Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 1 Mai 2018.
Dylem. Mae'r Aelod yn codi mater pwysig, ac yn rhan o safon ansawdd tai Cymru, wrth gwrs, mae gwneud yn siŵr bod cartrefi yn bodloni safon lle y sicrheir bod cyn lleied o ddamweiniau â phosibl yn bwysig.
Ceir nifer o gynlluniau ar gyfer addasiadau ledled Cymru hefyd, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod cyflymder addasiadau wedi cynyddu y tu hwnt i bob amgyffred yn fy nghyngor fy hun o'i gymharu â'r sefyllfa 10 mlynedd yn ôl. Ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn, ac rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod y safonau diogelwch gorau yn cael eu cynnwys yn y dyluniad wrth i ni ddatblygu cartrefi newydd yng Nghymru.