Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 1:39, 2 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Croesewais ateb y Prif Weinidog i gwestiwn am yr orsaf fysiau fis diwethaf yn fawr iawn—ein bod yn ceisio sicrhau integreiddio di-dor rhwng trenau, bysiau, coetsys a'r metro, a darparu mynediad hawdd i feicwyr a cherddwyr. Fodd bynnag, deallaf fod llai o fannau beiciau yn y cynllun newydd ar gyfer yr orsaf fysiau nag a oedd yn yr un blaenorol mewn gwirionedd. Rwy'n deall bod y niferoedd wedi'u gostwng o 750 o fannau i 500, ac na fyddant yn yr orsaf fysiau ei hun mwyach ond yn hytrach mewn caban ar wahân. Felly, ni wn a all Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu mwy o wybodaeth ar hynny a'n sicrhau y bydd beicio a cherdded yn parhau i fod yn elfennau cwbl allweddol o'r gyfnewidfa drafnidiaeth hon.