siambr ddoe, rhoddodd arweinydd y tŷ ymateb arwynebol ac anfoddhaol i fy mhryderon ynghylch y cyhoeddiad ar yr adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Dywedodd mai lle'r Llywodraeth oedd penderfynu ai datganiad llafar neu ysgrifenedig a oedd yn briodol. Mae datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn yn cynnwys ardystiadau gan Cartrefi Cymunedol Cymru a'r Sefydliad Tai Siartredig yn benodol, ac rwy'n dyfynnu:
'Os cawn yr adolygiad hwn yn gywir, bydd yn gam mawr at ddatrys yr argyfwng tai.'
A dyfynnaf:
'Rydyn ni'n croesawu cyhoeddiad heddiw ynghylch adolygu'r polisi tai yng Nghymru.'
Yn amlwg, gellir casglu pa mor bwysig yw'r adolygiad o'r datganiadau hyn y gofynnwyd amdanynt ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru, eto i gyd nid ydym wedi cael unrhyw gyfle i graffu ar ei gwmpas nac addasrwydd y rhai a ddewiswyd i'w gynnal.
Yn olaf, cafwyd adolygiad cynhwysfawr o'r angen am dai yn 2015 a noddwyd gan Lywodraeth Cymru. Fe'i cynhaliwyd gan awdurdod mwyaf blaenllaw y DU ar yr angen am dai. Ni weithredwyd arno. Pam cynnal adolygiad newydd? Mae'r rhain yn amlwg yn gwestiynau hollbwysig. Lywydd, pa bwerau sydd gennych i'w gwneud yn ofynnol i Weinidog wneud datganiad llafar mewn amgylchiadau o'r fath?