Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 2 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod pawb yn cefnogi cyflwyno'r system fetro, ac mae'n ymddangos, ar bob man cyfyng ar y rhwydwaith trafnidiaeth—yn sicr, yng Nghanol De Cymru—pan leisir cwyn neu broblem atebir drwy ddweud, 'Wel, peidiwch â phoeni mae'r system fetro ar ei ffordd.' A allwch roi amserlen bendant i ni o ran pryd y bydd modurwyr a phobl sydd angen trafnidiaeth i fynd i'r gwaith neu i deithio o amgylch eu cymunedau yn dechrau gweld rhai o'r dewisiadau amlfoddol y mae'r system fetro yn sôn amdanynt mewn gwirionedd, oherwydd os ydych yn gyrru o gwmpas Canol De Cymru, neu'n cerdded o gwmpas yr orsaf ganolog neu'n beicio o gwmpas Canol De Cymru, mae'n ymddangos mai'r cyfan a welwch ar hyn o bryd yw tagfeydd, ac mae'n rhwystredig iawn nad ydym ni, fel Aelodau etholedig, yn gallu cynnig yr amserlenni—yr amserlenni pendant—y mae llawer ohonom eisiau eu gweld yn cael eu cyflwyno?