– Senedd Cymru am 4:55 pm ar 1 Mai 2018.
Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar berchentyaeth cost isel yw eitem 6. Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn credu mewn tai cymdeithasol; credwn mewn tai fforddiadwy. Ein huchelgais yw bod pawb yn byw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cefnogi bywyd iach, ffyniannus a llwyddiannus. Rydym yn gwybod bod yn rhaid inni weithio ar draws y Llywodraeth i gyflawni hyn. Mae 'Ffyniant i bawb' nid yn unig yn rhoi blaenoriaeth haeddiannol i dai, ond mae'n ailddatgan ein hymrwymiad hirdymor i dai cymdeithasol a thai fforddiadwy. Byddwn yn darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth. Y gyfran fwyaf fydd tai rhent cymdeithasol. Y llynedd, cefnogwyd buddsoddiad o £179 miliwn drwy ein grant tai cymdeithasol a'r rhaglen grant cyllid tai.
O dan hawl i brynu Thatcher, collwyd 139,000 o gartrefi o'n stoc tai cymdeithasol. Rydym wedi deddfu i atal hynny, ac i gadw ein stoc tai cymdeithasol ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf, ac i roi hyder i awdurdodau lleol adeiladu. Ac rwyf eisiau gweithio gyda nhw i adeiladu llawer o dai yn gyflym. Rydym yn gwybod nad yw un math o ddeiliadaeth yn addas i bawb. Credwn nad yw perchentyaeth ar gyfer pobl ar incwm uwch yn unig. Mae gan bobl ar incwm is uchelgais i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, a byddwn yn eu helpu mewn ffyrdd na fydd yn gostwng lefel ein tai cymdeithasol.
Mae cynnydd mewn prisiau tai a'r gofyn am flaendal uwch wedi ei gwneud hi'n anos i'r rhai a allai fod yn berchenogion cartrefi i gael eu traed ar yr ysgol dai. Yn wir, yn ddiweddar cyhoeddodd y Resolution Foundation ei ragfynegiad y gallai dan hanner y millennials fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain erbyn iddyn nhw gyrraedd 45 oed. Dyma pam yr wyf eisiau cynyddu a gwella'r amrywiaeth o ddewisiadau sydd ar gael i bobl sy'n dymuno bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, a darparu cyfleoedd newydd ochr yn ochr â'r cynhyrchion sydd gennym eisoes. Rhwng Ionawr 2014 a diwedd mis Mawrth 2018, roedd ein cynllun Cymorth i Brynu—Cymru wedi cefnogi'r gwaith o adeiladu a gwerthu bron 6,900 o gartrefi, gyda mwy na 750 ar y gweill sy'n disgwyl cael eu cwblhau yn fuan. Bydd y cynllun yn cyfrannu'n sylweddol at gyflawni ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.
Mae Cymorth i Brynu—Cymru yn cyflawni'r union beth y bwriadwyd iddo ei wneud. Mae'n rhoi benthyciad rhannu ecwiti hyd at 20 y cant o werth yr eiddo, gan alluogi prynwyr eiddo newydd i symud i mewn i gartref gydag isafswm blaendal o 5 y cant yn unig. Mae hyn yn arbennig o bwysig i brynwyr am y tro cyntaf ac, o ganlyniad, y nhw sy'n gyfrifol am dros 75 y cant o geisiadau Cymorth i Brynu—Cymru. Hefyd, mae'n parhau i roi hwb i'r diwydiant tai drwy gefnogi adeiladu cartrefi newydd ledled Cymru. Mae buddsoddi mewn tai yn cynnig manteision amlwg i'r economi, drwy gefnogi'r diwydiant adeiladu a'r gadwyn gyflenwi sy'n gysylltiedig â hwnnw.
Rydym yn parhau i sicrhau bod Cymorth i Brynu—Cymru yn dal i fod ar gael. Mae'r cynllun ecwiti a rennir hwn yn cynnig cyfle i brynwyr brynu cartref sy'n bodoli eisoes, ac mae hynny'n apelio, yn arbennig yn yr ardaloedd hynny lle mae adeiladau newydd yn brin, gan gynnwys ardaloedd gwledig lle nad oes adeiladu ar raddfa fawr. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ailedrych ar y cynllun hwn sydd wedi ei sefydlu ac, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, iddyn nhw ystyried a ellir nodi unrhyw fesurau ychwanegol i wella a chefnogi ei dwf. Rwyf yn awyddus i ystyried cyfleoedd perchentyaeth ychwanegol ar gyfer pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig lle mae prisiau tai yn arbennig o uchel. Mae fy swyddogion yn edrych ar bosibiliadau megis hunanadeiladu, a all gynnig cyfleoedd ychwanegol.
Rwyf yn falch o dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith ein bod wedi cymryd camau sylweddol i wella ein cynnig ynghylch perchentyaeth cost isel yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gyflwyno dau gynllun newydd a'r wefan Eich Cartref yng Nghymru. Lansiais y cynlluniau Rhentu i Brynu—Cymru a Rhanberchnogaeth—Cymru i helpu ystod ehangach o bobl i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Bydd Rhentu i Brynu—Cymru yn helpu pobl sy'n gallu fforddio taliadau misol ond sy'n methu â chynilo digon ar gyfer blaendal morgais. Bydd Rhanberchnogaeth—Cymru yn helpu'r rheini sy'n gallu cael gafael ar flaendal bach ac felly yn gallu cael morgais ar gyfran o werth yr eiddo.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £70 miliwn yn y mentrau perchenogaeth cartref newydd hyn fel rhan o'n hymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth. Mae'r diddordeb cynnar yn y cynlluniau wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda chwe chymdeithas dai ledled Cymru bellach wedi cofrestru i gymryd rhan ac i gynnig portffolio o gartrefi. Byddwn nawr yn canolbwyntio ar wella'r cyflenwad o gartrefi ar draws ardaloedd pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae lansio'r ddau gynllun newydd hyn yn dangos y cynnydd sydd yn y dewisiadau sydd ar gael i gefnogi darpar berchnogion cartrefi, gan gynnwys prynwyr am y tro cyntaf a phobl ifanc sy'n gobeithio aros yn eu cymunedau neu ddychwelyd iddyn nhw.
Mae gwybodaeth eglur yn hanfodol i bobl sy'n ystyried prynu eu cartref eu hunain, ac rwyf yn cydnabod, gyda nifer o ddewisiadau gwahanol, mae angen egluro'r hyn sydd ar gael. Dyna pam yr wyf wedi lansio'r wefan Eich Cartref yng Nghymru sy'n rhoi gwybodaeth allweddol ynghylch pob un o'r cynlluniau perchentyaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y canllaw ymarferol hwn yn helpu pobl i benderfynu pa gynllun sydd fwyaf addas ar gyfer eu hamgylchiadau personol nhw. Bydd y cynlluniau hyn i gyd yn cyfrannu at ein targed uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod oes y Cynulliad hwn.
Rwyf eisiau gosod y sylfeini ar gyfer y posibilrwydd o bennu targedau mwy uchelgeisiol yn y dyfodol, mewn ymateb i amrywiaeth o anghenion tai. Rwyf hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru barhau i greu hinsawdd ar gyfer gwthio arloesedd a gwelliannau o safbwynt dylunio, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni. I gefnogi hyn, bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod i wedi comisiynu adolygiad o'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn deg, yn dryloyw ac yn gadarn, rwyf yn sefydlu panel annibynnol i oruchwylio'r gwaith hwn dan y cadeirydd annibynnol, Lynn Pamment. Bydd angen i'r adolygiad sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen cynyddol am dai fforddiadwy a'r pwysau parhaus ar wariant cyhoeddus sydd ar gael i gefnogi adeiladu tai. Edrychaf ymlaen at gyflwyno manylion wrth i'r adolygiad fynd rhagddo.
Mae ein cynlluniau perchentyaeth cost isel, ynghyd â'n gwaith mewn meysydd tai eraill a'r adolygiad sydd ar y gweill, yn dangos yn glir bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni ei huchelgais i weld pawb yn byw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cefnogi bywyd iach, ffyniannus a llwyddiannus.
