1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 2 Mai 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl y bartneriaeth i gyflenwi'r metro yn y broses o sicrhau trafnidiaeth integredig ar gyfer Caerdydd? OAQ52083
3. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu trafnidiaeth integredig yng Nghaerdydd? OAQ52093
Diolch. Deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 2 a 3 gael eu grwpio, Ddirprwy Lywydd.
Do.
Bydd y bartneriaeth i ddatblygu'r metro yn cyfuno adnoddau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat er mwyn sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â gweledigaeth o greu hyb trafnidiaeth integredig, amlfoddol yng nghanol Caerdydd, gan sicrhau bod yna ddull cydgysylltiedig wedi'i reoli o gyflawni'r prosiectau cydrannol fel rhan o raglen y bartneriaeth i ddatblygu'r metro.
Mae'n dda gwybod bod yr adnoddau cyhoeddus a phreifat yn cael eu cyfuno, ond mae gennyf ymholiad, mewn gwirionedd, o ystyried bod cymaint o ddatblygiad safon uchel wedi bod ar safle'r Sgwâr Canolog, sef safle'r hen orsaf fysiau, pam nad yw wedi bod yn bosibl ariannu'r orsaf fysiau o'r mecanweithiau cyflawni adran 106 y bydd y cyngor wedi'u cael gan ddatblygwyr preifat sydd wedi elwa o fod wedi'u lleoli ar y Sgwâr Canolog, a pham fod angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd gyda'r bartneriaeth i gyflawni'r metro. Yn absenoldeb tramiau, rheilffyrdd ysgafn a'r ffaith bod mwy o gapasiti ar y rheilffyrdd maestrefol ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio'r bysiau i deithio o gwmpas. Mae methu deall ble y dylent ddal y bws i leoliadau penodol, fel ar hyn o bryd, yn atal pobl rhag defnyddio bysiau mewn gwirionedd, ac yn amlwg, dyna rydym eisiau iddynt ei wneud. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthyf pryd yn union y bydd yr orsaf fysiau'n cael ei hailagor, oherwydd mae o leiaf 10 mlynedd o ymgyrchu wedi bod, a dyna beth y mae fy etholwyr eisiau ei glywed.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a chadarnhau y disgwylir y bydd y gwaith ar yr ased, sy'n hanfodol bwysig i Gaerdydd, yn cael ei gwblhau yng nghanol 2020-21? Cyfrifoldeb y cyngor yw penderfynu sut i wario arian adran 106, a deallaf fod y cyngor yn benderfynol fod angen gwneud gwelliannau ar draws y ddinas gyda'r arian hwn. Rwy'n fwy na pharod i helpu i hwyluso cyfarfod rhwng yr Aelod a'r cyngor i sicrhau gwell dealltwriaeth o'r prosiectau a fydd yn elwa o gyllid adran 106.
Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu trafnidiaeth integredig yng Nghaerdydd?
Gyda chwestiynau wedi'u grwpio, gallwch symud ymlaen at eich cwestiwn atodol.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Croesewais ateb y Prif Weinidog i gwestiwn am yr orsaf fysiau fis diwethaf yn fawr iawn—ein bod yn ceisio sicrhau integreiddio di-dor rhwng trenau, bysiau, coetsys a'r metro, a darparu mynediad hawdd i feicwyr a cherddwyr. Fodd bynnag, deallaf fod llai o fannau beiciau yn y cynllun newydd ar gyfer yr orsaf fysiau nag a oedd yn yr un blaenorol mewn gwirionedd. Rwy'n deall bod y niferoedd wedi'u gostwng o 750 o fannau i 500, ac na fyddant yn yr orsaf fysiau ei hun mwyach ond yn hytrach mewn caban ar wahân. Felly, ni wn a all Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu mwy o wybodaeth ar hynny a'n sicrhau y bydd beicio a cherdded yn parhau i fod yn elfennau cwbl allweddol o'r gyfnewidfa drafnidiaeth hon.
Yn sicr, gallaf sicrhau'r Aelod nad cyfleusterau beicio fydd sinderela unrhyw hyb trafnidiaeth y byddwn yn ei ddatblygu yng Nghymru, gan gynnwys yr hyb penodol hwn yng Nghaerdydd. Nawr, mae cynllun yr orsaf fysiau'n dal i gael ei ddatblygu, ac felly mae amser, mae cyfle, i sicrhau bod digon o fannau ar gyfer beicwyr. Rwy'n gwbl ymrwymedig i ymestyn y cyfleoedd ar gyfer teithio llesol, gan gynnwys beicio, ac i sicrhau bod yna gyfleusterau sylweddol ledled Cymru sy'n galluogi pobl i wneud mwy o ddefnydd o feiciau. Ac rwy'n credu bod y cyhoeddiad diweddar mewn perthynas â'r cynnydd sylweddol yn yr arian sydd ar gael ar gyfer rhaglenni teithio llesol yn dangos ein hymrwymiad i'r agenda benodol hon.
Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod pawb yn cefnogi cyflwyno'r system fetro, ac mae'n ymddangos, ar bob man cyfyng ar y rhwydwaith trafnidiaeth—yn sicr, yng Nghanol De Cymru—pan leisir cwyn neu broblem atebir drwy ddweud, 'Wel, peidiwch â phoeni mae'r system fetro ar ei ffordd.' A allwch roi amserlen bendant i ni o ran pryd y bydd modurwyr a phobl sydd angen trafnidiaeth i fynd i'r gwaith neu i deithio o amgylch eu cymunedau yn dechrau gweld rhai o'r dewisiadau amlfoddol y mae'r system fetro yn sôn amdanynt mewn gwirionedd, oherwydd os ydych yn gyrru o gwmpas Canol De Cymru, neu'n cerdded o gwmpas yr orsaf ganolog neu'n beicio o gwmpas Canol De Cymru, mae'n ymddangos mai'r cyfan a welwch ar hyn o bryd yw tagfeydd, ac mae'n rhwystredig iawn nad ydym ni, fel Aelodau etholedig, yn gallu cynnig yr amserlenni—yr amserlenni pendant—y mae llawer ohonom eisiau eu gweld yn cael eu cyflwyno?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n hollol gywir—mae pobl yn rhwystredig, ac mae hynny'n ddigon teg, gyda'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, nid yn unig o ran y rheilffyrdd ond hefyd o ran gwasanaethau bysiau lleol. Gallaf gadarnhau y bydd y prosiect Canol Caerdydd yn cael ei gwblhau yn 2021. Bydd cam 2 y prosiect metro'n cael ei gwblhau erbyn 2023. Ond rydym hefyd yn cyflwyno'r prosiectau a neilltuwyd yn wreiddiol fel camau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â'r metro, er enghraifft cyfleusterau parcio a theithio a hybiau eraill, fel bod pobl yn gweld y metro'n cael ei gyflawni'n gynt na'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl adael eu ceir, a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu feiciau, ac rydym yn gwneud hynny.
Mewn mannau eraill yng Nghymru, yn ardal fetro gogledd Cymru er enghraifft, rwyf wedi cyhoeddi cyllid yn ddiweddar i ddechrau gwaith ar lwybrau beicio ac ar hybiau trafnidiaeth integredig yn ardal Glannau Dyfrdwy. Mae gwaith hefyd ar y gweill mewn safleoedd strategol ar draws gogledd Cymru ac yn wir, ar sail trawsffiniol i'r gogledd-orllewin. Unwaith eto, mae gwaith yn mynd rhagddo yn ne-orllewin Cymru, gyda Llywodraeth Cymru yn ariannu gwaith sy'n cael ei arwain gan bartneriaid y fargen ddinesig ac sy'n edrych ar sut y gallem gyflwyno gwasanaeth metro modern yn y rhanbarth hwnnw yn ogystal.
Ochr yn ochr â hyn, rydym yn buddsoddi'n drwm iawn mewn cynlluniau ffyrdd i liniaru tagfeydd drwy'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, ac yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi cynllun mannau cyfyng, sy'n cael ei ddefnyddio ledled Cymru i sicrhau bod ein cefnffyrdd yn cael eu rhyddhau ar bwyntiau penodol lle y ceir tagfeydd ar hyn o bryd.
Mae'r metro wedi bod yn destun siarad ers wyth mlynedd. Fel y dywedodd eich cyd-Aelodau Llafur, mae gorsaf fysiau Caerdydd yn ffiasgo—ffiasgo llwyr. Os ydych yn teithio i'r cyrion, i orllewin y brifddinas, fel y rhagwelasom—ac roedd pobl yn ein galw'n gelwyddgwn ar y pryd—mae tai'n cael eu hadeiladu, mae'r teirw dur yno, ac mae yna ffordd unffrwd lle bydd 8,000 o dai eraill yn cael eu hadeiladu. Beth yw eich neges i drigolion gorllewin y brifddinas? A beth yw eich neges i bobl a fydd yn prynu'r tai newydd hynny, oherwydd nid oes ganddynt unrhyw ffordd o deithio i ganol Caerdydd? Beth a ddywedwch wrth y bobl hynny?
Wel, dyma fy neges: rydym wedi ymyrryd, oherwydd yr hyn y mae'r Aelod yn ei alw'n ffiasgo gyda gorsaf fysiau Caerdydd, ac mewn blynyddoedd i ddod, bydd pobl ar hyd a lled Caerdydd—ledled Caerdydd gyfan—yn gweld gwelliannau mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, nid yn unig o ran yr hyn a fydd yn teithio ar y rheilffyrdd, ond hefyd o ran gwasanaethau bysiau drwy ddiwygio gwasanaethau bysiau lleol a thrwy ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yn ystod y tymor hwn. Mae'n gwbl hanfodol, fel y dywedais wrth Andrew R.T. Davies, fod pobl yn cael cyfle i adael eu ceir preifat a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus—trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel a dibynadwy o'r ansawdd uchaf. Byddwn yn darparu hynny yn ogystal fel rhan o'r metro, a'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd, a fydd yn cael ei chytuno a'i chyflwyno yn awr o fis Hydref eleni ymlaen.