Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 1 Mai 2018.
Hoffwn ddiolch i lefarydd y Ceidwadwyr am ei eiriau caredig ar ddechrau ei gyfraniad, a hefyd am ei ddyfeisgarwch wrth sleifio'i sylwadau ar ddiwygio llywodraeth leol i ddiweddglo'r araith honno.
Fe ddechreuaf, efallai, y peth hawsaf, drwy ateb rhai o'ch cwestiynau olaf yn gyntaf. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddylanwad wrth benodi prif weithredwr Powys nac unrhyw awdurdod arall. Mater i'r awdurdod yw gwneud penderfyniadau o'r fath. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn barod i helpu a chefnogi, ond mae'n iawn ac yn briodol i'r llywodraeth leol ei hun wneud y penderfyniadau hyn. Penodwyd Mohammed Mehmet gan Gyngor Sir Powys, yn unol â'i weithdrefnau, ac rwyf i'n croesawu’r penodiad. Mae gen i bob ffydd ynddo ef a'i allu i arwain y gweithlu proffesiynol yng Nghyngor Sir Powys a chynnig yr arweinyddiaeth broffesiynol sydd ei hangen er mwyn adfer y cyngor i'r sefyllfa yr ydym ni i gyd yn dymuno iddo fod ynddi yn y dyfodol.
O ran swyddogaeth Llywodraeth Cymru, mae llefarydd y Ceidwadwyr, Dirprwy Lywydd, wedi holi nifer o gwestiynau sy'n cyfeirio at swyddogaeth bosibl Llywodraeth Cymru, o ran strategaeth y gweithlu a chyflawni cyfres o ymyriadau. Gadewch imi ddweud hyn: un o'r pethau cadarnhaol, yn fy marn i, wrth edrych ar yr ymyraethau a gyflawnwyd i Bowys gyda chymorth Powys, yw bod y gwaith hwn wedi'i arwain i raddau helaeth iawn gan bobl sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol a phrofiad o lywodraeth leol, ac sydd wedi'u gwreiddio ynddynt. Dyma llywodraeth leol yn cynnal ac yn cefnogi llywodraeth leol. Rwy'n gobeithio y gallwn ni, yn ystod y blynyddoedd nesaf, roi mwy o strwythurau ar waith a fydd yn galluogi llywodraeth leol i gynnal a chefnogi gwasanaethau llywodraeth leol.
Rwy'n gobeithio y bydd y dyddiau o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru yn dod i ben yn fuan, mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu rhoi strwythurau a dulliau a phrosesau ar waith y gall llywodraeth leol eu defnyddio er mwyn cymryd cyfrifoldeb am wella'r gwasanaethau a ddarperir i, gan ac ar gyfer llywodraeth leol. Dyna sut y dylai hi fod. Mae'n iawn ac yn briodol bod gan lywodraeth leol y strwythurau hynny ar waith ac, yn sicr, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud popeth yn ei gallu i ddarparu'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen i gyrraedd y pwynt hwnnw.
Mae'r Aelod Ceidwadol wedi holi nifer o gwestiynau ynghylch sut y byddwn yn mesur gwelliannau a'r lefel uchel o ymyrraeth sydd ei hangen er mwyn cyflawni ein targedau a'n hamcanion. Dywedaf wrtho fy mod i'n disgwyl i'r bwrdd gwella gyhoeddi ei amcanion a chyhoeddi ei ffrydiau gwaith maes o law, a byddwn ni'n gallu dwyn y bwrdd gwella i gyfrif am sut y mae'n mynd ati i gyflawni a gwireddu'r uchelgeisiau hynny.
Ond gadewch imi ddweud hyn hefyd: rwyf i, fel ef, wedi darllen yr adroddiad ar wasanaethau oedolion, a gyhoeddwyd amser cinio heddiw. Rydym yn gweld methiannau yn y fan yna. Rydym yn cydnabod y methiannau, ond rydym ni hefyd yn cydnabod yr hyn a ddywedwyd am y gwasanaethau a ddarperir yno. Mae'r pwynt y gwnaeth Russell George yn ei gyfraniad ef, am forâl y staff a'r gweithlu, yn fy marn i, yn gwbl ganolog i bopeth arall yr ydym yn ceisio'i gyflawni yma. Rydym yn rhoi strwythurau ar waith ac yn sicrhau bod y bobl iawn yno i allu helpu i sicrhau bod gennym ni'r sgiliau technegol a'r sgiliau rheoli i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen, ac sydd gan bobl Powys bob hawl i'w disgwyl. Ond yn fwy na hynny, mae angen i ni fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â'r diwylliant corfforaethol; mae angen i ni fynd i'r afael â diwylliant corfforaethol ym Mhowys, ac weithiau mewn mannau eraill hefyd.
Rwy'n gobeithio y bydd y newidiadau ehangach, y mae'r arweinydd yn cydnabod yn hollol eu bod yn cael eu gwneud, yn sicrhau'r newid hwnnw mewn diwylliant o fewn y sefydliad hefyd. Dywedaf, Dirprwy Lywydd, wrth yr Aelodau fod y cyfarfod a gefais â'r Cynghorydd Harris y prynhawn yma yn un da iawn a chadarnhaol iawn. Wrth adael y cyfarfod, roedd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a minnau yn teimlo'n gadarnhaol iawn am yr ymrwymiad y mae'r Cynghorydd Harris yn ei wneud i wella, a'r daith y mae'n ei harwain ym Mhowys. Ac mae'n sicr yn fater i mi a'r holl gydweithwyr gweinidogol sy'n ymwneud â hyn, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn darparu pob cymorth sydd ei angen ar Bowys er mwyn cyrraedd pen y daith hon.