Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 1 Mai 2018.
Dirprwy Lywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Caniatewch imi ateb y ddau gwestiwn cyffredinol yn gyntaf. O ran cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus, ni ddylai'r dewis a wynebodd y Llywodraeth fod wedi bod rhwng toriadau llymach, cyflymach a mygu economi'r DU yn hir ac yn araf, fel y maen nhw wedi ei wneud; dylid bod wedi dewis defnyddio buddsoddiad gwrth-gylchol, yn enwedig ar gyfer seilwaith ar adeg pan na fu costau benthyca erioed yn is. Ac yn lle hynny, dewisodd George Osborne, yn hytrach na gwneud yr hyn a wnaed yn Unol Daleithiau'r America ac ar gyfandir Ewrop i achub ar y cyfle hwnnw i ysgogi twf economaidd, yr adeg mwyaf anhymig y gallwch ei ddychmygu i leihau buddsoddi cyfalaf ledled y Deyrnas Unedig. Nawr, wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r hyn a ddywedodd Nick Ramsay: nid Llywodraeth y DU sydd ar fai am y penderfyniad ynghylch Brexit a doeddwn i ddim yn awgrymu eu bod. Yr hyn rwy'n ei ddweud yn fy natganiad yw'r hyn y mae busnesau sector preifat a sefydliadau yn ei ddweud wrth y Llywodraeth hon ac yn ei ddweud wrth Lywodraeth y DU drwy'r amser, sef bod yr ansicrwydd ynghylch Brexit yn cael effaith ar eu gallu i gynllunio buddsoddi yn y dyfodol. Rwy'n credu bod pethau y gallai Llywodraeth y DU fod wedi eu gwneud i roi mwy o sicrwydd ynghylch y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â Brexit, ond mae'n ffaith anorfod, ar gyfer Llywodraeth y DU yn ogystal â'n un ni, bod newid mawr o'r math hwn, pa bynnag farn sydd gennych chi yn ei gylch, yn dod ag ansicrwydd enfawr gydag ef, ac y mae yn cael effaith ar benderfyniadau buddsoddi busnesau preifat nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig.
A gaf i ymdrin yn fyr â'r cwestiynau mwy penodol a holodd yr aelod? Rwy'n gwerthfawrogi yn fawr iawn yr hyn a ddywed am raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae awdurdod lleol Mynwy, fel pob awdurdod lleol yng Nghymru, wedi elwa'n sylweddol o fand A. Rydym ni bellach yn symud i fand B ac mae'r rhychwant amser pum mlynedd ar gyfer band B o'r rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn parhau'n ddigyfnewid.
Rwy'n ffyddiog fod y buddsoddiad cyfalaf yr ydym ni'n ei wneud mewn tai fforddiadwy—y buddsoddiad mwyaf unigol y byddwn yn ei wneud fel Llywodraeth—er mwyn cyflawni'r 20,000 o gartrefi fforddiadwy yr ydym ni eisiau eu gweld yn cael eu codi yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn darparu'r buddsoddiad angenrheidiol a'n bod ar y trywydd iawn i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth honno o dai sydd ei wirioneddol angen ar lawr gwlad yn cael ei gwireddu.
Mae'r sylw a wnaeth yr Aelod ynghylch camau blaenorol ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi cael ei wyntyllu'n drylwyr yn y fan yma. Mae yna heriau topograffig gwirioneddol gyda'r rhan honno o'r gwaith adeiladu. Yr hyn yr wyf i wedi ei gyhoeddi heddiw yw'r pethau ychwanegol yr ydym ni'n eu gwneud i gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd yn ei chyfanrwydd gan ddefnyddio ein model buddsoddi cydfuddiannol.
Wnes i ddim sôn, mae'n hollol gywir, am y ganolfan gofal critigol, Dirprwy Lywydd, oherwydd ceir darpariaeth eisoes ar gyfer hynny o ran cyllid yn y cynlluniau y mae'r Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi.