1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Mai 2018.
5. A wnewch chi ddatganiad am yr adolygiad rhywedd sy'n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd? OAQ52107
Bydd yr adolygiad, sy'n cael ei arwain gennyf i, yn helpu i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei roi wrth wraidd gwaith llunio a darparu polisi Llywodraeth Cymru, ac yn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod.
Rydw i’n croesawu’r adolygiad, wrth gwrs, cyn belled â bod y deilliannau yn glir ac y bydd yn arwain at wella cydraddoldeb. Wrth gyhoeddi’r adolygiad mewn araith yn Rhydychen, fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud, fel rŷch chi newydd ei ddweud, ei fod e eisiau gweld Cymru fel y lle mwyaf saff yn Ewrop ar gyfer menywod. Ac eto, rydw i’n cytuno’n llwyr, ond mae troi’r geiriau yna yn realiti yn gofyn am ymrwymiad ac ewyllys wleidyddol gadarn. Ar hyn o bryd, mae’r agenda cydraddoldeb rhywedd yn rhan o'ch ystod o ddyletswyddau chi fel arweinydd y tŷ. Beth ydy’ch barn chi am gael Gweinidog sydd yn gallu canolbwyntio’n llwyr ar hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod?
Wel, mae'n syniad diddorol. Rwy'n meddwl bod iddo fanteision ac anfanteision sydd wedi eu trafod yn drylwyr ac mae'n debyg na wnaiff y Llywydd ganiatáu i mi gyflwyno araith awr o hyd ar y manteision a'r anfanteision. Ond yr hyn sy'n hanfodol, wrth gwrs, yw bod unrhyw Weinidog â chyfrifoldeb yn ei wneud yn flaenllaw yn yr hyn y mae'n treulio ei amser yn ei wneud. Y rheswm am yr adolygiad cyflym yw i sicrhau nad ydym wedi methu unrhyw beth; nad oes unrhyw fylchau ac nad ydym ni'n cael unrhyw ganlyniadau anfwriadol; ond hefyd bod ein holl bolisïau yn cael eu targedu i'r un cyfeiriad ar yr un pryd.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at dderbyn yr adroddiad cyntaf ym mis Mehefin. Mae gennym ni nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid ac mae gen i nifer o gyfarfodydd â gwahanol fenywod dylanwadol, goroeswyr, gwylwyr a phobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau, ac yn y blaen, ledled Cymru i gasglu cymaint o safbwyntiau â phosibl wrth i ni geisio canolbwyntio ein holl ymdrechion ar sicrhau cydraddoldeb ychydig yn gyflymach nag yr wyf i'n ei gredu y byddem pe byddem ni wedi parhau fel yr oeddem yn ei wneud ar y cychwyn.
Arweinydd y tŷ, fe ddywedasoch wrthyf yn ystod cwestiynau yr wythnos diwethaf y bydd yr adolygiad rhywiau yn cynnwys y bwlch cyflog ar draws pob sefydliad sector cyhoeddus. Gan mai dim ond un o'r 50 o gwmnïau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru sydd â phrif weithredwr benywaidd—sef y Bathdy Brenhinol—byddwn yn awyddus i ddeall sut y mae cwmnïau preifat a arferai fod mewn perchenogaeth gyhoeddus, neu sydd â chysylltiadau cryf â'r sector cyhoeddus o leiaf, yn cael eu cynnwys yn eich adolygiad. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd yr adolygiad yn helpu i berswadio cwmnïau preifat mawr o'r math sy'n rhan o gwmpas safonau'r Gymraeg ar hyn o bryd, er enghraifft, leihau eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau?
Un o'r pethau yr ydym ni'n ei ystyried o ran y cynllun gweithredu economaidd, yr agenda gwaith teg a'n polisïau caffael ein hunain yw gweld pa ysgogwyr sydd gennym ni i sicrhau bod y nodau hynny yn nodau y ceisir eu cyrraedd yn y sector preifat yn ogystal ag yn y sector cyhoeddus. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni roi trefn ar ein materion ein hunain yn gyntaf, hefyd, ond rydym ni'n gobeithio'n fawr iawn, trwy ddylanwad meddal a thrwy ysgogiad uniongyrchol gan ddefnyddio ein cyllid, y mae nifer fawr o sefydliadau sector preifat yng Nghymru yn ei dderbyn, gallu symud yr agenda honno ychydig yn gyflymach nag y mae'n ymddangos ei bod yn symud ar hyn o bryd.
Arweinydd y tŷ, ddoe, croesewais bererindod myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; roedden nhw wedi cerdded o Ferthyr i Bontypridd ac i lawr i Gaerdydd. Roedd ganddyn nhw faneri yn dangos neges y swffragetiaid, 'Gweithredoedd nid geiriau', ac mewn gwirionedd, roedd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr o'r Coleg Celf yn Abertawe—rwy'n credu bod hwnnw yn etholaeth Mike Hedges—a chyflwynasant faniffesto eu pererindod i mi. Fe wnaethant ganu 'Bread and Roses' hefyd, a oedd yn wefreiddiol iawn, ar risiau'r Senedd. Ond yr hyn y maen nhw ei eisiau yw cyfle cyfartal; gofal plant am ddim; diogelwch swyddi i fenywod ar gyfnod mamolaeth; i barhau'r frwydr am gyflog cyfartal; ymrwymiad i amrywiaeth o ran cynrychiolaeth mewn sefydliadau cyhoeddus; ac ymrwymiad i gefnogi cydlyniant mewn cymunedau trwy fentrau creadigol. Felly, arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod y maniffesto hwn yn cyd-fynd ag amcanion yr adolygiad rhywiau. A wnewch chi sicrhau bod lleisiau'r myfyrwyr hyn yn cael eu clywed a'u croesawu?
Yn sicr. Mae yn fy etholaeth i a dweud y gwir, ac roeddwn i'n drist iawn i fethu â gallu—.
Ymddiheuriadau.
Fe wnes i fy ngorau glas i fod yn bresennol a dweud y gwir, ond nid oedd yn ddigon, ac fe'u collais, yn anffodus, felly roeddwn i'n siomedig iawn. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi gallu eu gweld yno. Maen nhw'n grŵp ysbrydoledig o fenywod ifanc a chytunaf yn llwyr â'u hagenda. Pe byddem ni ond yn gallu ei wneud yn gyflymach.