Teimlaf y dylwn i ddechrau mewn ysbryd mwy hael nag y gwneuthum yr wythnos diwethaf, oherwydd rydym yn aml yn gwrthdaro ar faterion tai. Felly, gadewch imi groesawu naws y datganiad hwn ac ymadroddion megis: 'Rwyf eisiau gweithio gyda nhw i adeiladu llawer o dai yn gyflym'—dyna'r amrywiol bobl sy'n adeiladu tai; 'Credwn nad yw perchentyaeth ar gyfer pobl ar incwm uwch yn unig'—wel, dyna pam yr amddiffynnais yr hawl i brynu, er y gall y Gweinidog ddilyn yr egwyddor hefyd, ac nid wyf yn gwadu hynny, hyd yn oed os anghytunwn; 'Byddwn nawr yn canolbwyntio ar wella'r cyflenwad o gartrefi ar draws ardaloedd pob awdurdod lleol yng Nghymru.'; ac 'Rwyf eisiau gosod y sylfeini ar gyfer y posibilrwydd'—mae 'posibilrwydd' braidd yn wan, beth bynnag 'o bennu targedau mwy uchelgeisiol yn y dyfodol'. Felly, mae rhywfaint o naws y datganiad wedi gwella, ond ofnaf fod yn rhaid imi ddychwelyd i lle'r oeddwn i ac atgoffa pobl o'r sefyllfa bresennol. Ceisiaf, hefyd, ei gymharu â'r hyn a geir yn Lloegr, sydd hefyd yn dioddef argyfwng tai. Rwyf wastad yn cadw cydbwysedd yn fy sylwadau ac nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi dyfeisio'r math o farchnad dai yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Ond y broblem i mi yw lefel ei hymateb a'i rhagamcanion ynghylch yr angen am dai. Os nad oes gennym y targedau cywir i anelu atynt, nid ydym yn mynd i ddiwallu dyheadau cymaint o bobl, yn enwedig pobl ifanc a phobl sy'n magu teuluoedd.
Os edrychaf ar yr ystadegau adeiladu tai, y rhagamcanion cyfredol, sy'n cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, yw bod angen 8,700 o gartrefi bob blwyddyn arnom ni—8,700. Sef 5,200 o dai ar y farchnad, 3,500 o dai cymdeithasol. Er tegwch, mae gan Lywodraeth Cymru bellach darged o 4,000 o dai cymdeithasol bob blwyddyn—neu 'yn weddol fforddiadwy' yw'r disgrifiad mwy cyffredinol. Yn 2015 amcangyfrifodd rhagamcan arall, sef rhagamcan Holmans, fod angen y canlynol bob blwyddyn: 7,000 o dai ar y farchnad, 5,000 o dai cymdeithasol. Mae hynny'n rhoi targed o 12,000. Ni ellid ei gyflawni ar unwaith, ond mae'n rhywbeth y byddai'n rhaid ichi anelu ato. Os yw'r rhagamcan arall yn fwy cywir—ac rwy'n credu mai'r farn academaidd gref yw ei bod hi, yna byddwn 66,000 o dai yn brin erbyn 2031, ac rwy'n cymryd 2031 fel cyfnod rhesymol o amser er mwyn edrych ar ein strategaeth dai ddyfnach. Mae hynny'n bryder mawr, ac rwyf yn gobeithio y bydd eich adolygiad yn edrych ar y rhagamcanion hyn o ddifrif ac yn cyflwyno ymateb difrifol, rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi ei wneud. Nid yw wedi ymateb yn swyddogol i ragamcan yr Athro Holmans a dweud pam nad yw'n cytuno ag ef. Mae wedi ei anwybyddu'n llwyr, a heb wneud unrhyw ymgais i'w wrthbrofi.
Nawr, edrychwch ar Loegr: mae Llywodraeth y DU eisiau adeiladu 300,000 o gartrefi bob blwyddyn yn Lloegr erbyn canol y 2020au. Mae hynny yn cyfateb, neu fe fyddai'n cyfateb pe bai gennym yr un targed erbyn canol y 2020au, i 15,000 o gartrefi bob blwyddyn yng Nghymru. Mae'n raddfa wahanol iawn, a chredaf, pan fyddwch yn gosod eich strategaethau yn yr adolygiadau sylfaenol hyn, fod yn rhaid ichi siarad yr iaith hon a dweud wrthym ble yr ydych am osod eich targedau, beth yw eich cyflymder neu beth bynnag—adeiladu llawer o dai yn gyflym, i ddefnyddio'r geiriau yn eich datganiad eich hun.
Gadewch imi ddweud wrthych beth yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Yn 2017, adeiladwyd 6,885 o anheddau newydd. Y tro diwethaf inni gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 8,700 oedd yn 2008. Dyna hyd a lled yr argyfwng presennol. Nawr nid wyf yn rhoi'r bai yn gyfan gwbl ar y Llywodraeth am hyn, mae yna ffactorau ehangach, ond mae gosod targedau yn bwysig iawn iawn.
A gaf i ofyn un neu ddau o gwestiynau penodol? Beth yw amcangyfrif diweddaraf y Gweinidog o nifer y tai fforddiadwy yr ydym yn eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn? Rydym bellach ddwy flynedd i mewn i dymor bum mlynedd y Cynulliad hwn ac rwyf am wybod a ydym yn agos o gwbl at adeiladu llawer o dai yn gyflym i gyrraedd y targed o 20,000, oherwydd yn ôl fy nghyfrifiadau i—ac nid yw'r data yn gyflawn ac rydym yn aros am fwy o gyhoeddiadau, yn amlwg—mae rhesymau da dros fod yn bryderus. Erbyn yr amser y bydd eich adroddiad ar yr adolygiad o gyflenwadau tai fforddiadwy ar gael, sydd i'w gwblhau erbyn Ebrill 2019, byddwn dros hanner ffordd drwy dymor y Cynulliad. Bydd yn rhy hwyr yr adeg honno ichi gael gwybod nad yw'r targedau hyn yn realistig mwyach neu fod arnom angen targedau mwy uchelgeisiol. Credaf fod angen inni wybod beth yw eich uchelgais nawr. Yn benodol, pam nad yw'r adolygiad, o ran ei gylch gorchwyl, yn edrych ar yr angen am dai? Nid yw'r rhagamcanion cyfredol yn cael eu bodloni, wrth gwrs, fel yr amlinellais, ond nid ydyn nhw'n ddigon uchel beth bynnag, hyd yn oed petaem ni'n gallu eu bodloni, ond nid oes dim yn y cylch gorchwyl y gallaf weld—wrth gwrs, nid ydym wedi cael y cyfle i graffu arnoch yn fanwl ynghylch hyn—y byddant yn edrych o gwbl ar ragamcanion. Dim ond ar y dystiolaeth a'r rhagamcanion gorau y gallwn seilio polisi tai a strategaeth ar gyfer y dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr am y sylwadau hynny ac rwy'n croesawu'n arbennig y ffordd yr agoroch chi eich sylwadau mewn modd cadarnhaol. Byddaf yn sicr yn ceisio symud ymlaen yn yr ysbryd hwnnw hefyd. Fe sonioch chi eich bod yn falch o glywed fy mod yn awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol, yn enwedig, i ddechrau adeiladu llawer o dai yn gyflym, a byddech wedi fy nghlywed yn sôn yn y Siambr o'r blaen am y gwaith yr wyf yn ei wneud i geisio gweithio gydag awdurdodau lleol i gynyddu'r cap benthyg. Fel diweddariad felly, rwyf wedi ymgynghori ag awdurdodau lleol ar rai cynigion. Mae un yn y tymor byr: sut ydym yn defnyddio'r capasiti benthyca sydd heb ei neilltuo sydd gennym, felly tua £17 miliwn—sut ydym yn canolbwyntio hynny ar yr awdurdodau lleol sy'n barod i adeiladu? A hefyd sut ydym yn mynd i'w herio nhw dros y tymor canolig i lunio rhai cynlluniau posibl y gellid eu cyflwyno'n gyflym iawn, petai arian ychwanegol a chapasiti benthyg ar gael gan Lywodraeth y DU? Rydym yn sicr yn cael y trafodaethau hynny gyda'r Trysorlys, a chyn gynted ag y gallaf i ddiweddaru'r wybodaeth i'r Aelodau, byddaf yn falch o wneud hynny. Ond, fel rwy'n dweud, mae gwaith yn mynd rhagddo ynghylch hynny.
O ran yr angen am dai, rwyf yn ymwybodol iawn o adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru a gomisiynwyd gan Alan Holmans a'i gyhoeddi yn ôl yn 2015. Rwyf yn cydnabod bod angen diweddaru'r ffigurau hynny bellach. Gwn fod llawer o ddadlau wedi bod rhyngoch chi a Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd ynglŷn â'r ffigurau hynny. Rydych yn cyfeirio at y rhagamcan arall, sef y rhagamcan sy'n awgrymu y byddai angen 12,000 o unedau'r flwyddyn. Fel rwy'n deall, roedd y rhagamcanion eraill hynny yn seiliedig ar set gynharach o ragamcanion aelwydydd—y cyfrifiad yn seiliedig ar 2006—ac nid yw'r rheini yn ystyried y newidiadau mwyaf diweddar i faint aelwydydd a'r math o aelwydydd, a gofnodwyd gan y cyfrifiad. Felly, rydym yn symud ar hyd llwybr gwahanol, a dyna pam y mae angen inni edrych eto a gwneud mwy o waith ac ailasesu'r ffigurau hynny. Felly, rydym yn gwneud hynny.
Mae fy swyddogion wedi cyfarfod ag arbenigwyr, gyda'r bwriad o ddatblygu darn o waith cadarn a fydd yn edrych ar yr angen am dai ledled Cymru, ac yng nghyd-destun hynny yn sicr y bydd yr adolygiad yn digwydd. Dywedaf hefyd fod swyddogion wedi bod yn casglu gwybodaeth am y dull o wneud penderfyniadau ynghylch yr angen am dai a ddefnyddir gan lywodraethau eraill y DU, ac yn sicr maen nhw wedi cael rhai sgyrsiau adeiladol gyda swyddogion—o Lywodraeth yr Alban yn arbennig. Felly, bydd yr wybodaeth hon, ynghyd â chyngor gan arbenigwyr allanol, yn helpu i benderfynu beth fydd ein dull ni o weithredu. Hoffwn dawelu meddwl yr Aelodau drwy ddweud fy mod yn ystyried yr angen am dai yn y dyfodol yn ddifrifol ac felly hefyd sicrhau targedau cadarn ymarferol sydd hefyd yn adlewyrchu'r angen sydd yn y gymuned. Ond rwyf hefyd yn edrych ar yr angen am dai, gan ei dorri i lawr i'r gwahanol fathau o ddeiliadaeth a'r gwahanol fathau o dai: tai cymdeithasol, tai canolraddol, tai fforddiadwy ac yna dai'r farchnad agored.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle—. Er nad yw'n rhwydd inni wthio ac ysgogi tai'r farchnad agored, credaf mewn gwirionedd y gallwn greu hinsawdd ar gyfer gwella'r broses o gyflenwi, a chyflymu cyflenwi tai'r farchnad agored. Un ffordd o wneud hynny fyddai drwy ein rhaglen dai arloesol a fydd, rwy'n credu, yn rhoi modd inni adeiladu tai yn llawer cyflymach yn y dyfodol. Ddydd Iau diwethaf roeddwn yn falch iawn ein bod wedi agor cylch ceisiadau 2018-19. Dyma'r tro cyntaf inni agor hwn nid yn unig i landlordiaid cymdeithasol, ond hefyd i'r sector preifat, fel y gall adeiladwyr y sector preifat wneud cais am gyllid er mwyn cefnogi'r elfen o arloesi wrth iddyn nhw adeiladu hefyd. Rwy'n credu y gallai hyn gynnig cyfle i lawer mwy o dai arloesol gael eu hadeiladu. Buddsoddiad o £90 miliwn dros dair blynedd yw hwn; dyfarnwyd £19 miliwn i 22 o brosiectau arloesol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, felly erys £71 miliwn. Mae digon o gyfle i gynlluniau da gael eu cynnig, ond mae'n glir, er ein bod ar hyn o bryd yn arloesi ac yn rhoi llawer o wahanol syniadau ar brawf, bydd yn rhaid inni gyrraedd pwynt lle byddwn mewn gwirionedd, drwy werthuso gwahanol brosiectau, yn penderfynu ar yr hyn sydd orau i Gymru, ac yn penderfynu ymhle i ganolbwyntio ein hymdrechion o ran creu'r raddfa o adeiladu y byddem eisiau ei weld yn y dyfodol.
O ran a wyf i'n hyderus y byddwn yn cyrraedd ein targed o 20,000—ydw, rydw i'n hyderus. A gallaf ddweud wrthych ein bod ni'n chwalu'r targed hwnnw: 5,500 o unedau grant tai cymdeithasol; 1,500 o unedau grant cyllid tai 2; daw 6,000 o'r unedau drwy Cymorth i Brynu; bydd 1,000 yn rhai Rhentu i Brynu, neu'n rhai Rhanberchnogaeth, a dyna'r ddau gynllun y tynnais sylw arbennig atyn nhw heddiw; byddem yn gobeithio i 1,000 gael eu hadeiladu drwy raglen adeiladu tai cyngor yr awdurdod lleol; 1,000 drwy'r rhaglen dylunio arloesol; 1,000 drwy gytundebau adran 106; 800 drwy Leoedd Llewyrchus Llawn Addewid; a 2,500—adeiladau hunanariannu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Byddai hynny'n fwy na 20,000. Ac un o'r rhesymau pam yr wyf yn hyderus ein bod yn gallu cyrraedd y targed hwnnw yw oherwydd, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, mae adeiladwyr tai yn aml yn gweithio i raglen dreigl dair blynedd, felly rydym yn gallu gweld y math o brosiectau sydd ar y ffordd a'r nifer o dai sydd ar y gweill. Mae hynny'n rhoi hyder inni y byddwn yn gallu cyrraedd y targed hwnnw. Ond fel rwy'n dweud, hoffwn weld yr adolygiad yn ystyried gosod targedau mwy uchelgeisiol hyd yn oed ar gyfer y dyfodol.
Diolch am anfon copi o'r datganiad ymlaen llaw, a chyn imi ofyn cwestiynau am y datganiad arbennig hwn, hoffwn ofyn eich barn chi am rai o'r adroddiadau ar y newyddion, dros y penwythnos, a oedd yn sôn am gynghorau yn Lloegr yn ystyried prynu stoc dai yma yng Nghymru—credaf i Gyngor Merthyr gael ei grybwyll. Dyw hyn ddim yn ffenomen newydd, mewn gwirionedd. Pan oeddwn yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, gwelais DVD gan Fwrdeistref yn Llundain, a oedd yn awyddus i hyrwyddo Ceredigion fel lle i fyw i denantiaid yn Llundain, sydd, yn amlwg, ddim yn beth drwg yn fy marn i—dylem annog pobl i ddod i Gymru os ydynt yn dewis byw yng Nghymru—ond beth mae hynny'n ei olygu i chi, fel Llywodraeth, os oes cynghorau yn Llundain yn prynu stoc y byddech chi efallai eisiau ei ddatblygu yma yng Nghymru, gyda chynghorau Cymru? Sut ydym i ddeall beth yw eich ymgysylltiad chi â'r awdurdodau lleol hynny, er mwyn gwybod sut y bydd hynny yn effeithio ar ein targedau yma yng Nghymru?
Rydym ni yn croesawu'r adolygiad. Rwyf hefyd yn croesawu'r cylch gorchwyl, ac yn enwedig y canolbwyntio ar opsiynau ariannu i sicrhau'r dewisiadau o dai fforddiadwy hirdymor sydd gennym. Rwy'n deall—fel yr ydym i gyd—bod ystyriaethau ariannol yn bwysig yn yr hinsawdd bresennol, ond wrth gwrs, mae angen inni fod yn uchelgeisiol, nid yn unig yn y sector rhentu cymdeithasol ond o ran cartrefi i'w prynu. Amcangyfrifir pe byddai'r DU wedi adeiladu 300,000 o gartrefi yn y DU bob blwyddyn ers 1996, yna ar gyfartaledd byddai pris tŷ yn y DU heddiw dim ond 7 y cant yn is nag ydyw ar hyn o bryd. Nid canlyniad prinder cartrefi'n unig yw'r argyfwng tai presennol. Mae'n ganlyniad methiant y Llywodraeth a benthycwyr i gydnabod yr effaith y mae swyddi ansefydlog, cyflog llonydd a'r cynnydd mewn costau byw yn ei chael ar draws y sector cyfan. Felly, petai'r llywodraeth yn gallu camu i'r adwy i helpu pan fo'n bosib, byddwn yn sicr yn croesawu hynny.
Mae'n hollbwysig, o ystyried cost tai a chostau byw cynyddol, ynghyd â chyflogau llonydd, bod cymorth iawn ar gael i bobl sy'n ceisio cael cartref fforddiadwy. Felly, croesawaf lansiad y wefan hon. Mae'n bwysig cael yr holl help a gwybodaeth mewn un lle. Yn y gorffennol rydym wedi beirniadu rhai cyhoeddiadau tameidiog a'r sefyllfa lle ceir llawer o wybodaeth mewn llawer o leoedd gwahanol, felly rydym yn obeithiol y bydd y wefan hon yn gwella'r sefyllfa i raddau helaeth.
O ran y ddau gynllun newydd a lansiwyd ac agweddau eraill ar yr adolygiad, hoffwn i ofyn rhai cwestiynau penodol. Faint o'r £70 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd yn ei adennill o'r ariannu, yn arbennig o safbwynt Rhentu i Brynu? A ydych yn hyderus fod y swm yn ddigonol? O ran y cynlluniau cyfredol eraill, credaf y dylid nodi nad cynllun ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf yn unig yw Cymorth i Brynu. Ar gyfartaledd, pris cartref dan y cynllun oedd £180,000, ac nid prynwyr am y tro cyntaf oedd chwarter y prynwyr. Felly, efallai fod modd canolbwyntio mwy ar y gynulleidfa darged wirioneddol. Credaf i'r cynllun hwn gael ei lansio ar y dechrau i helpu'r diwydiant adeiladu hefyd, felly hoffwn ofyn a allai'r adolygiad ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol o gynorthwyo prynwyr am y tro cyntaf.
Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan ITV yn ddiweddar fod 43,000 o gartrefi gwag yng Nghymru erbyn hyn—bron dwbl y nifer ychydig o flynyddoedd yn ôl. Mae hyn er gwaethaf cynllun Llywodraeth Cymru i wneud yn sicr bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Felly, a all eich adolygiad geisio canfod pa mor effeithiol yw'r polisïau cyfredol yn hyn o beth? Deallaf fod gan gynghorau bwerau i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, ond yn amlwg nid ydynt yn defnyddio'r pwerau hynny, neu byddai'r nifer yn uwch na'r hyn yr wyf newydd ei ddyfynnu.
Hoffwn hefyd i'r adolygiad ymchwilio i'r hyn y gellid ei wneud ynghylch rhenti uchel a chynnydd. Ar hyn o bryd, mae cynnydd rhent y sector preifat ar gyfartaledd yn llai na'r swm a ganiateir ar gyfer cynnydd mewn rhent yn y sector rhentu cymdeithasol. Felly, mae angen edrych ar hyn, ynghyd â dewisiadau eraill.
Yn olaf, fe wnaethoch chi sôn am gymunedau gwledig a sut yr ydych yn awyddus i edrych ar ffyrdd arloesol eraill o annog cymunedau gwledig i edrych ar y dewisiadau ym maes tai. Hoffwn ddweud hefyd bod angen inni gael mwy o ymgysylltu cymunedol mewn cymunedau. Felly, os gallant o bosib nodi'r hyn sydd ei angen, er enghraifft iaith neu nodweddion penodol y mae angen eu cadw o bosib yn yr ardaloedd hynny—pwnc dadleuol yn aml, ond pwnc y mae angen inni fynd i'r afael ag ef—yna beth fydd eich adran yn eu hystyried yn ddewisiadau ymarferol i'r perwyl hwnnw?
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Rwy'n mynd i ddechrau lle gwnaethoch chi orffen, o ran y gefnogaeth i adeiladu tai a chymorth i bobl sydd eisiau bod yn berchen ar gartref, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Oherwydd, rydym yn gwybod, mewn cymunedau gwledig, fod yna her arbennig o ddifrifol o ran fforddiadwyedd, yn enwedig rwy'n credu, i rai o'n gweithwyr allweddol—nyrsys, athrawon ac ati—sy'n ei chael yn wirioneddol anodd fforddio cartref yn eu cymuned eu hunain.
Mae swyddogaeth ein swyddogion galluogi tai gwledig yn arbennig o bwysig o ran gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, yn y cymunedau gwledig hynny, er mwyn nodi'r meysydd lle mae angen inni roi rhagor o fuddsoddiad a chreu mwy o gyfleoedd i adeiladu cartrefi. Rwy'n arbennig o awyddus i weld beth allwn ni ei wneud ynghylch annog hunanadeiladu, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion roi cyngor i mi ar hyn. Mae'n rhywbeth, mewn gwirionedd, a allai fod yn fuddiol ar gyfer pob math o gymunedau. Ond mewn cymunedau gwledig yn benodol, credaf y gallai fod yn rhywbeth sy'n rhoi cyfleoedd i bobl.
Rydym hefyd wedi sefydlu grŵp strategol gwledig, ac mae hwnnw'n cynnwys y swyddogion galluogi tai gwledig hynny, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC. Mae'r grŵp yn cwrdd bob chwarter bellach er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru, ond hefyd i brofi syniadau a rhannu arferion da. Rwy'n cytuno bod ein cynigion tai, ond hefyd gydweithio mewn partneriaeth â chynllunio, yn gyfle i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg, yn enwedig yn aml eto, mewn cymunedau gwledig. Rwy'n credu bod gan dai swyddogaeth bwysig i gefnogi'r Gymraeg.
Gwnaethoch gyfeirio hefyd at gartrefi gwag, ac rwy'n rhannu eich pryder ynghylch nifer y cartrefi gwag ledled Cymru. Gallai rhai o'r rheini yn hawdd fod yn gartrefi y mae eu hangen yn fawr ar bobl. Felly, rydym wedi ymrwymo eto i weithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ailddefnyddio tai a darparu cefnogaeth barhaus i'r awdurdodau hynny, i'n cynlluniau Troi Tai'n Gartrefi a benthyciadau canol trefi. Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn, a weithredir gan awdurdodau lleol, yn cyfateb i dros £50 miliwn, gan roi'r cyllid sydd ei angen ar berchnogion cartrefi er mwyn iddynt adnewyddu'r eiddo hynny a dod â nhw i safon sy'n addas i'w rhentu neu werthu.
Diwygiwyd telerau ac amodau'r cynllun Troi Tai'n Gartrefi yn ddiweddar i alluogi awdurdodau lleol i fod yn fwy hyblyg er mwyn iddynt allu cynnig ateb i'r broblem tai gwag sy'n canolbwyntio mwy ar gwsmeriaid. Mae benthyciadau ar gael erbyn hyn i allu ailddefnyddio tai gwag ac adeiladau masnachol, ond mewn gwirionedd i'w rhannu'n fflatiau hefyd er mwyn ceisio creu mwy o gartrefi. Felly, mae gwaith ar y gweill ar gartrefi gwag, ond rwy'n cytuno bod angen inni ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud. Yn lleol, rwy'n gwybod am enghreifftiau da yn Abertawe lle mae'r cyngor yn darparu cyllid i berchnogion cartrefi gwag sydd yna'n cael eu hannog i wella safon eu cartrefi ar y ddealltwriaeth y bydd ganddynt denant gwarantedig. Felly, mae hynny'n ateb ein hagenda ni a'u hagenda nhw o ran creu mwy o dai cymdeithasol, ond hefyd o ran ailddefnyddio cartrefi gwag.
Mae'r cynnydd yn y costau byw a'r anhawster i sicrhau digon o arian ar gyfer blaendal yn rhai o'r ysgogiadau mawr y tu ôl i gynllun Rhentu i Brynu: Cymru a chynllun Rhanberchenogaeth: Cymru. Dylwn fod wedi nodi yn gynharach bod y cynllun rhentu i brynu yn benodol yn un o'r cytundebau y daethpwyd iddo gyda Kirsty Williams, sydd wedi bod yn arbennig o frwd ynghylch hwn a'r cyfle y mae'n ei gynnig ers tro byd.
Mae'r cynllun rhentu i brynu yn gyfle i bobl symud i mewn i'r tŷ y maent ei eisiau yn gynnar yn y broses, ond yna byddant yn gallu talu rhent ar yr eiddo hwnnw a, rhwng dwy a phum mlynedd yn ddiweddarach, byddant yn gallu hawlio yn ôl 25 y cant o'r arian a dalwyd ganddynt fel rhent, a defnyddio hwnnw fel blaendal, ynghyd â pheth o werth unrhyw gynnydd yng ngwerth yr eiddo hwnnw hefyd. Felly, mae'n gyfle i bobl, pobl ifanc yn aml, ond fel y dywedwch chi nid pobl ifanc bob amser, symud i mewn i'r tŷ y byddent yn hoffi byw ynddo ac y byddent yn hoffi ymgartrefu ynddo yn gynnar yn y broses.
Mae chwe chymdeithas dai yn gweithio gyda ni ar hyn o bryd ond rydym yn cael trafodaethau i gynyddu'r rheini a hoffwn i weld y tai hyn ar gael ledled Cymru. Mater i'r unigolyn i benderfynu arno yw dewis mynd am rhentu i brynu neu'r cynllun rhanberchenogaeth, ond mae'r tai penodol hynny ar gael ar gyfer y ddau gynllun hefyd.
Byddaf yn sicr yn cael rhai trafodaethau gyda swyddogion am y sgyrsiau a gawsant ag awdurdodau lleol am y storïau dros y penwythnos y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw. Ond byddwn yn dweud bod symudiadau pobl dros y ffin yn rhywbeth sy'n sicr ar fy radar i, yn enwedig yn ardal Casnewydd yn dilyn y cyhoeddiad am gael gwared ar y tollau ar bont Hafren. Rwyf wedi cael trafodaethau gydag adeiladwyr tai ac maen nhw'n dweud wrthyf ei fod yn cael effaith wirioneddol ar y pwysau ar y farchnad dai yn yr ardal honno. Mae nhw wedi gweld mwy o awydd am adeiladu tai yn yr ardal, felly bydd yna rai trafodaethau y bydd angen inni barhau i'w cael gyda'r awdurdod lleol yn y fan honno i sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion pobl yr ardal sydd eisiau aros o fewn eu hardal hefyd.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom ni'n cydnabod bod problem fawr yn wynebu'r genhedlaeth iau heddiw, sy'n ceisio cael troed ar yr ysgol dai, sef, i lawer o bobl, nad yw tai yn fforddiadwy. Un broblem fawr yw nad yw codiadau cyflog yn cadw'n wastad â'r cynnydd mewn prisiau tai, sy'n creu amgylchedd heriol os ydym ni'n ceisio gwella cyfraddau perchentyaeth.
Roedd eich datganiad heddiw yn canolbwyntio cryn dipyn ar gynlluniau rhanberchenogaeth. Rwy'n credu, i ryw raddau, ei bod yn dda i geisio bod yn arloesol i helpu pobl i godi cyllid i gael troed ar yr ysgol dai. Rwy'n gwerthfawrogi bod yna wahanol fathau o gynlluniau—dau yn benodol y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw heddiw—ond, yn anffodus, nid yw rhanberchenogaeth bob amser yn ateb ymarferol. Yn aml iawn, mae cynlluniau rhanberchenogaeth, hyd yn oed, allan o gyrraedd llawer o weithwyr. Ni all llawer o bobl sydd mewn swyddi sy'n talu llawer mwy na'r isafswm cyflog gael eu cymeradwyo ar gyfer morgeisi mewn cynlluniau rhanberchenogaeth. Un o ganlyniadau anffodus hyn yw bod yr union bobl hyn yna'n aml yn y pen draw yn gwario hyd yn oed mwy o arian nag y byddai'r taliadau morgais wedi bod ar eu rhent misol.
Mae perygl posibl o'i gwneud yn haws i bobl gael eu cymeradwyo ar gyfer morgeisi, oherwydd mae'n rhaid i'r cynlluniau fod yn gynaliadwy ar gyfer y bobl hynny; nid dim ond y blaendal, fel rwy'n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi. Yr hyn nad ydym ni ei eisiau yw pobl yn ymdopi â blaendal cychwynnol ond wedyn yn cael trafferthion i gadw at eu taliadau misol, ac yn y pen draw yn diffygdalu ar eu morgeisi. Felly, mae yna lawer o faterion yn ymwneud â rhanberchenogaeth. Ceir cryn dipyn o dystiolaeth nad yw rhanberchenogaeth yn troi'n awtomatig ac yn hawdd i berchenogaeth lawn. Felly, a ydych chi'n cydnabod bod yna anhawster mawr wrth ymateb i'r her hon a chyrraedd eich targedau? A yw cynlluniau tai cost isel yn darparu gwerth am arian i'r pwrs cyhoeddus, yn eich barn chi? A yw'r gwiriadau cymhwysedd a fforddiadwyedd yn ddigon cadarn?
Problem arall yw'r farchnad lafur gyfnewidiol. Os bydd perchnogion cartrefi yn colli eu swyddi gallant wynebu anawsterau, gan nad ydynt yn gymwys yn awtomatig am fudd-dal tai. Nid yw hwn yn faes datganoledig—rwy'n deall hynny—ond mae gennym weithle yn awr lle na fydd gan lawer o bobl swydd am oes. Gall pobl â CV da, hyd yn oed, wynebu cyfnodau o ddiweithdra, dros dro, gobeithio. Os ydyn nhw wedi cymryd morgais, nid oes gan bawb yswiriant. Nid yw rhai pobl hyd yn oed yn ymwybodol o'r broblem hon pan fyddan nhw'n cymryd morgais yn y lle cyntaf. Felly, mae'n debyg bod hwn yn achos arall dros gynnwys addysg ariannol yn y cwricwlwm ysgol. Cwestiwn arall sy'n deillio o hynny, Gweinidog, yw: a ydych chi'n cydgysylltu'n effeithiol â'r Gweinidog Addysg ar y mater hwn o ddarparu'r math hwn o addysg ariannol i ddisgyblion ysgol?
Roedd yn galonogol eich clywed yn sôn am gartrefi hunanadeiladu yn y datganiad heddiw. Bu arolygon yn awgrymu y byddai llawer o bobl yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, yn ystyried adeiladu eu cartref eu hunain pe byddai cyfle iddynt wneud hynny. Yn ddiweddar, ar un o wefannau blaenllaw y DU ar gyfer dod o hyd i lain, roedd hysbysebion 'ei heisiau ar hyn o bryd' ar gyfer cartrefi hunanadeiladu yng Nghymru. Mae gennym gyfradd is o lawer o hunanadeiladu yn y DU yn gyffredinol nag mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill. Ar y mater pwysig o gyllid, mae benthycwyr yn tueddu yn gyffredinol i ystyried benthyciadau hunanadeiladu yn rhai risg uwch, ac ni chredaf fod unrhyw grant ar gael gan Lywodraeth Cymru, ar hyn o bryd, i bobl sydd eisiau hunanadeiladu. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn dweud eich bod yn ystyried hyn ar hyn o bryd, felly mae hyn yn rhywbeth yr ydych chi'n edrych arno. Gwn hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi gwanhau rhai gofynion cynllunio er mwyn galluogi datblygiad Lammas, sef eco-bentref gwledig yng Ngogledd Sir Benfro. Felly dangoswyd rhywfaint o hyblygrwydd yn y maes hwn yn y gorffennol. Tybed os oes gennych chi fwy o wybodaeth heddiw am unrhyw gynigion ar gyfer cynlluniau hunanadeiladu Llywodraeth Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Fe wnaf ddechrau drwy ystyried eich sylwadau am godiadau cyflog a pha mor anodd yw hi i rai pobl gael troed ar yr ysgol dai. Mae ein cynlluniau ni heddiw yn gwneud hynny'n haws, ond cytunaf nad yw hyn yn addas i bawb. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar sicrhau bod gennym sector tai iach yn gyffredinol, a byddwn yn dechrau drwy ddweud bod hyn yn cynnwys gwaith gyda'r sector rhentu preifat yn benodol. Byddwch yn ymwybodol bod Rhentu Doeth Cymru eisoes wedi ei sefydlu ac mae hwnnw'n rhoi sicrwydd bod y bobl hynny sydd yn rhentu cartrefi i bobl wedi'u trwyddedu'n ddigonol a bod ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn bod yn landlordiaid da.
Rydw i hefyd yn ymrwymedig i gyflwyno deddfwriaeth yn fuan i wahardd ffioedd a godir ar denantiaid gan asiantau gosod ac rwyf hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda'r sector er mwyn parhau i godi safonau. Byddwch chi'n ymwybodol, hefyd, ein bod yn ddiweddar wedi gorffen ymgynghori ar ein safonau cartrefi ffit i bobl fyw ynddynt. Felly, rwy'n falch iawn ein bod yn gweithio mewn ffordd adeiladol gyda'r sector rhentu preifat er mwyn cynyddu a gwella'r cynnig y maen nhw'n gallu ei roi, yn rhannol oherwydd fy mod yn credu y bydd y sector yn dod yn bwysicach eto yn y dyfodol am yr holl resymau y mae pobl wedi'u disgrifio ynghylch pa mor anodd yw hi i lawer o bobl gael troed ar yr ysgol dai—ac, mewn gwirionedd, ni fydd pawb yn dymuno gwneud hynny, oherwydd bydd ganddyn nhw wahanol flaenoriaethau a gwahanol ffyrdd o fyw a allai olygu nad ydyn nhw eisiau ymgartrefu mewn un lle penodol.
Felly, rwy'n credu bod sector tai iach yn gyffredinol yn bwysig. Ond byddwn yn rhoi sicrwydd ein bod yn ystyried cymhwysedd a fforddiadwyedd yn ddifrifol iawn o ran y cynhyrchion a gynigiwn. Nid ydym eisiau gwneud i bobl fethu mewn unrhyw ffordd. Felly, rydym yn awyddus iawn bod pobl yn amlwg yn cymryd yr holl gyngor hynod bwysig a hanfodol sydd ei angen arnynt. Un ffordd o alluogi hynny i ddigwydd wrth gwrs yw drwy'r cynllun trawsgludo achrededig, a gyflwynais fel rhan o'r pecyn diwygio lesddaliadau. Bydd hynny'n sicrhau bod pobl yn cael digon o wybodaeth, nid yn unig am lesddaliadau, ond eu bod yn cael y cyngor gorau posib i wneud y penderfyniad hwnnw ynghylch a yw perchentyaeth yn iawn iddyn nhw.
Cytunaf yn llwyr ar bwysigrwydd addysg ariannol, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni'n ei ddatblygu mewn ysgolion, yn enwedig drwy ddiwygio'r cwricwlwm, ond nid ydym ni'n aros am hynny. Mae hefyd gwaith da yn digwydd eisoes fel rhan o'n cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol, sy'n ceisio sicrhau bod pawb yn gadael yr ysgol â dealltwriaeth gref o'r wybodaeth bwysig fydd ei hangen arnynt i gynnal cartref, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hyn yn llawer mwy cymhleth nag y mae pobl yn aml yn ei ddychmygu.
Ar fater hunanadeiladu, rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau a wnaethoch chi heddiw a byddaf yn eu cadw mewn cof wrth inni geisio datblygu rhai o'r cynigion eraill yn y maes hwn, y gobeithiaf eu rhannu gyda'r Siambr maes o law.
Mae prisiau tai yn cynyddu oherwydd prinder tai. Mae'n fanteisiol i'r adeiladwyr tai mawr leihau'r cyflenwad yn is na'r galw, gan y bydd hynny'n cynyddu prisiau. Byddai'r gwrthwyneb hefyd yn wir, ac os ydych chi'n ymweld â Sbaen byddwch yn gweld llawer o dai ar hanner eu hadeiladu gan fod y cyflenwad wedi dechrau bod yn fwy na'r galw. Mae hefyd yn fanteisiol i dirfeddianwyr leihau'r cyflenwad o dir ar gyfer tai er mwyn cynyddu gwerth eu tir. Pe bydden nhw'n gwerthu eu tir i gyd ar yr un pryd, yna byddai gwerth y tir hwnnw yn gostwng yn sylweddol.
