Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 2 Mai 2018.
Yn amlwg, gyda newyddion heddiw mai Port Talbot yw'r lle mwyaf llygredig yng Nghymru, rydym yn credu bod cael ffocws carbon isel yn y fargen ddinesig yn hollbwysig. Os nad yw'n wir heddiw, roedd yn wir pan sefydlwyd y fargen hon, ac un o'r rhaglenni, fel rhan o'r fargen, yw cartrefi fel gorsafoedd pŵer, sy'n fuddsoddiad mawr. Felly, sut rydych yn bwriadu darparu arweinyddiaeth ryngwladol er mwyn sicrhau y gallwn ddangos bod bae Abertawe yn datblygu i fod yn ardal ynni adnewyddadwy yng ngoleuni'r newyddion hwn, a sut y byddwch yn gweithio gyda'r fargen i hyrwyddo'r elfen hon o'r fargen?