Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 2 Mai 2018.
Wel, rwy'n credu bod bargen sector yn gwbl hanfodol—bargen sector dur. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu corlannu holl fuddiannau'r sector dur yng Nghymru tuag at fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae strategaeth ddiwydiannol y DU yn eu cynnig, rydym wedi dynodi un o'r pum galwad i weithredu—os hoffech, y prismau y byddwn yn ariannu busnesau drwyddynt yn y dyfodol—yn agenda ddatgarboneiddio. Rydym hefyd yn gwahodd busnesau i ddefnyddio cyfleuster her i sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i allu manteisio ar fargeinion sector yn ogystal â herio cyfleoedd cyllid o fewn strategaeth ddiwydiannol y DU. Ond rydym wedi bod yn glir iawn drwy'r cynllun gweithredu economaidd, yn y dyfodol, gyda'r contract economaidd, er mwyn croesi trothwy Llywodraeth Cymru, a chyda'r cyfleuster rydych yn ei ddefnyddio er mwyn cael cymorth ariannol, bydd yn rhaid i chi allu dangos eich bod yn cyfrannu tuag at ddatgarboneiddio. Credaf fod y sector dur, i raddau mwy nag unrhyw sector arall mae'n debyg, yn deall pwysigrwydd yr angen i ddatgarboneiddio, oherwydd ei fod yn cyfrannu tuag at effeithlonrwydd ynni. Costau ynni yw un o'r problemau mawr sy'n amharu ar waith dur yn y DU, gyda gwahaniaethau mawr iawn rhwng y costau ynni yma a chostau ynni cyfandir Ewrop. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hynny; mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hynny, ond mae gan Llywodraeth Cymru ran i'w chwarae hefyd yn sicrhau bod y sector yn datblygu i fod yn fwy modern ac yn croesawu datgarboneiddio.