– Senedd Cymru am 3:24 pm ar 25 Ebrill 2018.
Pwynt o drefn. David Melding.
Lywydd, hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 6.15 a Rheol Sefydlog 12.50. Does bosibl nad oes angen i gyhoeddiadau mawr gan Lywodraeth Cymru, megis adolygiad o bolisi cyhoeddus pwysig, gael eu gwneud ar lafar i'r Cynulliad. Mae hyn yn caniatáu craffu amserol, ac yn dilyn hynny, yn caniatáu i'r Cynulliad fonitro a gwerthuso perfformiad. Yn y Siambr ddoe, rhoddodd arweinydd y tŷ ymateb arwynebol ac anfoddhaol i fy mhryderon ynghylch y cyhoeddiad ar yr adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Dywedodd mai lle'r Llywodraeth oedd penderfynu ai datganiad llafar neu ysgrifenedig a oedd yn briodol. Mae datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn yn cynnwys ardystiadau gan Cartrefi Cymunedol Cymru a'r Sefydliad Tai Siartredig yn benodol, ac rwy'n dyfynnu:
'Os cawn yr adolygiad hwn yn gywir, bydd yn gam mawr at ddatrys yr argyfwng tai.'
A dyfynnaf:
'Rydyn ni'n croesawu cyhoeddiad heddiw ynghylch adolygu'r polisi tai yng Nghymru.'
Yn amlwg, gellir casglu pa mor bwysig yw'r adolygiad o'r datganiadau hyn y gofynnwyd amdanynt ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru, eto i gyd nid ydym wedi cael unrhyw gyfle i graffu ar ei gwmpas nac addasrwydd y rhai a ddewiswyd i'w gynnal.
Yn olaf, cafwyd adolygiad cynhwysfawr o'r angen am dai yn 2015 a noddwyd gan Lywodraeth Cymru. Fe'i cynhaliwyd gan awdurdod mwyaf blaenllaw y DU ar yr angen am dai. Ni weithredwyd arno. Pam cynnal adolygiad newydd? Mae'r rhain yn amlwg yn gwestiynau hollbwysig. Lywydd, pa bwerau sydd gennych i'w gwneud yn ofynnol i Weinidog wneud datganiad llafar mewn amgylchiadau o'r fath?
Diolch i chi am roi gwybod eich bod yn bwriadu codi hwn fel pwynt o drefn. Fel y dywedais yn dilyn mater tebyg a godwyd mewn pwynt o drefn ddoe, mater i Weinidogion Cymru yw busnes y Llywodraeth, nid mater i mi. Ond mae Gweinidogion yn atebol i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n disgwyl iddynt beidio â thanseilio'r egwyddor honno drwy wneud cyhoeddiadau polisi mawr y tu allan i'r Siambr. Rwy'n disgwyl i gyhoeddiadau mawr gael eu gwneud yn uniongyrchol i'r Cynulliad hwn fel y ceir y cyfle rydych wedi'i geisio, David Melding, i'r Aelodau graffu ar y Llywodraeth mewn perthynas â materion fel hyn.
Wrth gwrs, mae'n bwysig atgoffa'r Aelodau yn ogystal—rwy'n siŵr eich bod yn gyfarwydd iawn â hwy—o'r llwybrau amrywiol sydd ar gael i chi i gyflwyno materion yn y Siambr os nad yw'r Llywodraeth yn darparu cyfleoedd ar gyfer archwilio. Mae'r rheini'n cynnwys cwestiynau brys ac amserol, cwestiynau llafar a dadleuon y gwrthbleidiau, ac yn ogystal, buaswn yn dweud y gall yr Aelodau wneud sylwadau ynglŷn â busnes arfaethedig y Llywodraeth drwy'r Pwyllgor Busnes, a buaswn yn gobeithio y byddai arweinydd y tŷ yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw sylwadau o'r fath a wneir gan bleidiau gwleidyddol yma.