Gwnaeth Cymorth i Brynu, wrth gwrs, ychwanegu arian at ochr y galw. Rwy'n credu mai'r hyn yr wyf i wedi ei ganfod yn rhyfedd—ac eraill hefyd o bosib—yw fy mod wedi cyfarfod â nifer o weithwyr proffesiynol ifanc dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn eu 30au cynnar sydd yn dal i fyw mewn llety rhentu preifat. Mae'r rhain yn bobl sydd wedi gwneud yr holl bethau yr ydym ni fel cymdeithas wedi dweud wrthyn nhw am wneud. Maen nhw wedi mynd allan ac mae nhw wedi astudio'n galed, mae ganddyn nhw raddau da, yna maen nhw wedi cael swyddi da, a dydyn nhw'n dal ddim yn gallu prynu tŷ. Aeth pobl o'm cenhedlaeth i—a bûm yn siarad â Peter Black am hyn rai misoedd yn ôl—yn ein 20au, at gymdeithas adeiladu, a chawsom rywfaint o arian a phrynu tŷ. Roedd yn eithaf syml. Doedd dim llawer o drafferth a sôn amdano, mewn gwirionedd. Ond mae pobl ifanc heddiw—rwy'n defnyddio'r gair 'ifanc' i ddisgrifio pobl yn eu 30au, sydd o bosib yn dweud rhywbeth wrthych chi am fy oedran i, os dim byd arall—. Ceir y broblem honno. Mae'r rhan fwyaf o'r tai cost isel yn dai hŷn, yn aml yn dai o'r cyfnod cyn yr ugeinfed ganrif. Mae'n sicr yn wir yn fy etholaeth i, ac mae'n wir yn eich etholaeth chi hefyd, rwy'n credu, bod y tai hŷn yn rhatach na'r tai newydd, modern—rwy'n dweud 'newydd'; rwy'n golygu'r tai pâr a'r tai sengl a adeiladwyd ar ôl y rhyfel.
Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i wella ansawdd tai hŷn? Ailddechrau defnyddio cartrefi gwag: wyddoch chi, rydym ni i gyd, yn ein dyddiau ymgyrchu, wedi crwydro o gwmpas yn curo ar ddrysau ac wedi meddwl tybed pam mae rhif 23 yn wag—a gallech weld ei fod yn wag, yn hytrach na bod rhywun heb gofrestru—ac yna, wrth fynd i lawr stryd arall, yn meddwl tybed pam mae tri thŷ gwag mewn bloc o dai teras braf.
Mae cefnogi tai cydweithredol: rwy'n gwybod fy mod i'n rhygnu ymlaen am hyn, mwy nag y mae neb arall yn yr ystafell hon yn dymuno ei glywed, fwy na thebyg, ond rwy'n credu bod tai cydweithredol, mae'n rhywbeth sydd mor boblogaidd yng Ngogledd America ac yn Ewrop—mae mwy yn Vancouver nag ym Mhrydain—yn rhywbeth y mae gwir angen inni eu hystyried. Mae'n drydydd dull o ddarparu tai, ac mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei anwybyddu gan Lywodraethau—wel, roeddwn i'n mynd i ddweud o amser penodol, ond mae wedi cael ei anwybyddu gan lywodraethau erioed yn y wlad hon. Mae ar y rhestr rhy anodd. Mae angen inni adeiladu mwy o dai cyngor ac, yn fy marn i, cael y cynghorau i werthu tir a defnyddio hwnnw i adeiladu tai cyngor fel eu bod yn eu hadeiladu o'u hadnoddau eu hunain.
A'r peth olaf yw: beth am—? Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi darnau mawr o dir, ac rwy'n credu, yn Abertawe, mae 10 neu fwy o dai. Mae yna lawer o safleoedd mewnlenwi yn bodoli yn Abertawe. Ni wn am rannau eraill o Gymru, ond yn Abertawe, mae yna lawer o safleoedd mewnlenwi. Beth am annog y cynghorau i ganiatáu hunanadeiladu ar y safleoedd mewnlenwi hynny? Gallai hyn ymdrin ag ef. Rydym bob amser yn sôn am y Cynllun Datblygu Lleol, ond, ewch i lawr stryd, ac yn aml iawn mae yna fwlch lle gallech chi adeiladu dau dŷ, ond nid oes neb wedi gwneud hynny—ac uwchben i garej yn aml, lle'r arferai'r garej fod—gallai hwnnw fod ar gael ar gyfer hunanadeiladu. Pam na wnawn ni ragor o hyn? Rydym yn rhoi arian i gymdeithasau tai, rydym yn cefnogi adeiladwyr mawr, rydym yn gosod targedau. Beth am wneud rhai pethau mwy arloesol a fydd yn sicrhau bod mwy o dai yn cael eu hadeiladu a chael pobl i symud i mewn iddynt?
Diolch yn fawr iawn, iawn am y sylwadau hynny. Byddwn i'n dechrau yn benodol drwy ddweud fy mod yn rhannu eich diddordeb mewn tai cydweithredol a gweld beth arall y gallem ni ei wneud yno, oherwydd, yn yr amser yr wyf i wedi bod yn y swydd, rwyf wedi gallu gweld—wel, mae un yn arbennig yn sefyll allan yn fy meddwl, yr enghraifft o'r tai cydweithredol yr ydym wedi'u cefnogi yng Nghaerfyrddin. Gwnaed argraff fawr arnaf gan y ffaith, mewn gwirionedd, nad yw hynny dim ond yn ymwneud ag adeiladu cartrefi, ond mae hefyd mewn gwirionedd yn ymwneud ag adeiladu cymunedau. Cafwyd gwerth dwy flynedd o waith yn gweithio ochr yn ochr â'r preswylwyr hynny cyn iddynt hyd yn oed symud i mewn i'w cartrefi newydd er mwyn eu helpu i ddod yn aelodau cydweithredol da, ond i greu cymuned hefyd.
Mae'r sgiliau y mae pobl wedi eu dysgu drwy fod yn gysylltiedig â hynny, a'r gwerth a gafwyd ohono, yn mynd ymhell y tu hwnt i'r cartrefi y maen nhw'n gallu byw ynddynt, yn fy marn i. Felly, rydym yn darparu cyllid i Ganolfan Cydweithredol Cymru i gefnogi'r gwaith hwnnw. Ond un peth a ddywedaf yw bod angen i ni i gyd, yn fy marn i, annog awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ystyried tai cydweithredol. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae angen gwneud llawer o waith yn ystod y camau cyntaf, sef efallai yn un o'r rhesymau dros fod yn llai poblogaidd ac na fu cymaint o fanteisio ar dai cydweithredol nag yr hoffwn ei weld. Ond rwyf wedi cytuno i ragor o gyllid ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru eleni er mwyn gweld beth allwn ei wneud i hyrwyddo'r gwaith ar dai cydweithredol. Rwy'n deall bod yna drafodaethau gydag o leiaf 25 o bartïon sydd â diddordeb ar hyn o bryd, felly byddwn yn gobeithio bod hwn yn faes lle gallwn weld rhywfaint o dwf yn y dyfodol, dim ond oherwydd y gwerth ychwanegol hwnnw a gewch wrth i chi adeiladu tai cydweithredol.
Mae tir ar gyfer tai yn faes arall lle rwy'n cydnabod y gall fod llawer o bwysau, felly rwy'n awyddus i weld beth arall y gallwn ni ei wneud ynghylch defnyddio tir Llywodraeth Cymru. Gwn y gall chwarae rhan bwysig iawn yn y ddarpariaeth o dai yng Nghymru. Cyflwynwyd nifer sylweddol o safleoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu tai eisoes, ac rwyf mewn cysylltiad agos â Ken Skates a'i adran, yn ystyried y tir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno ac a allwn ni ei gyflwyno i'w ddefnyddio gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn benodol, gan o bosibl ei gynnig iddyn nhw ar gyfradd y farchnad ond heb orfod ei roi ar y farchnad, er enghraifft. Felly, rydym yn ystyried ffyrdd arloesol o gefnogi tir ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn benodol.
Mae gennym ni dir ar gyfer cynllun tai, ac mae hwnnw'n gynllun benthyciadau, sy'n galluogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i brynu tir i gefnogi'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy a/neu gartrefi'r farchnad, ac mae'r cynllun hwnnw eisoes wedi buddsoddi £42 miliwn hyd yn hyn. Mae hynny'n mynd i hwyluso'r ddarpariaeth o dros 2,800 o gartrefi, 85 y cant ohonyn nhw'n gartrefi fforddiadwy. Rydym ni hefyd yn ystyried tir heblaw am dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru—felly, tir a berchnogir ar draws y sector cyhoeddus—oherwydd gall hynny fod yn wirioneddol allweddol ar gyfer cyflenwi mwy o gartrefi fforddiadwy yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, darparwyd cartrefi fforddiadwy ar dir a ddaeth i fod ar gael gan y sector cyhoeddus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, 689 ohonyn nhw. Felly, mae'n rhywbeth sy'n digwydd, er y derbyniaf ei fod yn rhywbeth y mae angen inni fod yn ystyried ei wneud ar raddfa fwy hefyd.
