7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Sgiliau Digidol a Chodio

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 1 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:55, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Er mwyn galluogi ysgolion i gael eu hymgorffori'n llawn yn y DCF, mae consortia rhanbarthol yn gwneud gwaith manwl i gyflunio dysgu proffesiynol digidol â'r safonau proffesiynol newydd, y modelau dysgu proffesiynol cenedlaethol a gofynion cymeradwyo yr academi arweinyddiaeth, i ddatblygu fframwaith dysgu proffesiynol digidol cenedlaethol ar gyfer pob ysgol. Bydd y fframwaith newydd hwn yn cefnogi athrawon ac arweinwyr i ddatblygu profiadau dysgu digidol effeithiol a chynaliadwy ar gyfer disgyblion, ac yn rhoi iddynt yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i weithio mewn cymdeithas fwyfwy digidol. Mae safonau addysgu ac arweinyddiaeth yn ystyried yn fanwl gysyniadau ac ymddygiadau pwysig sy'n berthnasol i ddysgu digidol. Cynhelir gwaith manwl ar ddylunio ar gyfer y we, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn ystod tymor yr haf, cyn y bydd y fframwaith dysgu proffesiynol digidol rhyngweithiol ar gael i bob ysgol yn raddol.

Llywydd, byddwch hefyd yn gwybod fy mod wedi siarad droeon am bwysigrwydd codio. Fis Mehefin diwethaf, lansiais gynllun 'Cracio'r Cod', ein cynllun i wella sgiliau codio. Gyda chefnogaeth dros £1 miliwn o gyllid, rydym yn gweithio gyda chonsortia, busnesau, partneriaid trydydd sector a phrifysgolion fel bod mwy o ddysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn cyn y cwricwlwm newydd. Hefyd, cefnogir 'Cracio'r Cod' gan nifer o randdeiliaid allweddol, megis Clwb Cod y DU, Sony, yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau a Technocamps. A dim ond y bore yma, Llywydd, cefais gyfle i ymweld ag ysgol St Philip Evans, yma yn Llanedeyrn yng Nghaerdydd. Mae'n enghraifft wych o sut y mae cymhwysedd digidol a sgiliau codio yn cael eu datblygu gan blant o oedran ifanc iawn. Rwy'n siŵr y gallai rhai o blant y feithrinfa a phlant blwyddyn 1 fod wedi codi cywilydd ar rai ohonom â'u dealltwriaeth a'u gallu i weld pwysigrwydd y sgiliau hyn.

Mae 'Cracio'r Cod' hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth o sgiliau codio, yn ogystal â chefnogi ysgolion, ac rwy'n falch o'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud mewn cyfnod byr o amser. Ar ddiwedd mis Mawrth 2018, cofrestrodd 473 o glybiau gweithredol â Chlwb Cod y DU, ac mae hynny'n gynnydd o tua 173 clybiau, o'i gymharu â mis Mehefin y flwyddyn flaenorol. Mae llawer mwy o ysgolion yn gweithio gyda Chlwb Cod y DU a'r pedwar consortiwm addysgol rhanbarthol, sydd o bosib heb gofrestru'n ffurfiol â Chlwb Cod y DU eto, gan ei gwneud yn anodd gwybod faint yn union o glybiau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Ochr yn ochr â 'Cracio'r Cod', mae Technocamps—uned cyswllt diwydiannol o adran gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe—wedi derbyn dros £1.2 miliwn o gyllid addysg Llywodraeth Cymru i ddarparu gweithdai codio cyfrifiadurol i ddisgyblion ac athrawon mewn ysgolion yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi profiad ymarferol i athrawon a dysgwyr mewn amrywiaeth o weithgareddau ac offer codio, ac mae'n sicrhau bod gan bob ysgol uwchradd o leiaf un athro sydd â phrofiad uniongyrchol o weithio gyda chodio.

