1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 2 Mai 2018.
Trown yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau, a'r llefarydd cyntaf yw Suzy Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, lansiodd Llywodraeth y DU 'Diwydiannau creadigol: Bargen y Sector' y mis diwethaf, gan ragweld gwerth ychwanegol gros o £150 biliwn erbyn 2023. Maent yn ymrwymo degau o filiynau o bunnoedd i hynny. Nawr, mae cynnydd i'w weld fel pe bai wedi ei nodweddu gan y ffaith fy mod yn dal i aros, naw mis bellach, am atebion mewn perthynas â gwrthdaro buddiannau sy'n effeithio ar y gronfa fuddsoddi yn y cyfryngau. Rwy'n meddwl tybed a yw Cymru Greadigol yn rhywbeth go iawn neu'n ffrwyth dychymyg. Beth rydych chi'n ei ystyried yn ddefnyddiol ym margen y DU, sy'n ategu neu'n gwella polisi diwylliannol, yn enwedig yma yng Nghymru, yn enwedig ym maes ffilm a theledu, a beth y gellir ei addasu ar gyfer ei ddefnyddio yn eich cyfraniad chi i bolisi ehangach y diwydiannau creadigol yng Nghymru y disgwyliwn yn eiddgar am unrhyw fanylion yn ei gylch?
Diolch yn fawr am y cwestiwn.
Rydym yn croesawu ymyrraeth Llywodraeth y DU ar fargen y sector diwydiannau creadigol yn fawr iawn. Rydym wedi datblygu, a byddwn yn cyhoeddi, union natur gweithgarwch Cymru Greadigol a'i leoliad o fewn y Llywodraeth, a rennir gan Ysgrifennydd y Cabinet a minnau. Bydd hyn yn glir yn fuan, ac rwy'n hapus iawn i gyfarfod â'r Aelod i drafod y mater yn fanylach, yn enwedig o ran ei gymhwyso i fargen ddinesig Abertawe, y gwn fod ganddi ddiddordeb arbennig ynddi.
Gan droi at fater ehangach darlledu, mae Channel 4 wedi cyhoeddi eu bwriad i adleoli. Yr hyn a geisiwn yma yw i un o'r hybiau ddod i Gymru, oherwydd cyhoeddwyd y bwriad eisoes i sefydlu tri hyb cenedlaethol a rhanbarthol newydd, ac mae mater lleoliad y pencadlys cenedlaethol sydd i'w agor yn 2019 yn codi hefyd, ac rydym yn gweld hyn fel rhywbeth y byddem yn sicr yn ymgyrchu drosto, ac rydym eisoes wedi ymgyrchu drosto fel Llywodraeth, gyda chefnogaeth y diwydiant cyfryngau yng Nghymru.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, rydym yn gyffrous iawn ynglŷn â newyddion Channel 4 ac mae dau o'r awdurdodau lleol yn fy ardal yn lobïo'n eithaf cryf ar hynny eisoes, er fod yn rhaid i mi ddweud bod mwy i hyn na Channel 4 a'r Egin. Mae bron i ddwy flynedd wedi bod o'r tymor Llywodraeth hwn bellach a buaswn wedi gobeithio cael rhywfaint o eglurder ar ddatblygiad y diwydiannau creadigol, yn arbennig yr elfen ddiwylliannol rydych yn gyfrifol amdani, er fy mod yn deall, wrth gwrs, nad ydych wedi bod yn Weinidog dros y cyfnod hwnnw.
Rwy'n gweld y byddwch yn siarad yn lansiad Wythnos Twristiaeth Cymru cyn bo hir. Fe fyddwch yn gwybod am adroddiad diweddar y Ffederasiwn Busnesau Bach sy'n honni bod cronfeydd penodol Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi twristiaeth 'y tu allan i gyrraedd' y rhan fwyaf o fusnesau twristiaeth bach, gan awgrymu y byddai'n rhaid i'r rhan fwyaf o weithredwyr twristiaeth… gynllunio i ddyblu yn eu maint i fod â gobaith o gael, cymorth gan y Gronfa Busnesau Micro a Bychan, nad yw'n swnio fel rhywbeth micro iawn i mi, mae'n rhaid i mi gyfaddef.
