Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 1 Mai 2018.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad ac am y cyfle i drafod nifer o faterion tebyg yn y gorffennol, gyda'r Gweinidog yn ogystal. A gaf i ddechrau gyda'r pwynt y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet bennu arno? Mae'n dda gen i glywed ei fod e'n ffyddiog bod pethau wedi gwella ym Mhowys, ond o edrych ar dri pheth, a dweud y gwir—yr adroddiad ar wasanaethau plant, yr adroddiad heddiw ar wasanaethau i oedolion ac, wrth gwrs, y gwaith y mae yntau wedi ei wneud ynglŷn â llywodraethiant y tu fewn i gyngor Powys—rydym ni yn gweld mai, yn fras iawn, yr un bobl sydd nawr yn gwella'r gwasanaethau a oedd yn gyfrifol pan aeth y gwasanaethau i drafferth yn y lle cyntaf. Er eu bod nhw wedi newid eu swyddogaethau, maen nhw'n dal yn rhan o'r un criw, i bob pwrpas, sydd wedi bod yno ers gwnaed rhai o'r penderfyniadau, yn enwedig y penderfyniadau cyllido, a wnaeth ein harwain ni i mewn i'r gors arbennig yma.
Felly, a gaf i ddechrau gyda'r trosolwg hwnnw, gan groesawu a dymuno'n dda i Mohammed Mehmet, pan fydd yn dechrau ar ei waith fel prif weithredwr dros dro, gan ddweud hefyd fy mod innau wedi cwrdd—ac Aelodau Cynulliad eraill—tuag wythnos yn ôl, gyda phrif swyddogion ac arweinydd y cyngor? Roeddem ni wedi ein plesio gydag atebion y prif swyddogion, yn sicr. Roeddwn i'n meddwl eu bod nhw wedi cael gafael ar y sefyllfa. Ond, erbyn hyn, a ydych chi o'r farn, fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am lywodraeth leol, fod y diffyg capasiti a oedd wedi cael ei amlinellu bellach wedi'i lanw o ran y staff hŷn, o ran y Cabinet ym Mhowys yn deall eu rôl hwythau yn gyrru'r gwaith yma ymlaen, ac o ran y dynodiad cyllidol ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem yma? Felly, o ran y diffyg capasiti a'r tri chwestiwn penodol hynny, a ydych chi bellach—ac yn sgil eich cyfarfod heddiw—yn hapus gyda hynny?
Os caf i droi at yr adroddiad sydd wedi'i gyhoeddi heddiw, wrth gwrs rydym ni'n trafod hwnnw yng nghyd-destun adroddiad gwaeth o lawer yng nghyd-destun gwasanaethau plant, sydd yn lliwio i raddau beth yr ydym ni'n—. Mae'n anodd gwybod sut y byddem ni wedi ymateb i adroddiad heddiw oni bai ein bod ni wedi cael yr adroddiad cynt. Achos, fel roedd Russell George yn ei grybwyll, mae nifer o'r pethau a ddylai fod wedi digwydd nawr ar y gweill, ac rydym ni'n croesawu hynny, ond un o'r pethau sy'n gyffredin rhwng y ddau adroddiad yw diffyg dealltwriaeth—ac nid jest diffyg dealltwriaeth, ond absenoldeb dealltwriaeth—o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. A ydych chi o'r farn bod yr hyfforddiant bellach yn ei le i wneud yn siŵr bod pob swyddog ym Mhowys sydd yn gyfrifol, o dan y Ddeddf honno, bellach yn derbyn yr hyfforddiant yna?
Yr ail beth sy'n gyffredin rhwng y ddau adroddiad yw trosiant staff difrifol—staff yn symud, staff yn mynd, diffyg parhad staff. Mae wedi cael ei awgrymu i fi fod—os liciwch chi—y drefn fwy llym yn ddiweddar wedi gyrru rhai staff i benderfynu efallai eu bod nhw am adael y gwasanaeth, ond y mae'n dal yn drosiant, ac y mae'n dal angen i'r staff ddeall y sefyllfa ym Mhowys a bod yn glir ynglŷn â'u cyfrifoldebau. Beth sy'n gyfrifol am y diffyg dealltwriaeth yma? Ai'r trosiant naturiol sy'n digwydd? Ai natur Powys, fel cyngor cefn gwlad? Ai'r ffaith eu bod nhw'n delio, weithiau, dros y ffin â Lloegr hefyd? A ydych chi'n hapus bellach fod y mater yna wedi'i ddatrys, yn enwedig o safbwynt hyfforddi?
Un o'r pethau eraill sy'n dod allan o'r adroddiad heddiw yw bod gofal wedi'i ohirio ymysg oedolion yn effeithio ar wasanaethau ehangach ym Mhowys yn y gwasanaeth ysbytai a gofal. Byddwn i jest yn hoffi gwybod a oes gennych chi fwy i'w ddweud am fynd i'r afael â'r broblem arbennig honno hefyd.
Ac yn olaf, un o'r pethau rydw i'n meddwl sydd wedi ein harwain ni i'r sefyllfa yma ym Mhowys yw'r diwylliant gwleidyddol sydd wedi bod yn y cyngor sir yn y gorffennol: y diffyg herio, y diffyg rhannu gwybodaeth, diffyg tryloywder ymysg rhai o aelodau'r cabinet hŷn. Efallai bod hynny'n newid. Rwyf i'n gwybod bod rhai o'r grwpiau gwleidyddol yn fwy awyddus y tro yma i ddal pobl i gyfrif, ac yn y cyd-destun hwnnw, a ydych chi o'r farn bod y cyngor sir ei hun yn rhoi digon o gefnogaeth—hyfforddiant a chefnogaeth yn ystyr ehangach y gair—i'r gwrthbleidiau, i gynghorwyr unigol, fel eu bod nhw'n gallu dal y cabinet presennol i gyfrif, a hefyd fel bod ganddyn nhw arfau i ddeall y broblem yna, ac i fod yn rhan o'r ateb i ddatrys y broblem yn ogystal?