Gwnaethoch chi sôn, wrth gwrs, am dir sy'n cael ei gadw'n wag, a byddwch chi'n ymwybodol o'r cynigion ar gyfer y dreth ar dir gwag. Credaf fod hynny'n ffordd gadarnhaol o ysgogi ac annog adeiladu tai yn y dyfodol ac atal pobl a sefydliadau rhag cadw tir sydd ddim yn mynd i gael ei ddefnyddio at y diben penodedig.
Rwy'n credu bod gan fentrau bach a chanolig hefyd swyddogaeth bwysig o ran adeiladu ar y parseli bach hynny o dir, tir a na fyddai'n ddeniadol i gwmnïau adeiladu mwy o faint, ond a allai fod yn ddeniadol i gwmnïau adeiladu bach neu ar gyfer hunanadeiladu. Felly, rydym yn cydweithio'n agos â Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Ffederasiwn Cyflenwyr Adeiladwyr a Chyflenwyr Adeiladwyr Cymru i hyrwyddo amrywiaeth eang o gynlluniau yr ydym eisoes yn eu darparu. Rydym hefyd yn gweithio drwy'r rhaglen ymgysylltu ag adeiladwyr tai, sydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr datblygwyr preifat bach, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, er mwyn deall y rhwystrau sydd ganddyn nhw o ran adeiladu mwy o dai, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael â hynny. Fe wnes i, Ken Skates a Lesley Griffiths gyfarfod â'r rhaglen ymgysylltu ag adeiladwyr tai yn yr ychydig wythnosau diwethaf er mwyn deall mwy am y rhwystrau sy'n bodoli, yn enwedig o ran cynllunio adeiladu'r cynlluniau llai hynny hefyd.
Felly, yn amlwg mae llawer iawn yn digwydd, ond rwy'n sylweddoli bod llawer mwy i'w wneud, ac mae gwella ansawdd cartrefi sy'n bodoli eisoes yn rhywbeth sy'n peri pryder i mi. Mae rhai o'r cartrefi hynny sydd yn y cyflwr gwaethaf yn y sector perchen-feddianwyr, ac mae angen inni ystyried yr hyn yr ydym yn ei wneud—. Pan fyddwn wedi cyflawni safon ansawdd tai Cymru yn y sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r sector awdurdodau lleol, yna mae angen inni ddechrau meddwl, mewn gwirionedd, am y cymorth y gallem ni ei gynnig i bobl sy'n berchen ar eu cartrefi eu hunain ond nad yw'r cyllid angenrheidiol ganddyn nhw i ddod â nhw i'r safon y byddem ni eisiau ei weld.
Hoffwn i groesawu'r adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy, ac rwy'n credu bod awdurdodau lleol dan bwysau i ddenu datblygwyr mawr â thargedau tai fforddiadwy isel, oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwch chi sicrhau bod datblygwyr mawr yn adeiladu. Mae arnaf ofn bod y system bresennol o gynlluniau datblygu lleol yn gweithio yn y modd hwnnw yn hytrach nag yn ei erbyn, ac mae trigolion sydd eisiau tai fforddiadwy o'r farn bod hynny'n gywilyddus. Er enghraifft, cytunwyd ar ystad yn fy etholaeth i ar gyfer 260 o dai, a 60 ohonyn nhw'n rhai fforddiadwy. Dyna beth sy'n digwydd pan rydych chi'n rhoi tactegau cyn strategaeth ac mae gennych chi gynlluniau datblygu lleol cyn bod gennych gynlluniau datblygu strategol. Dydw i ddim yn meddwl bod y Llywodraeth wedi bod yn iawn ar hynny.
Hoffwn i ddarllen i chi rywfaint o'r dystiolaeth a roddwyd gan y prif swyddog cynllunio i'r pwyllgor craffu polisïau ac adnoddau yng Nghyngor Caerffili ynghylch targedau ar gyfer tai fforddiadwy. Dywedodd:
'Dim ond targed yw hwn, ac os nad yw'n ymarferol ar gyfer y datblygwyr wedyn mae'n rhaid inni dderbyn ffigur is. Mae'r datblygwyr yn gwybod bod y targedau'n bodoli ond mae ganddyn nhw eu costau sefydlog eu hunain, gan gynnwys maint eu helw. Os na all y datblygwyr wneud yr elw y maen nhw'n ei ddisgwyl, ac os na all y tirfeddiannwr werthu'r tir am bris boddhaol, yna does dim datblygiad yn digwydd.'
Mae hyn yn ein dal ni yn yr argyfwng tai hwn ac rwy'n teimlo bod y darn olaf o'ch ateb i Mike Hedges yn rhoi gobaith i ni y gall cwmnïau bach ddechrau torri trwyddo a dechrau chwalu'r cartél hwnnw—cartél y pedwar datblygwr tai mawr. Rwy'n gobeithio cynnal grŵp trawsbleidiol yn nes ymlaen eleni, a hoffwn wybod, Gweinidog, a fyddech chi'n barod i ddod i'r grŵp trawsbleidiol hwnnw a chlywed gan adeiladwyr bach yno. Ond, hefyd, a ydych chi'n cytuno bod goruchafiaeth y pedwar cwmni adeiladu mawr yn gweithio yn erbyn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy, mewn gwirionedd?
Diolch ichi am y cwestiynau hynny a byddwn yn sicr yn croesawu'r cyfle i ddod i gyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ac edrychaf ymlaen at gytuno ar ddyddiad gyda chi yn y dyfodol.
Rwy'n credu bod eich angerdd dros fentrau bach a chanolig a hefyd y gydnabyddiaeth sydd gennych o'r ffaith y gallan nhw chwarae mwy o ran wrth adeiladu tai yn Nghymru yn dderbyniol iawn. Byddwch chi'n falch o glywed bod gennym ni ein cronfa datblygu eiddo Cymru ac mae'r gronfa honno yn benodol ar gyfer busnesau bach a chanolig i gael cyllid, oherwydd, yn aml, mae angen gwario llawer o arian ymlaen llaw ar yr holl gynllunio amrywiol ac ati sy'n ofynnol—felly, llawer o arian i'w wario ymlaen llaw ac, yn aml, nid ydynt yn gallu cael hwnnw o'r ffynonellau arferol. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gallu camu i mewn yn y fan hon a chynnig cyllid i gael y mentrau bach a chanolig hynny'n adeiladu unwaith eto. Rwy'n falch iawn o fod wedi cynyddu'r arian a oedd ar gael ar gyfer hynny yn flaenorol. Rwyf hefyd yn bwriadu cyhoeddi cynllun sylweddol i gefnogi busnesau bach a chanolig a chynyddu adeiladu cartrefi cyn bo hir, ac edrychaf ymlaen at wneud cyhoeddiad arall ar hynny. Felly, dyna damaid i aros pryd yn y Siambr heddiw.
O ran Cymorth i Brynu, neu o ran swyddogaeth y datblygwyr mawr, rwy'n credu mai un o'r pethau sydd o'n plaid ni yw'r ffaith bod Cymorth i Brynu yn gymaint o fendith i'r rhan benodol honno o'r diwydiant, ac maen nhw dibynnu yn fawr iawn, yn fy marn i, ar Cymorth i Brynu. Felly, rwy'n credu y gallwn ni fod yn gofyn mwy drwy Cymorth i Brynu, er enghraifft y gwaith a wnaed gennym i ofyn am osod systemau chwistrellu mewn cartrefi newydd. Cafwyd rhywfaint o wrthwynebiad i hynny ar y dechrau, ond, mewn gwirionedd, oherwydd bod gennym ni berthynas waith gref bellach drwy ein bwrdd ymgysylltu ag adeiladwyr cartrefi, rwy'n credu bod cyfleoedd i ddechrau edrych ar y Cymorth i Brynu nesaf i weld beth ddylem ni fod yn gofyn amdano yn y fan honno yn y dyfodol. Bydd hwn yn dod i ben ar ddiwedd y Cynulliad hwn, ac mae'n bwysig inni ddechrau meddwl am yr hyn y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol. Hefyd, mae angen cynnal trafodaethau gyda'r Llywodraeth ar draws y ffin i ddeall beth yw eu cynllun nhw ar gyfer Cymorth i Brynu, er mwyn i ni allu cael dealltwriaeth o'r cyllid sydd ar gael i ni, ond hefyd, gynnal trafodaethau, mewn gwirionedd, ar gyd-destun yr heriau sy'n ein hwynebu gyda newid yn yr hinsawdd a'n hawydd i symud tuag at economi ddi-garbon ac ati.
