Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 25 Ebrill 2018.
Lywydd, heddiw mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau i'r Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn Nhŷ'r Arglwyddi sy'n adlewyrchu cytundeb rhynglywodraethol a gyhoeddwyd y bore yma hefyd. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn ddigon i alluogi Gweinidogion Cymru i argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil mewn cynnig y byddwn yn ei drafod y mis nesaf. Dylai hyn hefyd baratoi'r ffordd i Lywodraeth y DU ddiddymu cyfeiriad ein Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) i'r Goruchaf Lys, ac i'r Llywodraeth yma gychwyn proses i ddiddymu'r Bil hwnnw, sydd, fel y bydd yr Aelodau'n cofio, bob amser wedi'i fwriadu fel ôl-stop pe na bai'r trafodaethau hyn yn dod i ganlyniad boddhaol.
Hoffwn egluro pam y cred y Llywodraeth fod y cytundeb y daethom iddo'n darparu digon o amddiffyniad i'n setliad datganoli ac yn caniatáu inni gefnogi Bil y DU. Wrth wneud hynny, hoffwn gydnabod y cyfraniad sylweddol a wnaed gan Weinidog Brexit yr Alban, Michael Russell, a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, yn y gwaith a wnaethom gyda'n gilydd ar y materion hyn.
Lywydd, ceir cyfres o ffyrdd y bydd y cytundeb yn gam mawr ymlaen o'r cynigion gwreiddiol. Bydd yr Aelodau'n cofio, ar ei fwyaf sylfaenol, fod yr anghytundeb yn ymwneud ag egwyddor y pwerau a arferir ar hyn o bryd drwy lyfr rheolau cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, a pha un a oedd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hawl unochrog i benderfynu lle y dylai'r pwerau hynny fod ar yr ochr arall i Brexit. Roedd y cymal 11 gwreiddiol yn dargyfeirio'r holl bwerau hyn i San Steffan. Dadleuasom fod pwerau mewn meysydd datganoledig yn perthyn i'r fan hon, y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r gwelliant heddiw'n gwrthdroi safbwynt gwreiddiol Llywodraeth y DU. Mae'n creu sefyllfa ddiofyn lle mae pwerau dros bolisi datganoledig yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y maent wedi bod ers 1999. Nawr, heb y llyfr rheolau a ddarparwyd gan ddeddfwriaeth yr UE, rydym yn cydnabod bod angen i fframweithiau ledled y DU mewn meysydd penodol osgoi amharu ar farchnad fewnol y DU. Bydd rhai o'r fframweithiau DU hyn yn seiliedig ar ddeddfwriaeth ac yn amodol ar gyfyngiad newydd dros dro, sydd ond yn sicrhau parhad trefniadau cyffredin presennol. Lywydd, mae hyn yn amlwg yn llawer mwy cydnaws â'r model cadw pwerau o ddatganoli.