Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:38, 2 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a chadarnhau y disgwylir y bydd y gwaith ar yr ased, sy'n hanfodol bwysig i Gaerdydd, yn cael ei gwblhau yng nghanol 2020-21? Cyfrifoldeb y cyngor yw penderfynu sut i wario arian adran 106, a deallaf fod y cyngor yn benderfynol fod angen gwneud gwelliannau ar draws y ddinas gyda'r arian hwn. Rwy'n fwy na pharod i helpu i hwyluso cyfarfod rhwng yr Aelod a'r cyngor i sicrhau gwell dealltwriaeth o'r prosiectau a fydd yn elwa o gyllid adran 106.