10. Dadl Fer: The land of song: developing a music education strategy for Wales

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 4:45, 2 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd The Economist erthygl o'r enw, 'The quiet decline of arts in British schools'. Defnyddient astudiaeth achos o Gymru o awdurdod lleol yr effeithiwyd arno gan doriadau ariannol. Soniwyd sut roedd cyllideb y gwasanaeth cerddoriaeth wedi lleihau cymaint â 72 y cant. Disgrifiodd pennaeth gwasanaeth cerddoriaeth y cyngor ar y pryd y peth yn gryno—'Bydd llawer yn rhoi'r gorau iddi'. Ac wrth gwrs, mae'n cyfeirio at hyfforddiant offerynnol a'r offerynnau a ddarperir ganddynt.

Os yw Cymru i gadw ei henw da ledled y byd fel y gwlad y gân, mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth gerddoriaeth genedlaethol, sef cynllun, ac yn benodol, strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg perfformio cerddoriaeth i Gymru, yn amlinellu'r camau a'r gofynion, a chynnig craidd a chyson ar gyfer disgyblion Cymru. Mae egwyddorion darpariaeth gyffredinol ledled Cymru yn allweddol os ydym am sicrhau cyfleoedd wedi'u gwarantu i bawb.

Yn wir, mae arweinydd cerddorfaol mwyaf blaenllaw Cymru, Owain Arwel Hughes, wedi priodoli'r argyfwng yng ngherddoriaeth Cymru i doriadau mewn gwasanaethau cerddoriaeth. Ni ellir gwahanu'r rhain oddi wrth y gwasgu parhaus ar gyllideb Cymru, a'r pwysau felly ar wasanaethau llywodraeth leol a gwasanaethau anstatudol, er gwaethaf amddiffyniadau Llywodraeth Cymru. Nid oes neb yn fwy angerddol yng Nghymru, gwlad y gân, nag Owain Arwel Hughes, ond mae angen inni wrando ac mae angen inni wrando'n astud.

Yn ddiweddar mynychais lansiad Proms Cymru. Eleni, er siom amlwg i lawer, cafodd cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ei dynnu'n ôl. Y rhesymeg oedd bod yr arian wedi dod o gyllid datblygu economaidd Llywodraeth Cymru, ac na ellid ei gyfiawnhau mwyach. Credaf fod yn rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn syrthio i'r fagl o wybod pris popeth a gwerth dim byd.

Fel aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathebu, gwn pa mor angerddol hefyd yw ein Cadeirydd, Bethan, ynglŷn â'r mater hwn. Rhennir ei brwdfrydedd gan y cyhoedd yng Nghymru. Mae ymchwiliad ein pwyllgor i gyllid a mynediad at addysg cerdd i fod i gyflwyno'i adroddiad cyn bo hir. Ymchwiliad wedi'i ysbrydoli gan bobl Cymru oedd hwn. Pan ofynnodd y pwyllgor yn 2016 beth ddylai blaenoriaethau'r pwyllgor fod, gwelodd yr ymgynghoriad cyhoeddus mai'r hyn a oedd yn fwyaf poblogaidd oedd cyllid ar gyfer, a mynediad at addysg cerdd. Ac mae'r cyhoedd yng Nghymru ar y blaen inni fel gwleidyddion. Maent yn gwybod gwerth addysg cerdd i fywyd ein cenedl, ein hartistiaid yn y dyfodol a'n diwylliant. Maent yn pryderu, yn briodol, fod Cymru'n wynebu'r perygl o loteri cod post o ran y ddarpariaeth heb weledigaeth genedlaethol a dull cenedlaethol o weithredu strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg perfformio cerddoriaeth.

Yn gynharach eleni, comisiynais yr Athro Paul Carr o gyfadran diwydiannau creadigol Prifysgol De Cymru i gwblhau adroddiad yn edrych ar arferion gorau rhyngwladol o ran modelau addysg perfformio cerddoriaeth, a'r canlyniadau dysgu cysylltiedig ar gyfer Cymru. Dewisodd yr Athro Carr 12 o randdeiliaid a ddewiswyd naill ai ar sail eu gwybodaeth fanwl am y cyd-destun Cymreig, eu tystiolaeth a'u harbenigedd a gwybodaeth ar sail tystiolaeth o'r DU ac yn rhyngwladol. Roedd y rhanddeiliaid hyn yn cynnwys cadeirydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, cyfarwyddwr artistig BBC Cymru Wales, athrawon addysg cerdd yng Ngholeg Prifysgol Llundain, rheolwyr gyfarwyddwyr Undeb Ysgolion Cerdd Ewrop ac wrth gwrs, Cyngor Celfyddydau Cymru.  

Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei lansio yn ddiweddarach y mis hwn mewn dathliad o gerddoriaeth Gymreig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae'n waith cwmpasu pwysig gydag adroddiad o ganlyniadau i ddilyn. Ac i roi hysbysrwydd bach iddo, rwy'n gobeithio y bydd llawer o Aelodau'r Cynulliad yn gallu bod yn bresennol ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol ac artistiaid rhyngwladol. Ond rhoddodd rybudd difrifol, ac rwy'n dyfynnu:

Os na wneir rhywbeth i wrthdroi'r dirywiad presennol sydd wedi cael cyhoeddusrwydd, bydd un o'r disgrifiadau enwocaf o Gymru, sef gwlad y gân, dan fygythiad yn bendant yn y blynyddoedd i ddod, oherwydd yn syml iawn, ni fydd yn wir.

Yng Nghymru, ni allwn dderbyn canlyniadau'r cyni a orfodwyd arnom o Lundain ers 2010 sy'n dinistrio gwead cerddorol ein cenedl. Mae Cymru angen buddsoddiad cyfalaf tebyg i'r gronfa ddatblygu cerddoriaeth a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur yn 1999. Byddai hon yn darparu gwasanaeth cymorth cerddorol wedi'i fodelu o'r newydd gyda chyllid cynaliadwy angenrheidiol i wneud gweithgareddau cerddorol offerynnol yn hygyrch i bawb, ac yn lle'r mynediad cyfyngedig a geir at gerddoriaeth, cyhuddiadau o elitiaeth a'r wireb ynghylch y loteri cod post, byddai datganiad clir ar gyfer y genedl.

Cyflwynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Alun Michael, y gronfa ddatblygu cerddoriaeth yn 1999, a dosbarthwyd £8 miliwn i wasanaethau cerdd awdurdodau lleol. Ac er gwaethaf cyd-destun toriadau a'r nifer o flaenoriaethau sy'n cystadlu o fewn y Llywodraeth, rwy'n dweud wrth y lle hwn fod a wnelo'r ddadl hon heddiw â mwy na cherddoriaeth yn unig. Mae'n ymwneud â'r math o wlad y dymunwn fod. Mae'n ymwneud â'n lle a'n hunaniaeth yn y byd, ein diwylliant, ein treftadaeth, ein diwydiant creadigol a'n twf economaidd. Ac mae hefyd yn ymwneud yn helaeth â chydraddoldeb—cydraddoldeb o ran mynediad, waeth pa mor gefnog, at les, hunan-barch a llwybrau ar gyfer camu ymlaen a gyrfaoedd ym myd ehangach cerddoriaeth, ac mae'n ymwneud â chydraddoldeb yn yr ystafell ddosbarth, fel nad yw'r byd cerddorol ar gau i'r rhai sy'n gallu chwarae ond sy'n methu talu. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu ei bod hi'n bryd ymrwymo ein cenedl i strategaeth gerddoriaeth genedlaethol, cynllun i addo buddsoddiad yn sail i'r strategaeth a chefnogi gwasanaethau cymorth cerdd yng Nghymru.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, gadewch inni siarad yn onest: y dewis arall yw dull tameidiog o geisio sicrhau mynediad parhaus at addysg cerdd a chyllid ar draws Cymru, gyda lleihad mawr yn nifer y cyfleoedd i'r tlotaf yn ein cymdeithas na allant gymryd rhan yn nhirlun cerddorol Cymru a thu hwnt, na'i ymestyn. Byddwn i gyd yn dlotach oherwydd hynny, a bydd honiad balch ein cenedl mai hi yw gwlad y gân yn adleisio'n fwyfwy egwan, a bydd y diminuendo hwnnw ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen. Ac nid wyf yn credu y gallwn ni yn y lle hwn adael i hynny ddigwydd. Diolch.