Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:12, 2 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae llwyddiant y fargen ddinesig yn ddibynnol ar seilwaith o'r radd flaenaf, boed hynny'n gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol neu, yn bwysicach, rhwydweithiau telathrebu cyflym iawn sydd wedi'u diogelu ar gyfer y dyfodol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyflwyno band eang gigabit a chyfathrebu symudol 5G ledled rhanbarth bae Abertawe?