Yn yr un modd ag y mae Cadw wedi bod yn llwyddiannus iawn yn mabwysiadu model busnes mwy anturus, gallai ein gweithredwyr treftadaeth llai o faint wneud yr un peth. Rwy'n meddwl tybed faint o weithredwyr busnesau treftadaeth sy'n rhy fach i elwa o'r grantiau twristiaeth hyn, a sut rydych yn sicrhau bod Croeso Cymru yn targedu'r rhai sy'n ddigon mawr i elwa ohonynt mewn gwirionedd?
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn pellach hwnnw. Yn wir, rwyf wedi gweld ac wedi astudio'r adroddiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach. Credaf y byddai'n ddefnyddiol iawn pe baem yn cyfarfod â hwy hefyd er mwyn asesu'n fwy clir pa dystiolaeth y mae eu hadroddiad yn seiliedig arno, oherwydd yn sicr, o'm rhan i, rwy'n ceisio trefnu ein cyllid ar gyfer twristiaeth mewn ffordd sy'n ei wneud yn hygyrch i bawb sy'n cynhyrchu cynlluniau busnes perthnasol ar gyfer fy adran, fel y gallwn asesu'r math o fuddsoddiad y gallwn ei wneud.
Rydym wedi sefydlu twristiaeth yn eithaf pendant fel sector sylfaenol yn nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, sy'n pwysleisio bod datganoli cyfrifoldebau i'r rhanbarthau yn bwysig i ni o ran datblygu'r diwydiant twristiaeth. Gyda chymorth fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cadw pedwar rhanbarth at ddibenion twristiaeth, sydd ychydig yn wahanol i ymagwedd y Llywodraeth ar yr ochr economaidd i bethau, oherwydd rwy'n credu bod cyfraniad canolbarth Cymru i dwristiaeth, a'r potensial yno, yn rhywbeth y mae angen i ni ei gefnogi, ac yn sicr byddai hynny'n golygu cefnogi diwydiannau llai.
O ran y gronfa gyfredol, mae'r Llywodraeth yn edrych yn ofalus ar hyn o bryd ar sut y gallwn ailstrwythuro a chyfuno rhai o'n potiau mewn cronfa datblygu a menter arall, a byddai'r elfen dwristiaeth yn y gronfa honno yn sicr ar gael i gyfran mor eang a phosibl o'r economi.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Rwy'n gobeithio—mewn ymateb i ran olaf yr hyn a ddywedoch—pan ydych yn sôn am fusnesau twristiaeth, nad ydych yn sôn am lety yn unig, ond am berchnogion busnesau treftadaeth bach yn ogystal, oherwydd, yn amlwg, dylai'r cynnig cyfunol o lety da a threftadaeth ddiddorol fod yn fantais i Gymru mewn gwirionedd.
Os caf orffen ar y thema honno o gynhyrchu incwm, os gallaf ei roi felly, neu gyfleoedd busnes, cyhoeddwyd rhestr fer gwobr fawr ei bri Amgueddfa'r Flwyddyn y DU yn gynharach yr wythnos hon, a bydd enillydd y wobr honno'n derbyn £100,000, sy'n gyfraniad sylweddol i gynllun busnes unrhyw amgueddfa, yn arbennig yr amgueddfeydd llai neu'r amgueddfeydd arbenigol hynny sydd wedi ennill y wobr o bryd i'w gilydd yn y gorffennol mewn gwirionedd. Unwaith yn unig y mae'r wobr wedi cael ei hennill gan Amgueddfa yng Nghymru, 13 mlynedd yn ôl. Beth yw'r rheswm am hynny yn eich barn chi?
Nid wyf yn cofio pa amgueddfa a enillodd y wobr hyd yn oed.
Big Pit.
Wel, nid yw honno'n amgueddfa fach.
Na, na, ond mae eraill yn fach.