Bydd cam nesaf y rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol yn rhoi mwy o ddewis i athrawon o ran yr offer digidol a ddefnyddir ganddynt yn yr ystafell ddosbarth, gyda Google for Education yn cael ei gyflwyno i lwyfan Hwb o dymor y gwanwyn 2018. Gan adeiladu ar yr offer presennol sydd ar gael, gan gynnwys Microsoft Office 365 a Just2easy, gall athrawon ddewis o blith ystod eang o adnoddau, megis Google Classroom, gan hwyluso cydweithredu a rheoli dyfais pwerus ar gyfer Chromebooks.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod blaenoriaethu'r mynediad gan ysgolion at fand eang cyflym iawn yn rhan allweddol o'r cytundeb blaengar a ddaeth â mi i'r Llywodraeth hon. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni sicrhau bod gan bob ysgol fynediad at fand eang cyflym iawn, ac mae'n rhaid i'n seilwaith fodloni ein huchelgais. Felly rwyf wedi cyhoeddi y bydd £5 miliwn ychwanegol ar gael i uwchraddio cysylltiadau band eang mewn ysgolion ledled Cymru, ac mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae yna nifer bach o ysgolion lle mae materion ynghylch capasiti band eang yn parhau i fod yn rhwystredig. Mae pob un ond un o archebion yr ysgolion hynny wedi'u cyflwyno i'r darparwyr rhyngrwyd—darparwyr seilwaith—ac rydym yn parhau i weithio gyda phob ysgol i ddod o hyd i atebion.

Ochr yn ochr â hyn, mae cyfres o safonau addysg digidol i helpu ysgolion i gael offer ac adnoddau yn cael ei datblygu. Gan weithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, rydym ar hyn o bryd yn cynnal asesiad o 180 o ysgolion i helpu i lunio safonau a deall pa gymorth ac arweiniad fydd eu hangen yn y dyfodol. Mae hefyd yn bwysig cydnabod nad yw ein gwaith yn dod i ben gyda'r ysgolion. Ar ymweliad diweddar â Choleg Meirion Dwyfor, gwelais â'm llygaid fy hun sut y mae'r coleg yn gweithio gyda phartneriaid allweddol ac ysgolion i annog dysgwyr ifanc i gymryd rhan mewn rhaglenni codio. Soniodd y myfyrwyr a oedd yn ymwneud â menter clybiau codio'r Coleg am eu llawenydd wrth weithio gydag ysgolion lleol a'r dilyniant o un ymweliad i'r nesaf a brwdfrydedd y dysgwyr wrth gwblhau'r rhaglenni codio, a oedd, yn eu geiriau nhw, bron â bod yn barod ar gyfer y farchnad.

Yn fy llythyr cylch gorchwyl CCAUC blynyddol, a gyhoeddwyd fis diwethaf, soniais fy mod yn disgwyl i'r cyngor a phrifysgolion gynyddu eu hymgysylltiad â diwydiant ac ysgolion i wella'r mynediad at godio ymhellach. Dyna pam yr wyf wedi darparu £1.2 miliwn i gefnogi prifysgolion Cymru i greu Sefydliad Codio. Mae hyn yn cynnwys £200,000 i gefnogi gweithgarwch cenhadaeth ddinesig o godio mentrau mewn ysgolion a cholegau, ac i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a phrifysgolion. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i brifysgolion Caerdydd ac Abertawe fod yn aelodau gweithgar o gonsortiwm y DU-gyfan sy'n creu'r Sefydliad Codio. Bydd y sefydliad yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol ar lefelau 6 a 7 ac yn galluogi partneriaid i ddatblygu a darparu addysg arloesol, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y cyllid newydd hwn yn sicrhau bod Cymru yn chwarae ei rhan yn llawn a'n bod mewn sefyllfa dda i elwa ar fanteision y sefydliad.

Llywydd, fel yr amlinellais, mae'r Llywodraeth hon yn cymryd nifer o gamau arwyddocaol i sicrhau bod ein pobl ifanc yn meddu ar sgiliau digidol lefel uchel. Fodd bynnag, mae'n neilltuol o bwysig bod pob un o'r camau hyn, yn eu tro, yn ffurfio cynllun cydlynol a ddarperir mewn ffordd a fydd yn codi safonau yn yr ystafell ddosbarth, ac yn cefnogi disgyblion i fod yn feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol. Diolch.