Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 2 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae ystadegau a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni yn dangos, er mai beicwyr modur oedd llai nag 1 y cant o'r traffig yng Nghymru yn 2016, eu bod yn 23 y cant o'r holl bobl a gafodd eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol yng Nghymru hefyd. Lladdwyd 22 o feicwyr modur i gyd ar ffyrdd Cymru yn 2016. Mae'n ffigur brawychus ac yn gwbl annerbyniol. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o ba mor agored i niwed yw beicwyr modur ar ffyrdd Cymru, os gwelwch yn dda?