Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 2 Mai 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, lansiodd Llywodraeth y DU 'Diwydiannau creadigol: Bargen y Sector' y mis diwethaf, gan ragweld gwerth ychwanegol gros o £150 biliwn erbyn 2023. Maent yn ymrwymo degau o filiynau o bunnoedd i hynny. Nawr, mae cynnydd i'w weld fel pe bai wedi ei nodweddu gan y ffaith fy mod yn dal i aros, naw mis bellach, am atebion mewn perthynas â gwrthdaro buddiannau sy'n effeithio ar y gronfa fuddsoddi yn y cyfryngau. Rwy'n meddwl tybed a yw Cymru Greadigol yn rhywbeth go iawn neu'n ffrwyth dychymyg. Beth rydych chi'n ei ystyried yn ddefnyddiol ym margen y DU, sy'n ategu neu'n gwella polisi diwylliannol, yn enwedig yma yng Nghymru, yn enwedig ym maes ffilm a theledu, a beth y gellir ei addasu ar gyfer ei ddefnyddio yn eich cyfraniad chi i bolisi ehangach y diwydiannau creadigol yng Nghymru y disgwyliwn yn eiddgar am unrhyw fanylion yn ei gylch?