Yn sicr, rwyf wedi cyfarfod â'r gymdeithas sy'n cynrychioli amgueddfeydd. Yr hyn rydym yn ceisio ei bwysleisio—. Os yw hi wedi darllen, ac rwy'n siŵr ei bod, y llythyr cylch gwaith a anfonais yn weddol ddiweddar at Amgueddfa Genedlaethol Cymru, rydym yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio'n agos ag amgueddfeydd lleol a chyda chanolfannau rhanbarthol mewn perthynas ag amgueddfeydd. Rwy'n awyddus iawn i weld sut y gallwn ddatblygu hyn ymhellach wrth greu partneriaethau yn y rhanbarthau twristiaeth rwyf newydd eu disgrifio, rhwng amgueddfeydd, fel y gall pobl fynd ar daith o amgylch gwahanol amgueddfeydd mewn rhanbarth, iddynt allu mwynhau'r cynnig sydd gennym.
I ateb ei chwestiwn cyntaf, ni wn pam nad yw amgueddfeydd yng Nghymru wedi elwa o'r wobr arbennig honno, ond byddaf yn sicr yn edrych yn fanylach i weld beth yw'r meini prawf ar gyfer y wobr hon. Ond o'n rhan ninnau, rydym yn croesawu'r cydweithrediad ag amgueddfeydd awdurdodau lleol a safleoedd treftadaeth sydd ag amgueddfeydd arnynt mewn perchnogaeth breifat. Yn benodol, rwyf wedi ymweld â nifer o gestyll gwych sy'n eiddo preifat, ac mae llawer ohonynt mewn rhannau o'r byd a fydd yn hysbys iddi yn Nyffryn Tywi. Gwn pa mor falch yw'r bobl sy'n malio am yr henebion penodol hyn o weithio gyda Cadw o ran trefniadaeth y lle, ac maent hefyd yn amlwg yn elwa o nifer yr ymwelwyr, ymwelwyr sy'n talu, sy'n ymweld â'u heiddo.
Diolch. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhifyn y mis hwn o gylchgrawn Modern Railways, y gwn ei fod yn ddeunydd darllen gofynnol ar gyfer holl Aelodau'r Cynulliad, wedi nodi na fydd trenau rheilffyrdd y Cymoedd yn cynnig toiledau i deithwyr mwyach. Hoffwn i chi gadarnhau a yw hyn yn wir ai peidio. Ond cyn i chi wneud hynny, hoffwn nodi bod dwy elfen i'r cwestiwn hwn, mewn gwirionedd.
Yn y tymor byr, er mwyn osgoi methiant i gyflawni gofynion hygyrchedd a deddfwriaeth anabledd, yn hytrach na mynd ati'n rhagweithiol i uwchraddio'r stoc Pacer cyfredol i gydymffurfio â manylebau pobl â phroblemau symud, awgrymir bod Llywodraeth Cymru wedi dewis cloi'r toiledau yn lle hynny. Nawr, rydych wedi gwadu hynny, ond hoffwn i chi nodi'n fanwl sut rydych yn bwriadu sicrhau bod y trenau Pacer yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.
Yr ail elfen, wrth edrych i'r dyfodol, yw bod llawer yn credu bod trenau rheilffyrdd ysgafn, nad ydynt fel arfer yn cynnwys toiledau, yn cael eu hystyried ar gyfer rhai o reilffyrdd y Cymoedd fel rhan o'r gwaith o ddatblygu metro de Cymru. A allwch gadarnhau mai'r cwmnïau sy'n gwneud cais a fydd yn penderfynu a fydd toiledau'n cael eu darparu ar y trenau newydd hyn ai peidio? Gan fod toiledau yn mynd â chryn dipyn o le, sy'n effeithio ar refeniw, efallai nad oes angen arbenigwr i ddyfalu beth y gallai eu hargymhellion fod.
Gallaf sicrhau'r Aelod na fydd drysau'n cael eu cloi ar drenau er mwyn osgoi cydymffurfio â rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu cyfleusterau ar gyfer pobl â phroblemau symud. Mae'r ymgeiswyr yn yr ymarfer caffael yn wynebu'r her o ddangos sut y byddant yn sicrhau bod trenau'n cydymffurfio â'r rheoliadau a ddaw i rym cyn bo hir, a bydd angen iddynt wneud hynny heb gloi unrhyw ddrysau o gwbl.