Felly, rwy'n credu bod yna gyfle i weithio'n agos ac yn adeiladol â'r holl gwmnïau adeiladu mawr, fel y gwnaethom pan oedd gennym y cytundeb gyda nhw i beidio â gwerthu unrhyw dai newydd fel lesddeiliadaeth, er enghraifft. Rwy'n credu bod yna gyfleoedd i weithio'n gadarnhaol, gan hefyd geisio sicrhau ein bod yn cael yr uchafswm am ein harian o ran y buddsoddiad a wnawn.
Fel rydych wedi dweud eisoes, Gweinidog, rwy'n credu bod angen i ni ddeall y sefyllfaoedd penodol ledled Cymru os ydym i wneud y cynnydd sy'n angenrheidiol er mwyn ateb y galw am gartrefi yn ein gwlad. Yng Nghasnewydd, mae'n amlwg bod y pwysau hwnnw am gartrefi newydd yn sylweddol iawn. Ers mis Gorffennaf y llynedd, pan wnaed y cyhoeddiad y byddai'r tollau ar bontydd Hafren yn cael eu diddymu ddiwedd y flwyddyn hon, bu cynnydd o 5 y cant yn y chwartel isaf o brisiau tai, hyd at fis Chwefror eleni, a 3 y cant yw'r cyfartaledd. Rwy'n credu bod y 5 y cant yn arbennig o anodd, gan mai'r tai rhatach hynny yw'r mwyaf fforddiadwy i brynwyr tro cyntaf, a dyna lle mae'r cynnydd mwyaf mewn pris yn digwydd. Mae pawb, rwy'n credu, yn disgwyl i'r tueddiadau hyn gyflymu wrth inni agosáu at ddiddymu'r tollau ac, yn wir, pan fyddant yn dod i ben. Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru yn fawr iawn i gydnabod y sefyllfa honno a gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd, y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y datblygwyr ac eraill i ymateb i'r her arbennig honno.
Rwy'n siŵr y gwyddoch chi, Gweinidog, yn sicr mae llawer o waith yn digwydd yng Nghasnewydd gan gyngor y ddinas, y cymdeithasau tai a datblygwyr. Darparwyd chwe chant o unedau tai fforddiadwy rhwng 2013 a 2017, ac mae rhaglen barhaus dros y pum mlynedd nesaf. Fel y dywedodd Hefin David, mae'r cwmnïau mawr yn dweud bod hyfywedd yn broblem o ran bodloni'r cyfrannau tai fforddiadwy a ddisgwylir. Mae'r pŵer sydd ganddyn nhw yn broblem wirioneddol yn hynny o beth, a hoffem ni weld camau i fynd i'r afael â hynny.
Mae Cymorth i Brynu wedi bod yn arbennig o arwyddocaol yng Nghasnewydd ac, yn wir, ers 2014, prynwyd 1,248 o gartrefi gyda chymorth y cynllun hwnnw, ac mae hynny bron yn un rhan o bump o gyfanswm Cymru. Felly mae'n amlwg ei fod yn arbennig o arwyddocaol. Byddwn yn gofyn ichi ystyried sut y bydd y cynllun hwnnw'n cael ei ddatblygu yn y dyfodol o ran yr heriau penodol i Gasnewydd a sut mae wedi helpu i ateb y problemau penodol hynny.
A gaf i orffen, Gweinidog, drwy ddweud, o ystyried yr holl heriau hynny, oes, mae gan Cymorth i Brynu swyddogaeth fawr, ac mae tai fforddiadwy yn rhan o gynlluniau mawr a phroblemau hyfywedd yn sylweddol iawn. Ond byddwn yn cytuno â llawer iawn o'r hyn a ddywedwyd gan eraill—bod angen inni fod yn arloesol y tu hwnt i hynny. Yn wir, mae gan hunanadeiladu hanes arwyddocaol yng Nghasnewydd mewn lleoedd fel Llanfaches a Phen-hŵ yn fy etholaeth i, er enghraifft, ac mae diddordeb gwirioneddol mewn hunanadeiladu. Felly, nid ar gyfer ardaloedd gwledig yn unig y mae hyn, fel, yn wir, y dywedasoch chi'n gynharach; yn amlwg, mae'n berthnasol mewn ardaloedd trefol hefyd.
Mae gennym ni lawer o eiddo gwag. Tybed a oes modd gwneud rhywbeth i orfodi'r eiddo gwag hynny i gael eu hailddefnyddio, yn amodol ar y lefel briodol o gymorth i alluogi hynny. Serch hynny, os nad achubir ar y cyfle hwnnw, beth y gellid ei wneud i orfodi defnydd adeiladol o'r eiddo hynny?
Ac yn olaf, y cynlluniau cydweithredol. Rydym ni wedi cael enghraifft ddiweddar yng Nghasnewydd o gynlluniau cydweithredol yn chwarae rhan ddiddorol wrth ateb y galw. Ond tybed a oes modd ichi ystyried edrych ar ehangu hynny eto, yn y ffordd y sonioch amdani yn gynharach, gan adeiladu ar yr hyn sydd eisoes ar waith yng Nghasnewydd.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Rwy'n cydnabod bod y cynlluniau i gael gwared ar y tollau ar gyfer ail bont Hafren yn cael effaith ar y farchnad yng Nghasnewydd. Rwy'n cydnabod hynny ac mae'r Llywodraeth yn ymwybodol iawn o hynny.
Dyna pam yr oeddwn i mor falch o gael mynd yr wythnos hon i lansiad gweledigaeth Melin Homes ar gyfer Casnewydd a rhannau o Sir Fynwy am y pum mlynedd nesaf. Maent yn bwriadu adeiladu 1,000 o gartrefi newydd, ond hefyd, wrth wneud hynny, maent yn ceisio cadw cymaint ag y gallant o'r gwerth o fewn y gymuned, a dyna pam y maen nhw'n canolbwyntio llawer ar y gwaith a wnânt o ran cyflogaeth a phrentisiaethau. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â rhai o'u prentisiaid, a deallaf fod manteision a chyfleoedd iddyn nhw o ganlyniad i'r buddsoddiad y mae Cartrefi Melin yn ei wneud. Ac mae hwn yn gyfle imi longyfarch Melin Homes ar gyrraedd rhif 17 yn rhestr The Sunday Times o'r sefydliadau nid-er-elw gorau i weithio iddyn nhw. Yn sicr, drwy siarad â'r prentisiaid hynny y cefais i'r teimlad cryf eu bod nhw o'r farn bod rhywrai mewn gwirionedd yn buddsoddi ynddynt a'u bod yn gweithio mewn sefydliad sy'n eu gwerthfawrogi nhw fel rhan o'r diwylliant hwnnw. Ac mae'r sefydliad hefyd yn canolbwyntio'n gryf iawn ar annog y menywod sy'n gweithio yno, ac maent yn gobeithio hyrwyddo neu ddenu menywod i ymgymryd â llawer mwy o'u swyddi cynnal a chadw, gan felly symud y menywod a rhoi cyfleoedd iddyn nhw mewn meysydd sydd heb fod ar gael iddynt bob amser. Felly, mae hynny'n sicr yn gadarnhaol iawn, ac edrychaf ymlaen at weld y 1,000 o gartrefi hynny yn dod i ardal Casnewydd.
O ran cwmnïau cydweithredol, credaf hefyd fod cyfleoedd i fentrau cydweithredol yn y dyfodol, wrth inni edrych ar ble i fynd y tu hwnt i lesddaliad. Oherwydd mae adolygiad Comisiwn y Gyfraith yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd, ac ysgrifennais at Aelodau'r Cynulliad am hyn yn gynharach heddiw. Ond mewn gwirionedd, credaf y gallem ni fod yn edrych ar fodelau cydweithredol ar gyfer cynnal blociau neu hyd yn oed ystadau ac ati yn y dyfodol. Felly, credaf fod digon o botensial i fentrau cydweithredol ddod yn fwy amlwg o ran sut rydym yn darparu tai a'r gwasanaethau cysylltiedig hynny yng Nghymru hefyd.
O ran eiddo gwag, amlinellais yn fy ateb i Bethan Jenkins rai o'r cynlluniau sydd gennym. Ond credaf fod yna fater hefyd, yr wyf wedi gofyn am gyngor gan swyddogion arno, mewn trafodaeth â swyddogion o adran Ken Skates, ynghylch prynu gorfodol. Yn aml mae'n wir, nid yn unig ar gyfer tai ond hefyd o ran adfywio'r stryd fawr, nad oes modd dod o hyd i berchnogion, mewn llawer o achosion, neu maen nhw'n amharod i ollwng gafael ar eiddo sydd yn profi i fod yn bla ar y stryd fawr neu nad yw'n cael ei ddefnyddio at ddiben cymdeithasol da. Felly, credaf, eto, fod hwn yn faes y gallem ni fod yn mynd i'r afael ag ef, gan weithio ar draws y Llywodraeth.
Diolch i'r Gweinidog.