Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 1 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn. Caniatewch yn gyntaf imi grybwyll nifer fach o bwyntiau lle nad wyf yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi ei chyfyngu. Nid ydym ni wedi ein cyfyngu gymaint ag yr oeddem ni ar un adeg, i raddau helaeth oherwydd y gwaith a wnaed gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, wrth ddechrau mynd ati mewn ffyrdd arloesol i ychwanegu at y cyfalaf confensiynol sydd ar gael i ni. Ac fe geisiais i ddisgrifio rhai o'r rheini yn y ffordd yr ydym ni wedi cefnogi cymdeithasau tai a chynghorau lleol i fenthyca ac yn y ffordd yr ydym ni wedi defnyddio ffynonellau cyllid y tu allan i floc Cymru. Wrth gwrs, gosodir y cyd-destun mawr gan y bloc yn y ffordd y dywedodd Neil Hamilton. Caniatewch imi ddweud wrtho: nid llwybr at waredigaeth mo cyni, ond ffordd nad yw'n arwain i unlle. Dyna a ddangosir drwy ei wfftio'n barhaol pan fyddwn ni yn y pen draw yn gweld ei benllanw.
Nid wyf wedi dadlau o gwbl, Dirprwy Lywydd, y prynhawn yma am wariant diddiwedd, ond mae'r awgrym yn y term, onid yw—buddsoddi 'cyfalaf'? Nid arian wedi ei wastraffu yw gwariant cyfalaf, yr arian yr ydym ni yn ei ddefnyddio i greu'r amodau ble byddwn ni'n cael adenillion gwell o ganlyniad i'r buddsoddiad nag a gaem ni pe na baem ni wedi gwneud hynny. A dyna sut yr ydym ni'n rheoli—ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yn hyn o beth—i geisio codi'r sylfaen dreth yng Nghymru, i geisio sicrhau y gall ein heconomi wneud yn well. Beth mae busnesau sy'n dod i Gymru yn disgwyl ei weld? Maen nhw'n disgwyl gweld y math o seilwaith y gwyddon nhw y caiff y buddsoddiad y maen nhw'n barod i'w wneud ei gefnogi gyda gwariant cyhoeddus. Ac felly nid wyf yn cytuno ag ef bod buddsoddi cyfalaf am ryw reswm yn rhywbeth y dylem ni fod yn amheus yn ei gylch. Rydym ni'n buddsoddi heddiw er mwyn llwyddo yfory, ac mae llwyddiant yfory yn mwy nag ad-dalu'r buddsoddiad a wnawn ni er mwyn cyflawni hynny.
Diolch iddo am yr hyn a ddywedodd ar y diwedd ynglŷn â gallu defnyddio band eang. Mae wedi gweld bod mwy na £30 miliwn yng nghyhoeddiad heddiw o fuddsoddiad ychwanegol dros y tair blynedd nesaf o ran gallu defnyddio band eang. Fy nealltwriaeth i, ond fe allech chi glywed llawer mwy ynghylch hynny gan fy nghyd-Aelod sy'n gyfrifol am y maes hwnnw, yw y caiff yr arian, yn rhannol o leiaf, ei wario yn y rhannau hynny o Gymru lle mae'r her o allu defnyddio band eang ar ei uchaf ac yn ein galluogi ni i gyflymu'r gwaith o ddatblygu'r seilwaith sydd ei angen arnom ni mewn technolegau digidol, unwaith eto oherwydd bod busnesau yn y rhan honno o Gymru—mae eu dyfodol a'u twf yn dibynnu arno.