Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 25 Ebrill 2018.
Lywydd, diolch ichi. Yn gyntaf oll, a gaf fi roi sicrwydd i'r Aelod y bydd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno cyn y Cyfnod Adrodd a Chyfnod y Trydydd Darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi? Mae'n gywir i ddweud bod y rhwymedigaeth 'nid fel arfer' ar Lywodraeth y DU yn cael ei chydbwyso gan y rhwymedigaeth 'heb ei ddal yn ôl yn afresymol' ar y gweinyddiaethau datganoledig.
Gadewch imi ymdrin â'r hyn a ddywedodd am y cymal machlud. Gadewch inni fod yn glir y caiff y cyfnod cyntaf o ddwy flynedd eu cynnwys yn y cytundeb pontio y mae Llywodraeth y DU bellach wedi'i gytuno gyda'r Undeb Ewropeaidd. Felly, am y cyfnod hwnnw o amser, mae pawb ohonom wedi ymrwymo i sicrhau bod y llyfr rheolau presennol a'r trefniadau sy'n bodoli eisoes yn eu lle. Dywedais yn fy ateb cynharach i Neil Hamilton y byddai'r pum mlynedd sy'n dilyn wedi hynny'n cynnig diogelwch, a gadewch i ni gofio nad oedd y cymal 11 gwreiddiol yn cynnwys unrhyw ddiogelwch o gwbl. Gallai'r pwerau hynny fod wedi'u cadw am gyfnod amhenodol yn San Steffan, ac mae sicrhau cymal machlud, gallaf ddweud wrthych, wedi galw am wythnosau bwy'i gilydd o ddadlau rhwng ein Llywodraeth ni a Llywodraeth yr Alban ar y naill law, a Llywodraeth y DU ar y llall. Ac mae'n gam arwyddocaol ymlaen ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi bod yn barod i gynnwys yr ôl-stop hwnnw yn y ddeddfwriaeth. Credaf y byddwn wedi dod i ben â hyn i gyd ymhell cyn yr adeg honno.
Rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd David Rees am waith swyddogion yn y maes hwn. Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU wedi gweithio'n ddiflino, yn enwedig dros y ddau fis diwethaf, i sicrhau'r sefyllfa rydym wedi'i chyrraedd heddiw. Maent yn haeddu diolch pob Aelod o'r Cynulliad hwn.
Cyfeiriodd David Rees at yr adroddiadau cynnydd a nodir yn y cytundeb. Dywedais wrth Mark Isherwood y credaf y byddant yn cael eu cynhyrchu bob tri mis ac y byddant ar gael i'r Cynulliad hwn. Mae David Rees, fel Cadeirydd un o bwyllgorau mawr y Cynulliad, yn gwbl briodol yn cyfeirio at yr angen i fanylu ar sut y bydd gwaith craffu'n digwydd ar y cytundeb hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy'n gwbl fodlon ymrwymo ar ran y Llywodraeth y byddwn eisiau siarad gyda'r pwyllgorau a fydd yn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny am y ffyrdd gorau o gyflawni hynny.
Lywydd, byddai wedi bod yn gynamserol, mi gredaf, i mi fod wedi cytuno ar unrhyw beth â'r Alban a Llywodraeth y DU ar y camau gweithredu sydd yn nwylo'r ochr Seneddol i'r sefydliad hwn heb yn gyntaf fod wedi cael cyfle i siarad â'r rhai sy'n gyfrifol am gyflawni'r cyfrifoldebau craffu hynny. Credaf ein bod, yn y ddadl hon, wedi darparu'r deunydd crai sy'n gwarantu y bydd y cyfleoedd craffu hynny ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol. Bellach mae angen inni weithio gyda chi i wneud yn siŵr fod y ffyrdd ymarferol y caiff hynny ei gyflawni yma yn rhai sy'n bodloni gofynion y pwyllgorau ac sy'n caniatáu i'r Llywodraeth gyflawni ei chyfrifoldebau hefyd.