6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:50, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, yr ail ffordd y mae'r cytundeb heddiw yn gam sylweddol ymlaen yw ei fod yn cydnabod y bydd Confensiwn Sewel yn berthnasol i bwerau gwneud rheoliadau eilaidd—y pwerau a gaiff eu defnyddio i roi'r cyfyngiadau newydd dros dro hyn ar gymhwysedd ar waith. Ni fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn rhoi rheoliadau o'r fath i'r Senedd eu cymeradwyo oni bai bod y deddfwrfeydd a'r gweinyddiaethau datganoledig wedi rhoi eu caniatâd. Ar ben hynny, os bydd deddfwrfa'n gwrthod rhoi cydsyniad, gofynnir i'r Senedd benderfynu a ddylid gwneud y rheoliad ar sail gwybodaeth ddiduedd. Hynny yw, nid yn unig y bydd rhaid i ddeddfwyr ddibynnu ar gyfrif Llywodraeth y DU yn unig, ond byddant hefyd yn cael gwybodaeth wedi'i darparu'n annibynnol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Yn drydydd, Lywydd, mae Llywodraeth y DU bob amser wedi honni mai rhai dros dro fyddai'r cyfyngiadau a ragwelir, ond nid oedd unrhyw beth yn y Bil gwreiddiol i gadarnhau hyn. Mae'r cytundeb bellach yn gwarantu cymalau machlud y mae'r gwelliannau yn eu cynnwys ar wyneb y Bil.

Lywydd, y bedwaredd ffordd y mae'r cytundeb hwn yn ddatblygiad mor fawr, fel y gwyddoch, yw bod y cymal 11 gwreiddiol wedi'i lunio yn y fath fodd fel y gellid gwthio deddfwriaeth sylfaenol i osod fframweithiau newydd ar gyfer y DU ar waith, er enghraifft, ar gymorth amaethyddol, drwy'r Senedd heb gael, neu hyd yn oed heb ofyn, am gydsyniad y Cynulliad. Mae'r cytundeb yn diystyru'r posibilrwydd hwn yn benodol.

Mewn pumed datblygiad, un pryder sylweddol ynghylch dull gwreiddiol Llywodraeth y DU o weithredu oedd nad oedd unrhyw gyfyngiad cyfatebol ar y Senedd i ddeddfu mewn perthynas â Lloegr tebyg i'r un a osodwyd ar y deddfwrfeydd datganoledig gan y cymal 11 gwreiddiol, ond mae'r cyfyngiad presennol ar ddeddfu yn groes i gyfraith yr UE yn gymwys i'r holl ddeddfwrfeydd, gan gynnwys y Senedd. Yma hefyd mae'r cytundeb yn cynnwys ymrwymiad cadarn gan Lywodraeth y DU na fydd yn cyflwyno deddfwriaeth o'r fath tra bo'r fframweithiau'n cael eu negodi.

Y pwynt olaf namyn un, Lywydd, yw hwn: drwy nodi proses fwy cydweithredol o weithio'n rhynglywodraethol er mwyn datblygu'r rheoliadau, mae'r cytundeb hefyd yn cymryd cam mawr cyntaf tuag at ddull teg o weithio'n rhynglywodraethol yn y ffordd y dadleuwn y dylai fod yn nodwedd o'r Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn olaf, o ran y pwerau cydredol yng nghymalau 7, 8 a 9 o'r Bil i Weinidogion y Goron allu estyn draw i wneud diwygiadau sy'n cywiro i ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig, mae'r cytundeb yn cydgrynhoi sicrwydd a roddwyd eisoes gan Weinidogion yn y Senedd na ddefnyddir pwerau o'r fath fel arfer heb gydsyniad Gweinidogion datganoledig, gan ddarparu haen arall o sicrwydd.

