6. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Perchnogaeth Tai Cost Isel

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 1 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:55, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn credu mewn tai cymdeithasol; credwn mewn tai fforddiadwy. Ein huchelgais yw bod pawb yn byw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cefnogi bywyd iach, ffyniannus a llwyddiannus. Rydym yn gwybod bod yn rhaid inni weithio ar draws y Llywodraeth i gyflawni hyn. Mae 'Ffyniant i bawb' nid yn unig yn rhoi blaenoriaeth haeddiannol i dai, ond mae'n ailddatgan ein hymrwymiad hirdymor i dai cymdeithasol a thai fforddiadwy. Byddwn yn darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth. Y gyfran fwyaf fydd tai rhent cymdeithasol. Y llynedd, cefnogwyd buddsoddiad o £179 miliwn drwy ein grant tai cymdeithasol a'r rhaglen grant cyllid tai.

O dan hawl i brynu Thatcher, collwyd 139,000 o gartrefi o'n stoc tai cymdeithasol. Rydym wedi deddfu i atal hynny, ac i gadw ein stoc tai cymdeithasol ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf, ac i roi hyder i awdurdodau lleol adeiladu. Ac rwyf eisiau gweithio gyda nhw i adeiladu llawer o dai yn gyflym. Rydym yn gwybod nad yw un math o ddeiliadaeth yn addas i bawb. Credwn nad yw perchentyaeth ar gyfer pobl ar incwm uwch yn unig. Mae gan bobl ar incwm is uchelgais i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, a byddwn yn eu helpu mewn ffyrdd na fydd yn gostwng lefel ein tai cymdeithasol.

Mae cynnydd mewn prisiau tai a'r gofyn am flaendal uwch wedi ei gwneud hi'n anos i'r rhai a allai fod yn berchenogion cartrefi i gael eu traed ar yr ysgol dai. Yn wir, yn ddiweddar cyhoeddodd y Resolution Foundation ei ragfynegiad y gallai dan hanner y millennials fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain erbyn iddyn nhw gyrraedd 45 oed. Dyma pam yr wyf eisiau cynyddu a gwella'r amrywiaeth o ddewisiadau sydd ar gael i bobl sy'n dymuno bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, a darparu cyfleoedd newydd ochr yn ochr â'r cynhyrchion sydd gennym eisoes. Rhwng Ionawr 2014 a diwedd mis Mawrth 2018, roedd ein cynllun Cymorth i Brynu—Cymru wedi cefnogi'r gwaith o adeiladu a gwerthu bron 6,900 o gartrefi, gyda mwy na 750 ar y gweill sy'n disgwyl cael eu cwblhau yn fuan. Bydd y cynllun yn cyfrannu'n sylweddol at gyflawni ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.

Mae Cymorth i Brynu—Cymru yn cyflawni'r union beth y bwriadwyd iddo ei wneud. Mae'n rhoi benthyciad rhannu ecwiti hyd at 20 y cant o werth yr eiddo, gan alluogi prynwyr eiddo newydd i symud i mewn i gartref gydag isafswm blaendal o 5 y cant yn unig. Mae hyn yn arbennig o bwysig i brynwyr am y tro cyntaf ac, o ganlyniad, y nhw sy'n gyfrifol am dros 75 y cant o geisiadau Cymorth i Brynu—Cymru. Hefyd, mae'n parhau i roi hwb i'r diwydiant tai drwy gefnogi adeiladu cartrefi newydd ledled Cymru. Mae buddsoddi mewn tai yn cynnig manteision amlwg i'r economi, drwy gefnogi'r diwydiant adeiladu a'r gadwyn gyflenwi sy'n gysylltiedig â hwnnw.

