Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 1 Mai 2018.
Rydw i’n croesawu’r adolygiad, wrth gwrs, cyn belled â bod y deilliannau yn glir ac y bydd yn arwain at wella cydraddoldeb. Wrth gyhoeddi’r adolygiad mewn araith yn Rhydychen, fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud, fel rŷch chi newydd ei ddweud, ei fod e eisiau gweld Cymru fel y lle mwyaf saff yn Ewrop ar gyfer menywod. Ac eto, rydw i’n cytuno’n llwyr, ond mae troi’r geiriau yna yn realiti yn gofyn am ymrwymiad ac ewyllys wleidyddol gadarn. Ar hyn o bryd, mae’r agenda cydraddoldeb rhywedd yn rhan o'ch ystod o ddyletswyddau chi fel arweinydd y tŷ. Beth ydy’ch barn chi am gael Gweinidog sydd yn gallu canolbwyntio’n llwyr ar hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod?