Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 2 Mai 2018.
A gaf fi ddiolch i Adam Price, nid yn unig am ei gwestiwn, ond hefyd am fynychu'r cyfarfod briffio technegol? Rwyf wedi penderfynu cynnal cyfarfodydd briffio technegol pellach ar y mater hwn, oherwydd rwy'n ymwybodol nad oedd nifer o Aelodau, yn anffodus, yn gallu mynychu yr wythnos diwethaf, a byddaf yn rhannu manylion y cyfarfodydd briffio hynny cyn gynted ag y byddant wedi cael eu trefnu.
O ran y ddadl rydym wedi ymrwymo iddi yma, i ddechrau, fel y mae arweinydd y tŷ eisoes wedi'i nodi, roedd yr ystyriaeth yn canolbwyntio ar ba un a ddylai fod yn ddadl 'i nodi' ai peidio. Nawr, rydym bellach yn ymgynghori â chyfreithwyr, nid yn unig ar ffurf y ddadl, ond hefyd ar amseriad y ddadl, a chyn gynted ag y gallaf roi manylion llawn mewn perthynas â ffurf a dyddiad y ddadl honno, byddaf yn eu rhannu â'r Siambr.