Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch i chi, Lywydd. Chwe wythnos yn ôl, ar 7 Mawrth, trafododd y Cynulliad hwn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 'Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)'. Roedd ein hymchwiliad a ragflaenodd yr adroddiad hwnnw'n ystyried priodoldeb cwmpas a natur y pwerau dirprwyedig a ddarparwyd yn y Bil i Weinidogion y DU a Chymru, a'r gweithdrefnau y dylid eu defnyddio i graffu ar y ddeddfwriaeth ddirprwyedig honno. O gofio hynt y Bil drwy Dŷ'r Arglwyddi, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y gwelliannau y credem y dylid eu gwneud i'r Bil, ac yn mynd i'r afael â chwestiynau a godwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn llythyr at y Llywydd ar 16 Ionawr.
Roedd ein hadroddiad yn gwneud saith o argymhellion, gyda phedwar ohonynt yn argymell gwelliannau i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Ac am y rheswm hwnnw, roeddem yn credu ei bod yn bwysig ac yn briodol clywed barn y Cynulliad Cenedlaethol ar yr argymhellion hynny, ac felly roedd y cynnig a oedd yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol nodi adroddiad y pwyllgor hefyd yn gofyn iddo gymeradwyo argymhellion 1, 2, 4 a 7. Ac ar 7 Mawrth, cafodd y cynnig ei gymeradwyo'n unfrydol—ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau.
O ganlyniad, ar 22 Mawrth, ysgrifennodd y Llywydd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn tynnu ei sylw at yr argymhellion yn ein hadroddiad, ac yn dweud y dylai dderbyn y llythyr fel hysbysiad ffurfiol o safbwynt Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran pa welliannau y dylid eu gwneud i'r Bil mewn perthynas â gweithdrefnau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan ei ddarpariaeth.
Mae'n bosibl nad yw'r Aelodau'n ymwybodol, yn dilyn y digwyddiadau rwyf wedi'u crynhoi, fod Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip wedi ymateb yn ffurfiol i adroddiad y pwyllgor. Yn ogystal, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â'n hadroddiad ar y Bil ymadael â'r UE a darpariaethau pwyllgor sifftio'r Bil. Yn y ddau ddarn o ohebiaeth, mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod argymhelliad 2 ein hadroddiad—y dylai argymhelliad y pwyllgor sifftio fod yn rhwymol, ac eithrio pan fo'r Cynulliad yn penderfynu fel arall.
Ar 17 Ebrill, ysgrifennais at y Prif Weinidog i gael eglurhad ar y rhesymau dros y dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu. Yn benodol, gofynnais a allai egluro pam, ar ôl iddo anfon llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 5 Chwefror yn dweud mai mater i'r Cynulliad Cenedlaethol yw penderfynu ar faterion sy'n ymwneud â'r pwyllgor sifftio, ei fod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ar 29 Mawrth yn gwrthod argymhelliad a oedd wedi cael ei gymeradwyo'n unfrydol gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithrediad y pwyllgor sifftio hwnnw. Mae'r Prif Weinidog wedi ymateb i'r llythyr a anfonais ar 17 Ebrill y bore yma, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, a nodaf y sylwadau y mae wedi'u gwneud.
Rwy'n cydnabod bod arweinydd y tŷ, yn ystod dadl y Cyfarfod Llawn, wedi dweud wrth y Cynulliad Cenedlaethol fod Llywodraeth Cymru yn cadw ei safbwynt ar argymhelliad 2 yn ôl hyd nes y byddai wedi'i ystyried yn drylwyr. Fodd bynnag, ni cheisiodd arweinydd y tŷ ddiwygio'r cynnig i adlewyrchu'r safbwynt hwnnw, a gafodd, fel y nodwyd eisoes, ei gymeradwyo'n unfrydol gan y tŷ cyfan.
Heb niweidio ewyllys y Llywodraeth—neu heb niweidio ewyllys unrhyw Lywodraeth—ni ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod mewn sefyllfa lle mae'n mynegi safbwynt ffurfiol, hollbleidiol, sydd wedyn, neu'n fuan iawn ar ôl hynny, yn cael ei gwestiynu mewn llythyr nad yw'r Cynulliad cyfan yn ymwybodol ohono.
Rwyf wedi dweud yn glir wrth y Prif Weinidog yn fy llythyr ato ein bod ni, fel pwyllgor, yn bryderus yn gyffredinol ynglŷn â throsglwyddo pŵer o ddeddfwrfeydd i swyddogion gweithredol. Mae'r dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â'r materion hyn yn tanseilio braint y ddeddfwrfa. Yn yr un modd, mae'n drysu rolau seneddau a llywodraethau ac yn gwneud y trafodion yn y lle hwn yn anos i aelodau o'r cyhoedd eu deall, a hynny ar draul datganoli.
I wneud pethau'n waeth, yn anffodus, mae dull Llywodraeth Cymru a'r dryswch ynglŷn â rolau bellach wedi cael eu cynnwys mewn memorandwm atodol gan Lywodraeth y DU ar bwerau dirprwyedig yn y Bil ymadael â'r UE. Cafodd y memorandwm ei gyhoeddi ddydd Llun yr wythnos hon, ac mae'n datgan,
Mae Llywodraeth Cymru, ar ôl ceisio barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi gofyn am i weithdrefn y pwyllgor sifftio fod yn gymwys lle mae Gweinidogion Cymru yn gosod offerynnau negyddol o dan eu pwerau Atodlen 2.
Ymddengys, felly, fod Llywodraeth y DU wedi cael ei dylanwadu gan safbwyntiau Llywodraeth Cymru yn hytrach na'r Cynulliad Cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau ar y gweithdrefnau a ddylai fod yn gymwys i'r broses o graffu ar y rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru. Felly, croesawaf y llythyr a gefais y bore yma gan y Llywydd, sy'n nodi ei bod yn rhannu pryderon y pwyllgor ac y bydd yn rhoi ystyriaeth bellach i'r mater hwn.