Rydym yn parhau i sicrhau bod Cymorth i Brynu—Cymru yn dal i fod ar gael. Mae'r cynllun ecwiti a rennir hwn yn cynnig cyfle i brynwyr brynu cartref sy'n bodoli eisoes, ac mae hynny'n apelio, yn arbennig yn yr ardaloedd hynny lle mae adeiladau newydd yn brin, gan gynnwys ardaloedd gwledig lle nad oes adeiladu ar raddfa fawr. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ailedrych ar y cynllun hwn sydd wedi ei sefydlu ac, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, iddyn nhw ystyried a ellir nodi unrhyw fesurau ychwanegol i wella a chefnogi ei dwf. Rwyf yn awyddus i ystyried cyfleoedd perchentyaeth ychwanegol ar gyfer pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig lle mae prisiau tai yn arbennig o uchel. Mae fy swyddogion yn edrych ar bosibiliadau megis hunanadeiladu, a all gynnig cyfleoedd ychwanegol.

Rwyf yn falch o dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith ein bod wedi cymryd camau sylweddol i wella ein cynnig ynghylch perchentyaeth cost isel yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gyflwyno dau gynllun newydd a'r wefan Eich Cartref yng Nghymru. Lansiais y cynlluniau Rhentu i Brynu—Cymru a Rhanberchnogaeth—Cymru i helpu ystod ehangach o bobl i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Bydd Rhentu i Brynu—Cymru yn helpu pobl sy'n gallu fforddio taliadau misol ond sy'n methu â chynilo digon ar gyfer blaendal morgais. Bydd Rhanberchnogaeth—Cymru yn helpu'r rheini sy'n gallu cael gafael ar flaendal bach ac felly yn gallu cael morgais ar gyfran o werth yr eiddo.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £70 miliwn yn y mentrau perchenogaeth cartref newydd hyn fel rhan o'n hymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth. Mae'r diddordeb cynnar yn y cynlluniau wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda chwe chymdeithas dai ledled Cymru bellach wedi cofrestru i gymryd rhan ac i gynnig portffolio o gartrefi. Byddwn nawr yn canolbwyntio ar wella'r cyflenwad o gartrefi ar draws ardaloedd pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae lansio'r ddau gynllun newydd hyn yn dangos y cynnydd sydd yn y dewisiadau sydd ar gael i gefnogi darpar berchnogion cartrefi, gan gynnwys prynwyr am y tro cyntaf a phobl ifanc sy'n gobeithio aros yn eu cymunedau neu ddychwelyd iddyn nhw.

Mae gwybodaeth eglur yn hanfodol i bobl sy'n ystyried prynu eu cartref eu hunain, ac rwyf yn cydnabod, gyda nifer o ddewisiadau gwahanol, mae angen egluro'r hyn sydd ar gael. Dyna pam yr wyf wedi lansio'r wefan Eich Cartref yng Nghymru sy'n rhoi gwybodaeth allweddol ynghylch pob un o'r cynlluniau perchentyaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y canllaw ymarferol hwn yn helpu pobl i benderfynu pa gynllun sydd fwyaf addas ar gyfer eu hamgylchiadau personol nhw. Bydd y cynlluniau hyn i gyd yn cyfrannu at ein targed uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod oes y Cynulliad hwn.

Rwyf eisiau gosod y sylfeini ar gyfer y posibilrwydd o bennu targedau mwy uchelgeisiol yn y dyfodol, mewn ymateb i amrywiaeth o anghenion tai. Rwyf hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru barhau i greu hinsawdd ar gyfer gwthio arloesedd a gwelliannau o safbwynt dylunio, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni. I gefnogi hyn, bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod i wedi comisiynu adolygiad o'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn deg, yn dryloyw ac yn gadarn, rwyf yn sefydlu panel annibynnol i oruchwylio'r gwaith hwn dan y cadeirydd annibynnol, Lynn Pamment. Bydd angen i'r adolygiad sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen cynyddol am dai fforddiadwy a'r pwysau parhaus ar wariant cyhoeddus sydd ar gael i gefnogi adeiladu tai. Edrychaf ymlaen at gyflwyno manylion wrth i'r adolygiad fynd rhagddo.

Mae ein cynlluniau perchentyaeth cost isel, ynghyd â'n gwaith mewn meysydd tai eraill a'r adolygiad sydd ar y gweill, yn dangos yn glir bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni ei huchelgais i weld pawb yn byw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cefnogi bywyd iach, ffyniannus a llwyddiannus.