Yn yr un modd, fel rhan o'r ymarfer caffael, cynhaliwyd nifer o ymgynghoriadau gyda theithwyr a'r cyhoedd yn ehangach er mwyn canfod beth yn union oedd y pethau pwysicaf i bobl pan oeddent yn ystyried a oeddent am ddefnyddio trenau ai peidio. Roedd trafnidiaeth gyhoeddus ac ansawdd y trenau ymhlith y ffactorau mwyaf pwysig ac arwyddocaol wrth benderfynu rhwng defnyddio'r trên neu ddefnyddio'u car preifat eu hunain. Ac felly, o ganlyniad, mae hwn wedi datblygu i fod yn un o'r prif feysydd sy'n peri pryder yn ystod y broses gaffael. Rydym wedi gofyn i'r ymgeiswyr ddangos sut y byddant yn sicrhau bod toiledau ar drenau.
Hoffwn droi, os caf, at fater arall sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfle i'r gwrthbleidiau gael cyfarfod briffio technegol ar y cynigion ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet a'r swyddogion am hynny. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r newyddion diweddaraf i ni, ac yn y datganiad hwnnw, fe ddywedoch eich bod, i gydnabod pwysigrwydd y mater hwn, yn ymrwymo i ddadl yn amser y Llywodraeth cyn y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn ag a fydd y prosiect yn mynd rhagddo. A allwch chi egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd y ddadl honno'n cynnwys pleidlais ystyrlon ar gynnig y gellir ei ddiwygio? Credaf mai dyna'r ymadrodd a ddefnyddiwn o dan yr amgylchiadau hyn. Gyda phrosiectau tebyg ar lefel y DU, rheilffordd 'high speed 2', Crossrail, y drydedd redfa, yn yr achosion hynny i gyd, y Senedd a wnaeth y penderfyniad ar gynnig gerbron Tŷ'r Cyffredin. Felly, a allwch gadarnhau mai dyna fydd yn digwydd yn ein hachos ni, ac os gwrthodwn roi ein cydsyniad, na fydd hynny'n cael ei ddehongli fel penderfyniad cydsynio ar ein rhan ac yn arwain at y prosiect yn mynd rhagddo beth bynnag?
A gaf fi ddiolch i Adam Price, nid yn unig am ei gwestiwn, ond hefyd am fynychu'r cyfarfod briffio technegol? Rwyf wedi penderfynu cynnal cyfarfodydd briffio technegol pellach ar y mater hwn, oherwydd rwy'n ymwybodol nad oedd nifer o Aelodau, yn anffodus, yn gallu mynychu yr wythnos diwethaf, a byddaf yn rhannu manylion y cyfarfodydd briffio hynny cyn gynted ag y byddant wedi cael eu trefnu.
O ran y ddadl rydym wedi ymrwymo iddi yma, i ddechrau, fel y mae arweinydd y tŷ eisoes wedi'i nodi, roedd yr ystyriaeth yn canolbwyntio ar ba un a ddylai fod yn ddadl 'i nodi' ai peidio. Nawr, rydym bellach yn ymgynghori â chyfreithwyr, nid yn unig ar ffurf y ddadl, ond hefyd ar amseriad y ddadl, a chyn gynted ag y gallaf roi manylion llawn mewn perthynas â ffurf a dyddiad y ddadl honno, byddaf yn eu rhannu â'r Siambr.
A gaf fi—? Yn sicr, credaf fod llawer o'r farn, nid yn unig ar y meinciau hyn, fod yn rhaid i honno fod yn ddadl ar bleidlais ystyrlon a chynnig y gellir ei ddiwygio, a bod yn rhaid i benderfyniad Llywodraeth Cymru adlewyrchu barn y Siambr hon.
