Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 2 Mai 2018.
Wel, mae hwn yn fater sy'n cael ei arwain gan fy nghyd-Aelod, arweinydd y tŷ, i raddau helaeth ond mae cysylltedd digidol wedi bod wrth wraidd y weledigaeth ar gyfer y fargen ddinesig ym mae Abertawe ers blynyddoedd lawer. Rwy'n arbennig o falch fod Ed Tomp wedi'i enwi fel yr ymgeisydd a ffafrir i fod yn gadeirydd ar y bwrdd strategol ar gyfer y fargen ddinesig. Mae Ed yn ymwybodol o werth cysylltedd digidol, ac rwy'n siŵr, gyda'i arweinyddiaeth, y gwelwn fwy o ffocws, a ffocws gwell, ar yr angen i wella cysylltedd digidol yn ardal y fargen ddinesig.
O ran ymgysylltiad â Llywodraeth y DU, mae'n gwbl hanfodol fod ein gweithredoedd ni a gweithredoedd Llywodraeth y DU yn rhyngwynebu'n dda, ac nad ydym yn dyblygu gwariant nac yn dyblygu neu'n drysu rhaglenni y gallai'r ddwy Lywodraeth fod yn arwain arnynt. Am y rheswm hwnnw, rwyf fi ac arweinydd y tŷ yn cynnal trafodaethau rheolaidd â'n swyddogion cyfatebol yn yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i sicrhau ein bod yn gweithio i'r un diben, sef sicrhau bod Cymru, sicrhau bod y Deyrnas Unedig, yn un o'r gwledydd sydd â'r cysylltedd digidol gorau ar y blaned.