1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 2 Mai 2018.
1. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru? OAQ52077
Mae fframwaith diogelwch ar y ffyrdd Cymru yn nodi'r camau rydym ni a'n partneriaid yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru, ac roedd yr adolygiad canol tymor o'r fframwaith yn dangos bod cynnydd da wedi'i wneud yn erbyn y targedau a'r camau gweithredu.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna dystiolaeth a chefnogaeth gynyddol i derfyn cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd trefol, gyda darpariaeth ar gyfer terfynau is neu uwch ar ffyrdd penodol. Mae'r dystiolaeth yn dangos y byddai llai o ddamweiniau, llai o anafiadau, llai o farwolaethau, ac y byddai traffig yn symud yn fwy rhydd, gyda llai o allyriadau. Ceir cefnogaeth gyhoeddus gref i'r dystiolaeth, ac amcangyfrifir y byddai degau o filiynau o bunnoedd yn cael eu harbed. Ceir cysylltiad hefyd â theithio llesol. Ym Mryste, er enghraifft, lle maent wedi cyflwyno terfyn cyflymder o'r fath, mae mwy o bobl yn cerdded ac yn beicio i'r ysgol ac i'r gwaith, ac yn wir, mae 25 y cant o ardaloedd trefol Prydain bellach yn ardaloedd 20 mya. Mae yna ymgyrch gref o'r enw '20 yn ddigon', sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd trefol, a chaiff ei chefnogi gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Sefydliad Iechyd y Byd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwaraeon Cymru, a Brake. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno'r polisi hwn yng Nghymru yn awr?
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i John Griffiths am ei gwestiwn, a chadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflwyno parthau 20 mya a therfynau cyflymder 20 mya lle y ceir tystiolaeth fod eu hangen? Mae'r Aelod yn llygad ei le fod y dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu eu bod yn arwain at ostwng cyflymder, ac felly at ddiogelwch gwell, yn arbennig mewn perthynas â cherddwyr a beicwyr. Mae gan awdurdodau cefnffyrdd y pŵer i newid terfynau cyflymder drwy orchymyn eisoes, ac yn amlwg mae angen iddynt ymgynghori â'r gymuned leol ar wneud unrhyw newidiadau. Ond rydym yn darparu cyllid i awdurdodau lleol weithredu parthau 20 mya, a therfynau cyflymder 20 mya, drwy'r grant diogelwch ffyrdd a'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, ac rydym hefyd, yn ychwanegol at hyn, yn darparu cymorth ar gyfer gostyngiadau 20 mya y tu allan i ysgolion ar rwydweithiau cefnffyrdd, ac rwy'n credu bod hynny'n arbennig o bwysig mewn ardaloedd trefol.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae ystadegau a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni yn dangos, er mai beicwyr modur oedd llai nag 1 y cant o'r traffig yng Nghymru yn 2016, eu bod yn 23 y cant o'r holl bobl a gafodd eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol yng Nghymru hefyd. Lladdwyd 22 o feicwyr modur i gyd ar ffyrdd Cymru yn 2016. Mae'n ffigur brawychus ac yn gwbl annerbyniol. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o ba mor agored i niwed yw beicwyr modur ar ffyrdd Cymru, os gwelwch yn dda?
Wel, mae'r Aelod yn hollol iawn—er bod cynnydd da yn cael ei wneud yn erbyn llawer o'r targedau, er enghraifft targedau sy'n ymwneud â phobl ifanc a nifer cyffredinol y bobl sy'n cael eu lladd neu'n cael eu hanafu'n ddifrifol ar y ffyrdd, mae'r ystadegau sy'n ymwneud â beicwyr modur yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel ac maent yn destun pryder mawr i ni. Gostyngiad o 1 y cant yn unig a fu, felly, o ganlyniad, mae'r gyfran yn parhau i gynyddu. Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem arbennig hon—ac rwy'n ymwybodol fod llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn gallu cyfeirio at leoliadau penodol lle mae beicwyr modur mewn perygl mawr—rydym yn gweithio gyda Go Safe a phartneriaid eraill o fewn yr heddlu i ddatblygu'r gallu i ddadansoddi data, er mwyn llywio ymyriadau'n well. Rydym hefyd wedi dechrau cael trafodaethau gyda sefydliad diogelwch ffyrdd dielw cenedlaethol ynglŷn â'r posibilrwydd o weithredu eu cyrsiau beicio modur Two Wheels yma yng Nghymru. Rydym yn credu bod hyfforddiant gwell—estyniad o'r hyfforddiant a ddarperir eisoes—yn gwbl hanfodol i leihau ffigurau'r bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol. Ac rydym hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr adran addysg ar y posibilrwydd o gynnwys deunydd ar ddiogelwch ar y ffyrdd ym maes iechyd a llesiant y profiad dysgu. Rwy'n credu, unwaith eto, mai gorau po gyntaf y gallwn gyflwyno dulliau cyfrifol, ymddygiad cyfrifol, o ran beicio a beicio modur, ac mae gwneud hynny yn yr ysgol yn gwneud synnwyr perffaith.
Mick Antoniw.
Na, mae'n ddrwg gennyf. Mick Antoniw.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi yn gyntaf groesawu'r buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ei wneud mewn mesurau diogelwch ar y ffyrdd, yn sicr yn ngorllewin fy etholaeth, ac mae nifer o brosiectau ar y gweill? Yn benodol, ar gyffordd Beddau Halt yn fy etholaeth, man peryglus cyfarwydd lle mae damweiniau'n tueddu i ddigwydd, mae'r cytundeb diweddar i fuddsoddi £700,000 i wella hwnnw i'w groesawu'n fawr iawn. Cynnyrch ymgyrch gan bobl leol, trigolion lleol, gan gynghorwyr, yw'r buddsoddiad hwnnw mewn gwirionedd, ac mae wedi arwain, rwy'n credu, at bartneriaeth aruthrol i weithio ar ffyrdd o wella rhai o'r mannau peryglus hyn. A ydych yn cytuno bod hon yn ffordd dda ymlaen, gyda Llywodraeth Cymru yn gwrando ar beth y mae pobl leol a chynghorwyr lleol yn ei ddweud, a'r bartneriaeth yn buddsoddi mewn camau i wella ein mannau peryglus?
Ni allwn gytuno mwy. Yn wir, mae'r enghraifft y mae'r Aelod yn cyfeirio ati hefyd yn dangos bod pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael eu cyflawni ar lefel leol, gyda chydweithrediad a chyfranogiad, ac yn wir, mae yna lefel dda o gydweithio rhwng fy swyddogion a'r awdurdod lleol er mwyn gwella ansawdd y cais o'r cam cyntaf i'r ail gam. Ac rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi'r cynigion gyda mwy na £300,000 o gyllid, ac rwyf hefyd yn falch o allu dweud ein bod wedi dyrannu gwerth £119,000 o adnoddau i helpu i wella addysg diogelwch ffyrdd ar draws y fwrdeistref.