Yn olaf, a gaf fi droi at brosiectau ffyrdd eraill? Mae sôn wedi bod am ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd ers dros ddegawd. Bwriadwyd i'r gwaith ddechrau yn 2016 yn wreiddiol, ac i fod wedi'i gwblhau eleni, ac eto dyma ni yn 2018, ac nid yw'r penderfyniad a ddylid bwrw ymlaen â'r prosiect ai peidio wedi cael ei wneud hyd yn oed. Yn nes adref ataf fi, mae ffordd osgoi Llandeilo, y cytunwyd arni fel rhan o gytundeb y gyllideb y llynedd, eisoes ar ei hôl hi: roedd arfarniadau llwybr i fod i gael eu cwblhau yn ystod yr haf y llynedd; fis Ionawr yn unig y dechreuodd yr arfarniad. Felly, mae'r gwaith bedwar mis yn hwyr o leiaf, ac mae'n debyg y bydd o leiaf 10 mis o oedi, er y dywedwyd wrthym y byddai'r gwaith adeiladu'n dechrau ar ddiwedd 2019. Onid yw'n wir, Ysgrifennydd y Cabinet, mai'r rheswm dros yr oedi mewn achosion fel hyn yw bod ffordd liniaru'r M4 ar fin llyncu'r rhan fwyaf o wariant Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, yn ogystal â llyncu'r rhan fwyaf o amser eich swyddogion?
Edrychwch, rwy'n annog pwyll wrth alw am arllwys y concrit mewn prosiectau ffyrdd yn etholaethau unigolion cyn gynted â phosibl, ac yn annog pwyll ac ataliaeth ar adeiladu ffyrdd M a darnau mawr eraill o seilwaith. Mae angen i ni allu dangos ein bod yn trin pob datblygiad seilwaith mewn ffordd ddiduedd a gwrthrychol, a dyna'r rheswm pam rydym yn sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru, er mwyn gallu llywio penderfyniadau mewn ffordd sydd wedi'i dadwleidyddoli gyda chymorth arbenigwyr.
Gallaf ddweud wrth yr Aelod, mewn perthynas â ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd, fod y gwaith wedi defnyddio adnoddau sylweddol o ran yr arolygiaeth annibynnol ac o ran amser swyddogion y Llywodraeth, ond mae gennyf ddigon o swyddogion i allu ymdrin â'r mater hwn a'r M4 a llawer o brosiectau eraill yn wir, a byddaf yn gwneud penderfyniad ar y rhaglen arbennig honno yn ystod y tair wythnos nesaf. Ond y rheswm pam ei fod wedi cymryd amser—ac mae'n iawn i gymryd amser dros brosiect o'r fath, o ystyried nid yn unig y gost, ond hefyd nifer y bobl sydd wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghori—mae'r arolygydd wedi ystyried 20 datganiad o gefnogaeth, ond mae hefyd wedi ystyried 160 o wrthwynebiadau, ac yn ogystal â hyn, cafodd 20 o lwybrau amgen eu cynnig fel rhan o broses yr ymchwiliad. Mae'n gwbl briodol ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau statudol drwy roi ystyriaeth ofalus i adroddiad yr arolygydd cyn gwneud penderfyniad terfynol, ac yn sicr cyn arllwys y concrit fel y mae'r Aelod yn dymuno i ni ei wneud.
Diolch. Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynlluniau micro-hydro yng Nghymru?
Wel, mae hwn yn bwnc sydd o ddiddordeb ar draws y Llywodraeth. Mae'n rhan o 'Ffyniant i Bawb', mae'n bwnc rwy'n gweithio'n agos ag ef, nid yn unig gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, ond hefyd gyda Gweinidog yr Amgylchedd, i sicrhau bod cynlluniau ynni ar raddfa fach, ac yn wir, cynlluniau ynni ar raddfa fwy, yn sicrhau manteision i gymunedau lleol. Dyna pam fod targedau uchelgeisiol eisoes wedi cael eu gosod gan Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn 2015, dywedodd Chris Blake o Cymoedd Gwyrdd (Cymru) fod ei gwmni wedi nodi o leiaf 500 o safleoedd yng Nghymru sy'n addas ar gyfer prosiectau micro-hydro. Y flwyddyn honno, rhoddodd The Guardian sylw i ffermwr mynydd yng Nghymru a ddywedodd ei fod wedi dyblu incwm ei fferm drwy osod generadur 18 KW a oedd yn weithredol 24 awr y dydd. O ystyried cyflwr enbyd ein ffermwyr mynydd o ganlyniad i bolisïau amaethyddol cyffredin, byddai'n arwydd o ewyllys da pe bai Llywodraeth Cymru yn rhoi cymhorthdal am gynlluniau o'r fath i'n ffermwyr mynydd, gyda mantais ychwanegol amlwg o dorri allyriadau carbon? Wrth gwrs, mae gennym rai cynlluniau ynni dŵr cymunedol yng Nghymru, ond gyda mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru, gallai fod llawer mwy. Ysgrifennydd y Cabinet, onid yw'n bryd i ni edrych o ddifrif ar y cynlluniau ynni dŵr bach hyn, yn enwedig o ystyried y sylwadau gwarthus a wnaed ar brosiect bae Abertawe ddoe gan Weinidog busnes y DU, yr Arglwydd Henley?
