Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:46, 2 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, rydym yn gyffrous iawn ynglŷn â newyddion Channel 4 ac mae dau o'r awdurdodau lleol yn fy ardal yn lobïo'n eithaf cryf ar hynny eisoes, er fod yn rhaid i mi ddweud bod mwy i hyn na Channel 4 a'r Egin. Mae bron i ddwy flynedd wedi bod o'r tymor Llywodraeth hwn bellach a buaswn wedi gobeithio cael rhywfaint o eglurder ar ddatblygiad y diwydiannau creadigol, yn arbennig yr elfen ddiwylliannol rydych yn gyfrifol amdani, er fy mod yn deall, wrth gwrs, nad ydych wedi bod yn Weinidog dros y cyfnod hwnnw.

Rwy'n gweld y byddwch yn siarad yn lansiad Wythnos Twristiaeth Cymru cyn bo hir. Fe fyddwch yn gwybod am adroddiad diweddar y Ffederasiwn Busnesau Bach sy'n honni bod cronfeydd penodol Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi twristiaeth 'y tu allan i gyrraedd' y rhan fwyaf o fusnesau twristiaeth bach, gan awgrymu y byddai'n rhaid i'r rhan fwyaf o weithredwyr twristiaeth… gynllunio i ddyblu yn eu maint i fod â gobaith o gael, cymorth gan y Gronfa Busnesau Micro a Bychan, nad yw'n swnio fel rhywbeth micro iawn i mi, mae'n rhaid i mi gyfaddef.

Yn yr un modd ag y mae Cadw wedi bod yn llwyddiannus iawn yn mabwysiadu model busnes mwy anturus, gallai ein gweithredwyr treftadaeth llai o faint wneud yr un peth. Rwy'n meddwl tybed faint o weithredwyr busnesau treftadaeth sy'n rhy fach i elwa o'r grantiau twristiaeth hyn, a sut rydych yn sicrhau bod Croeso Cymru yn targedu'r rhai sy'n ddigon mawr i elwa ohonynt mewn gwirionedd?