Lywydd, nid yw'r canlyniad yn berffaith, wrth gwrs. Byddai wedi bod yn well gennym pe na bai yna gymal 11 ac i bob Llywodraeth ymddiried yn ymrwymiadau ei gilydd i beidio â deddfu mewn meysydd lle y cytunwn fod angen fframweithiau ar gyfer y DU gyfan hyd nes y byddid wedi cytuno ar fframweithiau o'r fath. Dro ar ôl tro rydym wedi nodi'n glir ein bod yn barod i roi sicrwydd o'r fath ac i dderbyn sicrwydd tebyg gan y Llywodraethau eraill. Mae eraill wedi ceisio sicrwydd cryfach na allai unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Lloegr, ddatblygu ei deddfwriaeth ei hun mewn perthynas â'r meysydd hyn lle mae angen fframwaith ledled y DU hyd nes y byddai fframwaith o'r fath wedi'i drafod a'i gytuno, ac mae'r cytundeb hwn yn darparu'r sicrwydd hwnnw.

Wrth gwrs, ceir rhai sy'n dadlau ei bod yn annerbyniol, hyd yn oed mewn amgylchiadau eithafol, i'r Senedd allu gweithredu i osod cyfyngiadau ar gymhwysedd datganoledig. Ond hyd nes y negodir setliad cyfansoddiadol newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan—fel y mae'r Llywodraeth hon wedi dadlau ers tro byd—y realiti cyfansoddiadol yw mai'r Senedd sy'n cadw'r rôl honno. Nid yw'r cytundeb hwn, fel Confensiwn Sewel, ond yn cydnabod y ffaith honno gan bwysleisio'r rheidrwydd gwleidyddol i'r Senedd weithredu ar sail cydsyniad lle bo materion datganoledig yn y fantol.

Ac mewn termau ymarferol, Lywydd, rydym yn derbyn bod rhaid cael ateb wrth gefn, ffordd o ddod ag anghydfodau na ellir eu datrys drwy negodi rhynglywodraethol i ben. Hyd nes, ac oni bai y gallwn gytuno ar lwybr arall yn lle symud ymlaen drwy gonsensws—ac rwy'n atgoffa'r Aelodau ein bod wedi cyflwyno cynnig o'r fath er mwyn cyflawni'r ffordd honno o weithredu yn ein papur 'Brexit a Datganoli' y llynedd—yna bydd yr ateb wrth gefn hwnnw'n dod o'r Senedd.

Nawr, Lywydd, roeddwn wedi gobeithio wrth gwrs y gallai'r cytundeb rhynglywodraethol fod wedi ei gytuno gan bob un o'r tair Llywodraeth, gan gynnwys ein cymheiriaid yn yr Alban. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ar fwrw ymlaen â thrafodaethau pellach ar fframweithiau yn y dyfodol a'r trafodaethau â'r UE 27. Rwyf wedi'i gwneud yn glir y byddwn yn parhau i weithio gyda'r ddwy Lywodraeth hyd nes yr eiliad olaf sy'n bosibl i weld a ellir gwneud unrhyw fireinio pellach defnyddiol i'r cytundebau presennol, a bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yn cyfarfod eto yr wythnos nesaf i olrhain unrhyw gynnydd o'r fath.

Lywydd, mae'r fargen hon yn arwydd o gynnydd sylweddol iawn o lle y dechreuodd hyn i gyd, ac mae'n amddiffyn buddiannau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gadarn. Mae wedi golygu cyfaddawd ar y ddwy ochr. Dyna yw crefft negodi, a chredaf fod y canlyniad yn gytundeb aeddfed rhwng Llywodraethau sy'n parchu buddiannau ei gilydd.

Gyda'r mater yn agosáu at gael ei ddatrys, byddwn yn gallu canolbwyntio sylw o'r newydd ar gyd-destun ehangach perthynas y DU gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Yma hefyd byddwn yn dadlau dros negodi, realaeth a chyfaddawd. Rydym eisiau cytundeb sy'n diogelu buddiannau Cymru a buddiannau hanfodol y DU gan ddangos parch a synnwyr o realaeth tuag at fuddiannau ein partneriaid Ewropeaidd.

Rwy'n cymeradwyo'r cytundeb a'r gwelliannau sy'n gysylltiedig ag ef i'r Aelodau ac yn edrych ymlaen at gyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol maes o law.