Yn hollol. Ni allwn gytuno mwy, ond rydym eisoes yn helpu ffermwyr a phobl eraill sy'n byw mewn ardaloedd gwledig i ddatblygu cynlluniau micro-hydro, gan ariannu cynlluniau yn ogystal â chynnig cyngor. Rwy'n arbennig o falch o weld bod UKIP wedi newid eu safbwynt i gefnogi dulliau cynaliadwy o gynhyrchu ynni, ac ynni adnewyddadwy ar hynny.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ymddangos mai un o'r rhwystrau mawr i'r cynlluniau micro hyn a'r cynlluniau cymunedol mwy yw—. Yn ôl Western Distribution, roedd capasiti grid cefn gwlad Cymru yn llawn yn 2015. A yw hyn yn wir o hyd, ac os felly, a yw Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud unrhyw beth i leddfu'r broblem hon?
Mae'r Alban bellach yn arweinydd byd ym maes ynni adnewyddadwy, a rhan o'r llwyddiant hwn yw'r ffaith bod ynni dŵr wedi cynyddu 9 y cant y llynedd. A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet ffigurau ar gyfer Cymru? Ac mae Cymru yn un o'r lleoedd gwlypaf yn Ewrop, Ysgrifennydd y Cabinet. Does bosibl nad oes gennym botensial i efelychu'r Alban mewn cynlluniau ynni dŵr sydd, wedi'r cyfan, yn llawer llai ymwthiol yn ein tirlun na'r ffermydd gwynt a solar? Mae'n ymddangos mai ynni dŵr yw'r sinderela yng nghymysgedd ynni adnewyddadwy Cymru, ac mae hynny wedi bod yn wir ers llawer gormod o amser.
Nid oes gennyf ots fod yr Aelod yn sôn am Gymru fel y wlad wlypaf ym Mhrydain yn y Siambr hon, ond peidiwch â dweud wrth unrhyw un o'r twristiaid sy'n ystyried dod yma os gwelwch yn dda.
Fe ofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd ysgrifennu atoch gyda manylion y defnydd o brosiectau mewn perthynas â safleoedd micro-hydro.FootnoteLink Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r grid cenedlaethol, ac rwyf fi a fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cyfarfod yn ddiweddar iawn â'r Grid Cenedlaethol, a gallaf gadarnhau bod eich honiad yn hollol gywir: mae angen cryfhau'r grid, ac mae hynny'n golygu bod angen gwariant ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Mae cyfleoedd enfawr y gallai'r Grid Cenedlaethol eu cynnig ac y maent yn eu hystyried, yn benodol cynllun ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy a allai arwain at safle penodol sydd ganddynt yn datblygu i fod yn ganolfan ragoriaeth mewn ymchwil a datblygu. Ond wrth wraidd hyn i gyd y mae'r angen i atgyfnerthu'r grid yn ei gyfanrwydd. Mewn gwirionedd, un o'r problemau sy'n ein hwynebu wrth gyflwyno'r pwyntiau gwefru cyflym iawn ar gyfer cerbydau trydan yw diffyg cryfder yn y grid presennol, ac mae angen gwario swm enfawr o arian cyfalaf i sicrhau bod y grid yn cyrraedd safon ddigon da. Felly, unwaith eto, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn edrych yn ffafriol ar y cynigion a gyflwynir gan y Grid Cenedlaethol ar yr hyn y credaf y byddai'n arwain at 50 o bwyntiau gwefru cyflym iawn ledled y DU mewn mannau strategol, a'n bod yn darparu'r pwyntiau gwefru hynny cyn gynted â phosibl.
Diolch yn fawr iawn. Dychwelwn yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn, a chwestiwn 4—Russell George.