5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) — penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:36, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am geisio amddiffyn breintiau'r Cynulliad hwn mor gadarn? Credaf ei bod yn enghraifft arall o'r Weithrediaeth yn mynd yn rhy bell. Dywedwyd wrthym ar ddechrau datganoli y byddem yn gwneud pethau'n wahanol. Byddem yn mabwysiadu'r pethau gorau yn nhraddodiad seneddol Prydain, ond byddem yn sicrhau ein bod yn agored a'n bod yn craffu, yn enwedig ar—yn eironig iawn—is-ddeddfwriaeth. Ac yn awr rydym yn gweld Llywodraeth Cymru yn cyflawni gweithred hynod elyniaethus.

Nid oeddent yn barod i ddadlau eu hachos yn agored, er gwaethaf y ffaith bod hon yn egwyddor hirsefydlog iawn gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn yr ystyr y dylem fod yn gosod y gweithdrefnau ar gyfer y math hwn o is-ddeddfwriaeth a materion hanfodol eraill. Ond o ddifrif, peidio â dadlau'r achos, caniatáu i'r cynnig fynd rhagddo a pheidio â'i wrthwynebu, ond wedyn, mynd ati'n fwriadus i ofyn i Lywodraeth y DU beidio â gweithredu ar ein hargymhelliad. Ac yn wir, nid ydym yn gwybod a ddywedwyd wrthynt beth oedd ein hargymhelliad hyd yn oed oherwydd roedd yr ateb a gawsom yn rhyfedd iawn o ran y sylw a ddarllenwyd gan Mick Antoniw.

Fel y dywedais, mae hyn yn rhan o batrwm cyffredinol gan Lywodraeth Cymru pan fo'n ceisio gosod a marcio ei gwaith cartref ei hun o ran y gweithdrefnau a ddylai fod yn gymwys. A'r amddiffyniad arall yw, 'Wel, mae'r Gweinidogion yn dilyn canllawiau'r Cwnsler Cyffredinol', fel pe bai'r Cwnsler Cyffredinol yn gyfrifol am y math o weithdrefnau y dylai'r ddeddfwrfa eu cymhwyso wrth graffu ar ddeddfwriaeth. Mae'n ddryswch rhyfeddol, ac mae bellach yn bodoli yn y rhan bwysicaf o'r cyfansoddiad, pan fo cymaint o gyfreithiau a oedd o'r blaen wedi'u trosglwyddo i Frwsel yn dychwelyd yma.

Rwy'n credu ei fod yn ofnadwy mewn gwirionedd. A gaf fi sicrhau Mick Antoniw y caiff ein cefnogaeth yn llawn yn ei holl ymdrechion fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i fwrw ymlaen â'r mater hwn a dwyn y Llywodraeth i gyfrif?